Ganwyd 17 Hydref 1864 yn Nhrefor, Llandrygarn (Môn), ond symudodd ei deulu yn 1868 i Lanfair-pwll, ac yno yr aeth i'r ysgol. Aeth yn 1876 i ysgol Friars, Bangor, dan D. Lewis Lloyd, ac aeth Lloyd yn 1879 ag ef gydag ef i Ysgol Aberhonddu. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1883, a graddiodd mewn mathemateg yn 1887. Yn fyfyriwr, bu'n darllen llawysgrifau a llyfrau Cymraeg yn y Bodleian ac yn dilyn darlithiau John Rhys; yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr (6 Mai 1886) Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Yn Ionawr 1889 (wedi dal yn y cyfamser ysgoloriaeth i astudio Celteg) fe'i penodwyd yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd - rhoddwyd iddo gadair athro yn 1895. Priododd (1897) â Mary Hughes, Siglan, Llanfair; cawsant bedair merch. Urddwyd ef yn farchog yn 1918; cafodd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Glasgow yn 1919, a D.Litt. gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1927. Bu farw 16 Ebrill 1929.
Dechreuodd gyhoeddi barddoniaeth yn Cymru Fydd ac yn Cymru (O.M.E.); yn Cymru (Awst 1892) yr ymddangosodd ei awdl 'Cymru Fu: Cymru Fydd.' Yn 1907 cyhoeddodd y gyfrol Caniadau, yn cynnwys awdlau, cywyddau, telynegion, a chyfieithiadau - y cyfieithiadau mwyaf eu dylanwad oedd trosiadau o 38 o gerddi Heine, oherwydd y rhain, gyda thelynegion gwreiddiol Morris-Jones ei hun, a barodd sefydlu'r delyneg gelfyddydol fel prif fynegiant beirdd Cymru am flynyddoedd. Ond y gwychaf o'r cyfieithiadau, a'r mwyaf parhaol ei werth, yw penillion Omar Khayyám. Yr oedd glendid iaith a cheinder ymadrodd yr holl gyfrol yn amheuthun iawn yn ei dydd, ac yn enghraifft i feirdd Cymraeg o'r hyn y mynnai'r awdur iddynt hwythau ymgyrraedd ato. Iaith a chyflead barddoniaeth oedd ei brif ddiddordeb, a dyna fyrdwn ei feirniadaethau cyson yn yr eisteddfodau cenedlaethol o 1896 hyd ei farw. Agwedd ar hynny oedd ei astudiaeth drylwyr o reolau'r farddoniaeth gaeth draddodiadol. Mewn erthygl yn Zeitschrift für Celtische Philologie, 1901, dangosodd am y tro cyntaf erioed sut i ddosbarthu'r cynganeddion yn gyfundrefnol gywir, yn ôl eu haceniad a'u cydbwysedd. Ffrwyth terfynol ei waith ar y mesurau caeth yn eu holl agweddau oedd Cerdd Dafod, 1925, ac y mae ail ran y llyfr yn gwbl ddiogdel ac awdurdodol. Rhan o'r un diddordeb oedd yr erthyglau ar Dudur Aled (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1908-9) ac Edmwnd Prys (Gen., 1923), a diau mai hyn hefyd a'i harweiniodd i amau dilysrwydd haniadau 'Gorsedd y Beirdd' - yn Cymru (O.M.E.), 1896, cyhoeddodd bum erthygl ar yr 'Orsedd,' gan gasglu yn ôl y goleuni a oedd ganddo ef ar y pryd mai dyfais beirdd Morgannwg yn y 17eg ganrif oedd hi a'i defodau; ceir hanes darganfod y gwir yn y rhagymadrodd ganddo ef i lyfr G. J. Williams, Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad, 1926.
Cychwynnodd yn gynnar ar ei ymgyrch i sefydlogi orgraff yr iaith. Bu trafod ar y pwnc yng Nghymdeithas Dafydd ab Gwilym, dan Rhys, yn 1888. Yn 1893, dan nawdd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, cyhoeddwyd Welsh Orthography, adroddiad pwyllgor arbennig a Morris-Jones yn ysgrifennydd iddo - ef a sgrifennodd yr adroddiad. Wedyn, yn gadeirydd Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol, sgrifennodd ddrafft Orgraff yr Iaith Gymraeg, 1928.
Y peth cyntaf a gyhoeddodd fel gwaith ysgolheigaidd oedd argraffiad (gyda Rhys) o'r llawysgrif 'Llyvyr Agkyr Llanddewivrefi' (1346); cyhoeddwyd hwn yn 1894. Yn 1896 ymddangosodd adargraffiad, llinell am linell, o Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, gyda rhagymadrodd ar fywyd yr awdur a chefndir llenyddol y llyfr. Bu'n gweithio am flynyddoedd ar ramadeg a chystrawen y Gymraeg cyn cyhoeddi, 1913, ei brif waith ysgolheigaidd, A Welsh Grammar, Historical and Comparative . Gellir dadlau fod rhai damcaniaethau yn adran ieithegol y llyfr yn rhy fentrus, ac y mae ymchwil ieithegol ddiweddarach, o anghenraid, wedi disodli llawer o'i gynigion; ond y mae corff y llyfr, sef y gramadeg disgrifiadol pur, yn aros yn gadarn yn ei holl hanfodion, ac yn dystiolaeth i graffter eithriadol Morris-Jones i ddarganfod rheol ramadegol, a'i ddawn i'w mynegi. Cyhoeddwyd drafft anghyflawn o'i waith ar gystrawen yr iaith, dan y teitl Welsh Syntax, yn 1931. Ei waith ysgolheigaidd mawr arall oedd Taliesin (= Cymm., xxviii), sef, yn y lle cyntaf, adolygiad ar arg. J. Gwenogvryn Evans o 'Lyfr Taliesin,' ond gyda hynny drafodaeth werthfawr, yn cynnwys cyfieithiadau a nodiadau, ar rai o'r cerddi hanesyddol i Urien a'i fab Owain. Sgrifennodd lawer o erthyglau i gylchgronau, rhai ohonynt mewn dadleuon ar yr orgraff a phynciau perthnasol, a bu'n olygydd Y Beirniad chwarterol o 1911 hyd 1919.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.