CRAWSHAY (TEULU), Cyfarthfa, Sir Forgannwg

Dylanwadodd rhai aelodau o'r teulu hwn yn fawr iawn ar ddiwydiant haearn a glo a chynnydd masnachol De Cymru; y mae eu henw ynghlwm ag ardal Cyfarthfa, Merthyr Tydfil, yn fwyaf arbennig.

RICHARD CRAWSHAY (1739 - 1810)

Ganwyd yn Normanton, swydd Efrog, mab William Crawshay, ffermwr. Ffraeodd â'i dad ac yn 16 oed gadawodd ei gartref, gan drafaelio i Lundain a chyrraedd yno heb arian a gorfod gwerthu'r merlyn y marchogasai arno. Cafodd waith mewn lle yr oeddid yn gwerthu heiyrn smwddio. Enillodd edmygedd ei feistr, priododd ferch hwnnw, a daeth i feddu'r busnes. Clywodd am sefydlu gweithydd haearn yn Ne Cymru ac aeth i Ferthyr a phrynu les Homfray yng Nghyfarthfa lle yr oeddid yn tyllu gynnau mawr. Pan fu farw Anthony Bacon I cafodd les gwaith Cyfarthfa yn ystod yr amser yr oedd meibion hwnnw o dan oed; yn ddiweddarach prynodd gyfran Anthony Bacon II a daeth yn unig berchennog y gwaith (1794). Mabwysiadodd ddulliau Cort ynglyn â melinau pwdlo a rholio haearn, ac adeiladodd ffwrneisiau, gefeiliau, a melinau newydd; bu hefyd yn hyrwyddo'r mudiad i gael y gamlas a agorwyd o Ferthyr i Gaerdydd yn 1794. Manteisiodd ar y galw am ynnau mawr a achosid gan y rhyfel Napoleonaidd a phris uchel haearn o Rwsia a Sweden. Cafodd gymorth gwerthfawr gan ei ddau nai, Joseph a Crawshay Bailey, meibion ei chwaer, eithr parodd ei unig fab, William, gryn drwbl iddo. Daeth y tad a'r mab i ddeall ei gilydd yn well yn ddiweddarach. O dan ewyllys y tad, cafodd William dair rhan allan o bob wyth; aeth cyfran gyffelyb i Benjamin Hall, gwr ei ferch Charlotte (dyma rieni Syr Benjamin Hall, ' Big Ben,' a'r arglwydd Llanover 1af); a rhoddwyd y chwarter arall i Joseph Bailey. Bu Richard farw yn 1810 a'i gladdu yn eglwys gadeiriol Llandaf.

Nid ymddiddorai

WILLIAM CRAWSHAY I

fawr yn y gwaith o wneuthur haearn, eithr gofalu am ochr y gwerthu yn y George Yard, Upper Thames Street, Llundain, gan adael i'w fab William Crawshay II ofalu am y gweithydd yng Nghyfarthfa a Hirwaun. Yr oedd ef yn amgenach personoliaeth nag a bortreadir gan Charles Wilkins ac ysgrifenwyr eraill. Llwyddodd i brynu cyfrannau Benjamin Hall a Joseph Bailey ac felly ddyfod yn berchen ar y cwbl. Bu farw yn Stoke Newington, gerllaw Llundain, gan adael eiddo gwerth £700,000. Bu iddo dri mab a dwy ferch.

WILLIAM CRAWSHAY II (1788 - 1867),

a reolai weithydd Cyfarthfa a Hirwaun; prynodd hefyd weithydd haearn yn Trefforest a'r Forest of Dean. Efe ydyw'r hwn a gyfenwid yn gyffredin 'Brenin yr Haearn.' Yn ei gyfnod ef tyfodd y gwaith yn fawr; gwneid llawer iawn o haearn a chodid llawer iawn o lo at borthi'r ffwrneisiau. Tueddai ei agwedd at ei weithwyr i'w ffromi hwynt ar adegau, e.e. ar adeg y cythrwfl ym Merthyr Tydfil. Gadawodd waith Trefforest i'w fab FRANCIS, gwaith y Forest of Dean i HENRY, a Chyfarthfa i'w fab ieuengaf, ROBERT THOMPSON CRAWSHAY. Yr oedd ganddo hefyd gyfrannau yn y Taff Vale Railway, etc. Bu farw yn Caversham Park, Reading, 4 Awst 1867.

Ganed

ROBERT THOMPSON CRAWSHAY (1817 - 1879),

yn Cyfarthfa, 3 Mawrth 1817. Cadwodd ef waith Cyfarthfa ymlaen nes y daeth y dirwasgiad mawr ac y bu i ddarganfyddiad Henry Bessemer drawsnewid y dull o wneud dur. Bu ef farw 10 Mai 1879 a'i gladdu yng nghladdfa eglwys y Faenor. Cynorthwyodd ef a'i wraig, Rose Mary Crawshay, gyda'r gwaith o godi ysgolion. Cadwyd y busnes ymlaen gan ei feibion o dan yr enw ' Messrs. Crawshay Bros. ' nes y'i trosglwyddwyd i'r Meistri Guest, Keen, and Nettlefold yn 1902.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.