Ganwyd Crawshay Bailey yn 1789 yn Great Wenham, Suffolk, mab ieuengaf Joseph (neu John) Bailey, Wakefield, swydd Efrog, a'i wraig Susannah, chwaer Richard Crawshay. Yn 12 oed daeth i Gyfarthfa, Merthyr Tydfil, at ei frawd Joseph Bailey a oedd eisoes yng ngwasanaeth ei ewythr, Richard Crawshay, yng ngwaith Cyfarthfa. Gadawodd yr ewythr £1,000 iddo yn ei ewyllys. Efallai iddo aros yn Cyfarthfa am beth amser wedi marw ei ewythr; nid oes sicrwydd iddo ymadael gyda'i frawd Joseph pan ddechreuodd hwnnw, gyda Matthew Wayne, weithio yn Nantyglo yn 1811 - eithr gwyddys iddo ddyfod yn bartner yng ngwaith Nantyglo pan ymadawodd Wayne yn 1820. O hynny ymlaen bu'r ddau frawd yn cydweithio i ddatblygu gwaith Nantyglo, ac, yn ddiweddarach, waith Beaufort. Yr oedd traddodiad yn ardal Rhymni fod y gwaith haearn yno yn perthyn iddo beth amser cyn 1825. Y mae papurau Crawshay yn y Llyfrgell Genedlaethol yn tueddu i gadarnhau hyn; ymddengys oddi wrthynt mai ei gefnder, William Crawshay, Llundain, perchennog gwaith Cyfarthfa ar y pryd, a rwystrodd Crawshay Bailey rhag parhau yn Rhymni. Crawshay Bailey a wnaeth y ffordd dram o Rymni i Fasaleg - ac awgryma hyn gysylltiad â gwaith Rhymni. Yn 1835, pan fu sasiwn y Methodistiaid Calfinaidd yn Salem, Nantyglo, rhoes Crawshay Bailey, a oedd yn eglwyswr, lety a chynhaliaeth i'r llywydd a phump o'r gweinidogion pennaf - gan ddangos trwy hyn, efallai, ei ddiolch i'r Methodistiaid am iddynt, yn eu sasiwn yn Nhredegar, 19 Hydref 1831, blwyddyn y cythrwfl ym Merthyr, benderfynu na allai un yn perthyn i undeb llafur fod yn aelod eglwysig.
Er ei fod ei hunan yn feistr haearn enwog, yr oedd gwahaniaeth rhyngddo a'r meistri eraill. Canfu ef y gellid disgwyl elw mawr o ddatblygu'r diwydiant glo yn Ne Cymru; prynodd ddarnau lawer o dir am eu pris amaethyddol - yn Aberaman, Aberpennar, a dyffryn Rhondda. Prynodd ystad teulu'r Mathewiaid yn Aberaman a'u plasty. Buasai disgynyddion Anthony Bacon yn byw yn y ty hwn; gan ysgutorion Anthony Bacon II y prynodd Crawshay Bailey yr eiddo (17 Chwefror 1837). Yr oedd rhai o'r haenau gorau'n bosibl o lo a haearn o dan y ddaear yn Aberaman ond heb i neb geisio eu gweithio hyd yn hyn; bu iddo yntau hefyd aros am tua naw mlynedd cyn gadael Nantyglo. Yn y cyfamser tyllid pyllau glo yn Cwmbach yn ymyl camlas Aberdâr. Pan oedd yn bryd i'r dyffryn gael rheilffordd ymunodd a Syr Josiah John Guest i gael pasio gweithred seneddol (1845) er mwyn gwneuthur ffordd haearn Aberdâr a'i chysylltu yn Navigation (Abercynon yn awr) â'r Taff Vale Railway. Gadawodd Nantyglo gan adael ei nai i ofalu am weithydd Nantyglo a Beaufort. Dechreuwyd gwneud pwll glo Aberaman a ffwrneisiau toddi haearn, etc. Agorwyd y ffordd haearn 1 Awst 1846, ac erbyn mis Mai 1847 yr oeddid yn pwdlo haearn am y tro cyntaf yn hanes Aberaman. Yn 1846 yr oedd Crawshay Bailey yn hyrwyddo ffurfio cwmni nwy Aberaman ac Aberdâr, yr oedd yn aelod o fwrdd iechyd Aberdâr o'i gychwyn yn 1854, ac fe'i dewiswyd yn siryf sir Frycheiniog yn 1850. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Mynwy o 1852 hyd 1868.
Bu'n ddiwyd yn hyrwyddo'r mudiad i wneud rheilffyrdd. Heblaw'r ffordd dram o Rymni i Fasaleg, a ffordd haearn dyffryn Aberdâr, gwnaeth ffordd dram newydd o Beaufort a Nantyglo i Lanffwyst (i gysylltu â chamlas Aberhonddu a'r Fenni). Yn 1852 bu'n hyrwyddo gwneuthur ffordd haearn o'r Forest of Dean trwy Coleford, Trefynwy, a Brynbuga, i Bontypwl, etc.
Ar 2 Chwefror 1867 trosglwyddodd ystad Aberaman, ynghyd â'r pyllau glo, y gweithydd haearn a phriddfeini, y rheilffordd, etc., i'r Powell Duffryn Steam Coal Co. am £123,500, ac erbyn 1869-1870 yr oedd wedi gwerthu gweithydd Nantyglo a Beaufort hefyd. Bu farw yn Llanfoist House, 9 Ionawr 1872, gan adael unig fab, CRAWSHAY BAILEY II (1821 - 1887), a briododd Elizabeth, iarlles Bettina, unig ferch Jean Baptiste, iarll Metaxa. Gadawodd ef ddwy ferch: (1) Clara, a briododd William James Gordon Canning, Hartputy Court, swydd Gloster, a (2) Augusta Emily, a briododd William Carne Curre, Itton Court, sir Fynwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.