Cywiriadau

EVANS, EVAN KERI (1860 - 1941) gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Evan Keri Evans
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1941
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Oliver Stephens

Ganwyd 2 Mai 1860 ym Mhontceri ger Castell Newydd Emlyn. Wedi ei brentisio'n saer coed, ac ymgydnabyddu'n gynnar â'r awen, dechreuodd bregethu yn eglwys Annibynnol Trewen. Ar ôl tymor yn ysgol ramadeg Castell Newydd Emlyn derbyniwyd ef, yn 1881, i goleg presbyteraidd Caerfyrddin lle'r amlygodd allu eithriadol fel myfyriwr. Wedi ennill ysgoloriaeth Dr. Williams aeth i Brifysgol Glasgow yn 1884. Graddiodd yn M.A. yn 1888 gydag anrhydedd yn y clasuron a'r anrhydedd uchaf mewn athroniaeth. Enillodd Gymrodoriaeth Ewing mewn llenyddiaeth ac ysgoloriaeth Ferguson a oedd yn agored i'r pedair prifysgol Ysgotaidd. Yn 1890 enillodd gymrodoriaeth Clark. Wedi bod am dymor yn Leipzig gwnaed ef yn athro cynorthwyol i Dr. Edward Caird yn Glasgow.

Yn 1891 penodwyd ef yn athro mewn athroniaeth yng ngholeg y Brifysgol, Bangor. Yn 1894 fe'i gwnaed yn arholwr M.A. Glasgow. Torrodd ei iechyd i lawr yn 1896 eithr, yn 1897, urddwyd ef yn weinidog yn Hawen a Bryngwenith. Yn 1900 symudodd i eglwys y Priordy, Caerfyrddin, ac yn y flwyddyn ganlynol fe'i hapwyntiwyd yn athro yn ei hen goleg mewn athroniaeth ac Athrawiaeth Gristnogol.

Dylanwadodd diwygiad 1904-5 yn ddwfn arno. Ymdaflodd i Fudiad Dyfnhau y Bywyd Ysbrydol a rhoddodd i fyny ei gadair yn y coleg yn 1907. Ar ôl anterth y diwygiad ailddeffrôdd ei ddawn lenorol ddisglair. Cyhoeddodd gofiant ei frawd D. Emlyn Evans yn 1919, cofiant Dr. Joseph Parry yn 1921, a chofiant Dr. David Adams yn 1924. Yn 1938, ymddangosodd ei lyfr nodedig, Fy Mhererindod Ysbrydol. Yr un flwyddyn ymddeolodd o'r weinidogaeth a symudodd i Lanelli lle y bu farw 7 Mehefin 1941. Yr oedd ganddo ddawn arbennig i gyfieithu emynau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

EVANS, EVAN KERI

Mab Evan Evans a Mary ei wraig, a brawd D. Emlyn Evans (Bywg., 211; uchod). Enillodd gadair yn Eisteddfod Crymych pan nad oedd ond 17 oed, a dywedir iddo gael ei gario adref ynddi bob cam i Gastellnewydd Emlyn. Tra oedd ym Mhrifysgol Glasgow enillodd hefyd ysgoloriaeth Snell i'w dal yng Ngholeg Balliol, ond gan nad oedd athro athroniaeth yn Rhydychen (ac eithrio T. H. Green) cafodd ganiatâd senedd Prifysgol Glasgow i'w dal yn Leipzig lle oedd Wilhelm Wundt yn athro athroniaeth. Bu raid iddo roddi ei swydd yn y Coleg Presbyteraidd i fyny oherwydd esgeuluso'i ddarlithiau yng ngwres y Diwygiad. Yn ddiweddarach cafodd gynnig prifathrawiaeth y Coleg Coffa yn Aberhonddu, ond fe'i gwrthododd.

Awdur

  • Emrys Peregryn Evans, (1898 - 1981)

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.