mab i James Edwards, saer cerrig, o Ynysgau, Merthyr Tydfil. Ganed ef 5 Mawrth 1814 ac anfonwyd ef i ysgol a gedwid gan J. B. Evans, gweinidog capel Ynysgau, ac yn ddiweddarach i ysgol George Williams ac i ddosbarth nos a gynhelid gan David Williams. Hoffai arlunio a cherflunio pan yn blentyn, ac yr oedd eisoes wedi cerfio carreg fedd addurniadol ym mynwent Merthyr cyn iddo, yn 17 oed, weled y casgliad o gerfluniaeth ym Margam. Ysbrydolwyd ef gan yr hyn a welodd, ac yn fuan ar ôl hynny cafodd waith gyda gwneuthurwr cerrig bedd yn Abertawe. Er ei godi'n ben ar ei gyd-weithwyr yno aeth adre'n ôl i Ferthyr ymhen dwy flynedd ac yna, yn 1835, aeth i Lundain a chanddo lythyr yn ei gyflwyno i William Behnes y cerflunydd.
Bu Joseph Edwards yn gweithio yn arlunfa Behnes am beth amser, ac ym mis Rhagfyr 1835 derbyniwyd ef yn efrydydd yn Ysgol Academi Frenhinol y Celfyddydau. Yno enillodd fedalau arian yr academi am gynlluniau seiliedig ar hynafiaethau - yn 1838 ac eilwaith yn 1839. Daeth llawer o archebau i'w ran ar ôl hyn, ac yn ychwanegol at nifer o weithiau damhegol gwnaeth hefyd nifer mawr o gofgolofnau ac o benddelwau.
Ymysg rhai o'i weithiau damhegol pwysicaf ceir ei ddarnau mawr - ' Y Breuddwyd Olaf,' ' Crefydd yn cysuro Cyfiawnder,' cofgolofn i Syr Bernard Bosanquet yn eglwys Dingestow yn sir Fynwy, a ' Crefydd,' sef gwaith a ddangoswyd yn yr arddangosfa ryngwladol yn 1862. Saif yr olaf yn awr ym mynwent Cefn ger Merthyr a cheir copi o'r gofgolofn ym mynwent Highgate. Bu Edwards am beth amser yn gweithio i'r cerflunydd Macdowell a cheir ôl ei law ar amryw o'i weithiau adnabyddus ef.
Y mae nifer mawr o gofgolofnau a phenddelwau o'i waith i'w gweled yn eglwysi a mynwentydd Cymru, yn Abaty Westminster, ac yn neuadd tref Merthyr ymysg lleoedd eraill. Gwnaeth nifer o benddelwau o aelodau o'r teuluoedd amlycaf yn Ne Cymru, sef teuluoedd Beaufort, Guest, Raglan, a Crawshay, a hefyd o nifer o Gymry enwog fel ' Ab Iolo,' Thomas Stephens, G. T. Clark, William Williams, aelod seneddol dros Coventry, ac Edith Wynne. Yn 1859 gofynnodd gweddw George Virtue, golygydd y cylchgrawn Art Journal, iddo wneud penddelw a chofgolofn i'w gwr. Edwards hefyd a gafodd yr anrhydedd o gynllunio medal Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1880. Derbyniwyd 70 o'i weithiau ar gyfer arddangosfeydd Academi Frenhinol y Celfyddydau rhwng 1838 a 1878. Ar anogaeth G. F. Watts cynigiodd ei hun yn 1881 fel un o dderbynwyr y ' Turner Bequest,' gwerth £50 y flwyddyn. Bu farw 9 Ionawr 1882.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.