Erthygl a archifwyd

HALL, BENJAMIN Arglwydd Llanofer (1802-1867), gwleidydd a diwygiwr

Enw: Benjamin Hall
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1867
Priod: Augusta Hall (née Waddington)
Plentyn: Augusta Charlotte Elizabeth Jones (née Hall)
Rhiant: Charlotte Hall (née Crawshay)
Rhiant: Benjamin Hall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd a diwygiwr
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Marion Löffler

Ganwyd Benjamin Hall, Arglwydd Llanover 1af, yn Llundain ar 8 Tachwedd 1802, yr hynaf o bedwar mab y diwydiannwr Benjamin Hall (1778-1817) a'i wraig Charlotte (ganwyd Crawshay, 1784-1839). Symudodd y teulu i stad Aber-carn yn Sir Fynwy pan oedd Benjamin Hall yn chwe mlwydd oed. Mynychodd Ysgol Westminster o 1814 tan 1820, pan ymunodd â Choleg Christ Church, Rhydychen. Gadawodd Rhydychen ym 1821 heb gymryd gradd.

Yn fuan wedyn, digwyddodd dau beth a weddnewidiodd ei fywyd. Yn ystod taith o gwmpas Lloegr a'r Alban ym 1822 ymwelodd â phentref New Lanark a sefydlasid gan Robert Owen, gan ddysgu am y cysylltiad rhwng amgylchiadau byw'r dosbarth gweithio a'u moesau, a magu'r awydd i ddiwygio cymdeithas a'i gwnâi yn wleidydd Rhyddfrydol llwyddiannus. Drwy ei briodas ag Augusta Waddington, Arglwyddes Llanover, ar 4 Rhagfyr 1823, daeth yn aelod o gylch dylanwadol o noddwyr yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a gyfunodd genedlaetholdeb diwylliannol a Phrotestaniaeth selog.

Etholwyd ef yn AS Rhyddfrydol dros fwrdeistrefi Mynwy ym 1831, collodd ei sedd ar betisiwn, ond fe'i hetholwyd eto ym 1832. Gwasanaethodd fel aelod dros fwrdeistrefi Mynwy tan 1837, pan wahoddwyd ef i sefyll dros Marylebone. Bu'n AS llwyddiannus iawn yno tan 1859, gan areithio'n aml yn Nhŷ'r Cyffredin. Cyhoeddwyd ei A Letter to his Grace of Canterbury ym 1850, araith a gafodd effaith fawr ar y ddadl dros ddiwygio'r Eglwys. Fe'i gwnaethpwyd yn farwnig ym 1838, a'i apwyntio yn Llywydd y Bwrdd Iechyd ym 1854. Yn sgil ei weithgarwch yn ystod yr epidemig colera a ymledodd drwy Lundain bythefnos wedi ei apwyntiad, a'i ymgyrch egnïol i yrru drwy'r senedd ddeddf iechyd a arweiniodd at sefydlu Bwrdd Gweithiau'r Brifddinas (rhagflaenydd Cyngor Sir Llundain), daeth i sylw'r Frenhines ac fe'i penodwyd yn Brif Gomisiynydd Gweithiau ym 1855, swydd a ddaliodd tan 1858. Ym 1855 ymgyrchodd yn llwyddiannus dros agor parciau Llundain i'r cyhoedd ar ddyddiau Sul er mwyn gwella iechyd y bobl gyffredin, a mwynhawyd y cynllun gan filoedd o bobl, er gwaethaf protestiadau gan Sabathyddwyr. Goruchwyliodd gastio a gosodiad cloc mawr Westminster yn ystod ei gyfnod yn y swydd, a oedd hefyd yn cwmpasu ailadeiladu'r Senedd-dai, ac enwyd y cloc yn 'Big Ben' i gydnabod ei gyfraniad, ond hefyd y ffaith ei fod yn ddyn tal iawn, 6'7 yn ôl rhai. Cafodd ei urddo'n arglwydd ar 29 Mehefin 1859 yn ystod ail dymor Palmerston, i brotestiadau gan y sawl a'i hystyriai'n radical gwleidyddol, daeth yn Farwn Llanofer o Lanofer ac Aber-carn, a chymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Drwy ei briodas ag Arglwyddes Llanofer, daeth yn rhan o gylch o noddwyr yr iaith Gymraeg a'i diwylliant, er bod y pryder am fuddiannau crefyddol siaradwyr Cymraeg, yn enwedig cyflenwi clerigwyr a fedrai'r Gymraeg, yn flaenoriaeth iddo ef, yn fwy nag iddi hi efallai. Dyma'r cefndir i'w ddadl gyda'r esgob Connop Thirlwall ar gyflwr yr Eglwys yn esgobaeth Tyddewi. Bu'n un o Gymry blaenllaw Llundain a gyfarfu ym 1842 i drafod noddi gwasanaethau'r Eglwys yn y Gymraeg yn y brifddinas. Wedi codi'r arian angenrheidiol i brydlesu eglwys St Ethelreda a thalu am glerigwr, cynhaliwyd gwasanaeth Cymraeg cyntaf Eglwys Esgobaethol Ely Place, Holborn, ym mis Rhagfyr 1843, gan barhau tan 1874. Yn ei gartref yn Aber-carn, adeiladodd eglwys newydd sbon i gynnal gwasanaethau Cymraeg, a gysegrwyd ym 1854. Delweddir symlrwydd bywyd beunyddiol a thueddiadau dirwestol Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer gan adroddiad cyfoesol am graffiti ar borth eu hystad, 'A park without deer, a house without beer, Sir Benjamin Hall lives here'.

Yn heliwr brwd drwy gydol ei oes, dioddefodd Benjamin Hall sawl damwain farchogaeth, a chollodd lygad mewn damwain saethu ym 1848. Bu farw yn Llundain ar 27 Ebrill 1867 o diwmor yn ei wyneb a achoswyd gan ddamwain saethu ym mis Tachwedd 1866. Claddwyd ef ym meddrod y teulu ger eglwys St Bartholomew, Llanofer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-06-08

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.