Ganwyd yn Stonehouse, sir Gaerloyw, mab William Wilkins, a ymsefydlodd ym Merthyr Tydfil fel llyfrwerthwr. Yn 1851 daeth y tad yn bostfeistr Merthyr a bu'r mab yn glerc iddo. Dilynodd ei dad fel postfeistr 20 mlynedd yn ddiweddarach gan ymneilltuo, ar flwydd-dâl, yn 1898. Bu'n llyfrgellydd y ' Merthyr Tydfil Subscription Library ' o'i dechreuad yn 1846; Thomas Stephens ('Gwyddon') oedd ysgrifennydd y llyfrgell. Bu farw yn ei gartref, Springfield, Merthyr Tydfil, 2 Awst 1913.
Ysgrifennodd yn helaeth ar wahanol bynciau i bapurau wythnosol Merthyr a Chaerdydd, Ei brif weithiau ydyw - The History of Merthyr Tydfil, 1867 a 1908; The History of the Literature of Wales from 1300 to 1650, 1884, sef helaethiad o'r traethawd ar hanes llenyddiaeth Gwent a Morgannwg yr enillodd arno yn yr eisteddfod genedlaethol; The History of the Coal Trade of South Wales, 1888; The History of the Iron, Steel, Tinplate and other Trades of Wales, 1903. Bu'n golygu The Red Dragon , 1882-7.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.