JONES, MOSES OWEN (1842-1908), ysgolfeistr, cerddor, a llenor

Enw: Moses Owen Jones
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1908
Rhiant: Ellen Jones
Rhiant: Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, cerddor, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth
Awduron: Robert David Griffith, William Llewelyn Davies

Ganwyd 31 Hydref 1842 yn Gallt-y-foel, Dinorwig, Sir Gaernarfon, mab Owen ac Ellen Jones. Dechreuodd ei yrfa yn ddisgybl-athro yn Ysgol Frutanaidd Deiniolen. Yn 1861 aeth i Goleg Borough Road, Llundain, am gwrs o addysg. Yn Ionawr 1862 penodwyd ef yn is-athro yn ysgol y Carneddi, Bethesda. Ym Mai 1863 penodwyd ef yn bennaeth ysgol yn Treherbert, Rhondda, Sir Forgannwg, ac yno y treuliodd ei oes. Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth gydag Evan Jones, arweinydd canu capel Annibynnol Ebeneser. Yn y coleg yn Llundain daeth i wybod am gyfundrefn y tonic sol-ffa, ac ymroddodd i'w dysgu. Yn 1868 penodwyd ef yn arweinydd canu capel Annibynwyr Carmel, Treherbert, ac i ganu'r offeryn, a chyflawnodd y gwaith tra bu byw. Cyfansoddodd nifer fawr o anthemau, rhanganau, caneuon, ac emyn-donau; ceir amryw o'i donau yn Y Caniedydd Cynulleidfaol. Yr oedd yn un o olygyddion Y Caniedydd Cynulleidfaol, 1895, a hefyd Caniedydd yr Ysgol Sul. Golygodd adran y sol-ffa o Cronicl y Cerddor o dan olygiaeth D. Emlyn Evans. Perfformiodd côr o dan ei arweiniad amryw gyfanweithiau, a llwyddo i ennill gwobrwyon mewn llawer o eisteddfodau. Gelwid hefyd am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu.

Yr oedd M. O. Jones yn hanesydd a thraethodwr a lwyddodd droeon yn yr eisteddfodau cenedlaethol. Ei draethawd mwyaf adnabyddus, efallai, yw hwnnw a enillodd yn eisteddfod genedlaethol Llundain yn 1887 ac a gyhoeddwyd yn 1890 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig; yr oedd M. O. Jones wedi ysgrifennu ' Hanes Bywgraphyddol a Beirniadol o Gerddorion Cymreig ' ar gyfer eisteddfod a gynhaliwyd yn Aberdâr yn 1885 (gweler NLW MSS 4374-5E ). Ysgrifennodd 'Llyfryddiaeth Cerddoriaeth Gymreig' (hyd 1896)' ar gyfer eisteddfod genedlaethol Caerdydd, 1899 (gweler NLW MS 4384E ). Ar gyfer eisteddfod genedlaethol Caerdydd 1883 ysgrifennodd ' Hanes Eisteddfodau y Ganrif Bresennol ' (NLW MS 4376E ); paratôdd hefyd ' Llawlyfr Hanesyddol o'r Prif Eisteddfodau … hyd 1892 ' ar gyfer eisteddfod Chicago, 1893 (NLW MS 4377E ). Dau draethawd gwerthfawr o'i waith ydyw 'The History of the Development of the Coal Industry in the Rhondda Valleys for the last 50 years,' sef hyd 1895 (NLW MS 4378E ), a 'A History of the Parish of Ystradyfodwg, Glamorgan' (NLW MS 4383E ). Gweler hefyd NLW MS 4371E ('Llen Gwerin Cymru'), NLW MS 4372D ('Y Trioedd Cymreig'), a NLW MS 4373D , sef 'Biographies of Penry Williams (artist), Hugh Hughes (engraver), and Joseph Edwards (sculptor).' Bu farw 27 Gorffennaf 1908

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.