EVANS, DAVID EMLYN (1843 - 1913), cerddor

Enw: David Emlyn Evans
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1913
Priod: Ann Elizabeth Davies (née Francis)
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Cerddoriaeth
Awduron: David Ewart Parry Williams, Emrys Peregryn Evans

Ganwyd 21 Medi 1843 yn Castellnewydd Emlyn, mab Evan Evans (1817 - 1902) a'i wraig Mary (1816 - 1884) a gladdwyd ill dau yn hen fynwent Tre-wen, Cwm-cou, Ceredigion. Yr oedd mam Evan Evans (ganwyd Peregryn) o linach Huguenot ac yn disgyn o deulu Francis, Dinas Ceri a Chwmsylltyn ac yn berthynas i Enoch Francis (1688/9 - 1740) a bu ei dad yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn Abergwaun yn 1797, a chedwid y cledd a ddefnyddiodd ger y lle tân yng nghegin Brynderwen, Castellnewydd Emlyn. Cymerodd Evan Evans ran yn Helynt Beca, gan ddefnyddio cleddyf ei dad. Bu'n oruchwyliwr yng ngwaith dur Cyfarthfa. Arferai fynychu arwerthiannau mewn hen dai a ffermdai a chasglodd lyfrgell dda.

Prentisiwyd Emlyn Evans gyda dilledydd. Dechreuodd ei efrydiau gyda chymorth yr ychydig lyfrau Cymraeg ar gerddoriaeth y gellid eu cael ar y pryd a chael gwersi yn achlysurol gan John Roberts ('Ieuan Gwyllt'). Enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau am gyfansoddi. Daeth yn drafaeliwr dros ffyrm, gan barhau i roddi sylw i gyfansoddi, beirniadu, a beirniadaeth, serch bod ei iechyd yn fregus a'i fod yn gorfod teithio llawer. Ymysg ei lu cyfansoddiadau y mae llawer o ganeuon, anthemau, canigau, rhanganau, a thonau - daeth y tonau ' Trewen ' ac ' Eirinwg ' yn bur adnabyddus mewn cylchoedd Cymreig. Cyfansoddodd dri gwaith gweddol hir i gorau - (a) ' Y Tylwyth Teg,' opereta yn defnyddio melodïau Cymreig, (b) ' Gweddi'r Cristnogion,' cantata, a (c) ' Y Caethgludiad,' gwaith mwy uchelgeisiol ar ffurf oratorio. Trefnodd ' Ystorm Tiberias,' gan Edward Stephen ('Tanymarian'), yr oratorio Gymraeg gyntaf, ar gyfer cerddorfa. Fel golygydd a beirniad gwnaeth Emlyn Evans gyfraniad pwysig i gerddoriaeth yng Nghymru. Bu iddo ran yng ngolygyddiaeth Y Gerddorfa, 1872, Y Cerddor, 1880-1913, ac amryw lyfrau tonau, gan gynnwys Y Caniedydd Cynulleidfaol, 1895, Y Salmydd, a Llyfr Tonau y Wesleyaid. Golygodd a chynganeddodd dros 500 o alawon Cymreig traddodiadol a gasglwyd gan Nicholas Bennett, a'u cyhoeddi wedi hynny a dan y teitl Alawon fy Ngwlad; golygodd hefyd draethawd bywgraffyddol gwobrwyedig M. O. Jones ar gerddorion Cymreig - sef Bywgraffiad Cerddorion Cymreig. Dylanwadodd ei erthyglau yn y Wasg (Musical Times, South Wales Weekly News, etc.) yn fawr ar gerddoriaeth Cymru. Yr oedd yn llawdrwm ar yr arferiad o gyfansoddi canigau ar gyfer cystadleuaethau mewn eisteddfodau yn unig ac ar y diffyg dewis a chwaeth a oedd yn bod mewn cysylltiad â chaniadaeth emynau yng Nghymru. Cyhoeddodd werslyfr, Llawlyfr ar Gynghanedd, a fu'n bur llwyddiannus. Bu farw 19 Ebrill 1913, yng Nghastell-newydd-Emlyn, a chladdwyd 24 Ebrill, yn Llandyfriog..

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.