PRICE, THOMAS ('Carnhuanawc'; 1787 - 1848), clerigwr a hanesydd

Enw: Thomas Price
Ffugenw: Carnhuanawc
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1848
Rhiant: Mary Price (née Bowen)
Rhiant: Rice Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brinley Rees

Ganwyd 2 Hydref 1787 yn Pencaerelin yn Llanfihangel Bryn Pabuan, sir Frycheiniog, yr ail o ddau blentyn Rice Price, ficer Llanwrthwl o 1789 hyd ei farw yn 1810, a Mary Bowen, Pencaerelin hithau'n ferch i glerigwr ac o dras bonheddig. Ar yr aelwyd gartref clywai'r bachgen hen gerddi a thraddodiadau'r werin, cywyddau Dafydd ap Gwilym, ac, ar dro, fiwsig y delyn. Bu ef a'i frawd mewn tair ysgol yn y pentref ac yn ysgol ficerdy Llanafan ddwy filltir o'u cartref. Wedi i'r teulu symud i Lanfair ym Muellt yn 1800 bu am bum mlynedd mewn ysgol 'glasurol' a gynhelid gan gurad y plwyf. O'i fachgendod, hoff oedd ganddo bob ceinder ac yr oedd yn hynod ddehau â'i ddwylo. Yn 1805, â'i fryd ar urddau eglwysig, aeth i ysgol Coleg Crist yn Aberhonddu, gan letya yn y dref honno. Tra bu yno byddai'n ymweld yn gyson â thy Theophilus Jones, a bu'n cynorthwyo'r hanesydd i ddwyn yr ail gyfrol o'i waith i ben. Ei waith ef oedd llawer o'r lluniau ynddi, ac yn Archaeologia, xvii, cyhoeddwyd llythyr a sgrifennodd at Jones yn 1811 yn disgrifio olion Rhufeinig gerllaw Llandrindod. Ar 10 Mawrth 1811 ordeiniwyd ef yn ddiacon a'i wneud yn gurad Llanllyr yn Rhos a Llanfihangel Helygen yn sir Faesyfed; derbyniodd urddau offeiriad y flwyddyn wedyn, 12 Medi. Yn Ebrill 1813 symudodd i Grughywel fel curad Llangeneu, Llanbedr Ystrad Yw, a Patrishow, ac yn 1816 daeth Llangatwg a Llanelli hefyd o dan ei ofal. Yng nghydiad 1819-20 bu bron iddo fynd yn offeiriad i India'r Gorllewin, ond fe'i darbwyllwyd i newid ei feddwl ar y funud olaf. Derbyniodd ficeriaeth Llanfihangel Cwm-du yn 1825 a churadiaeth Tretwr yn ychwanegol ati yn 1839, ond parhaodd i fyw yng Nghrughywel hyd 1841 pan gododd ficerdy yng Nghwm-du. Apwyntiwyd ef yn ddeon gwlad rhan o ddeau Brycheiniog yn 1832.

Ymddangosodd nifer o erthyglau gan 'Carnhuanawc' yn Seren Gomer, 1824, ac fe ddaliodd i gyfrannu i'r cylchgronau ar hyd y blynyddoedd. Ymgymerth ef a chyfaill iddo â sgrifennu llythyr neu erthygl i ryw gyhoeddiad Cymraeg neu'i gilydd bob mis. Yr oedd hefyd yn gefnogwr brwd i'r eisteddfodau taleithiol a gychwynnwyd o 1819 ymlaen ac yn areithiwr huawdl ynddynt. Enillodd wobrau yn yr eisteddfodau hyn am draethodau ar berthynas y Cymry â'r Llydawiaid (y Trallwng, 1824), hanes tywysogion Cymru (yn Gymraeg, Lerpwl, 1840), gwerth cymharol llên Cymru, Iwerddon, a Sgotland (Abergafenni, 1845), a stadud Rhuddlan, (Abergafenni, 1848). Yr oedd yn fawr ei ddiddordeb yn hynafiaethau'r gwledydd Celtaidd a bu ar daith ar y Cyfandir yn 1825, yn Iwerddon ac yn Sgotland yn ystod y ddwy flynedd wedyn, ac yng Nghernyw yn 1839. Gwnaeth gymaint â neb i beri i'r Cymry a'r Llydawiaid ymwybod â'u hen berthynas. Dysgodd Lydaweg, ac o 1824 hyd 1835 yr oedd yn gohebu'n barhaus â'r Feibl Gymdeithas ynghylch cyfieithu'r Beibl yn yr iaith honno, tasg y ceisiodd ganddi ei chyflawni cyn gynhared â 1819. Adolygodd gyfieithiad Le Gonidec dros y gymdeithas ac yn 1829 aeth â geiriadur Lladin a Chymraeg Dr. John Davies bob cam i Ffrainc i fod yn gynhorthwy i'r cyfieithydd wrth drosi'r Hen Destament. Ar ei daith bu'n chwilio'n ofer am hen lawysgrifau Cymraeg neu Lydaweg yn llyfrgelloedd Llydaw a Pharis. Mor gynnar â hyn yr oedd yn awgrymu sefydlu cymdeithas lenyddol i hynafiaethwyr Cymru a Llydaw gael cyfnewid meddyliau, a mynnai i rai o'r Cymry fynd drosodd i Lydaw i gychwyn eisteddfod yno. Enwir ef fel un o'r rhai a helpodd i gychwyn y Cambrian Quarterly Magazine yn 1830.

Yn 1829 cyhoeddodd An Essay on the Physiognomy and Physiology of the present Inhabitants of Britain fel ateb i ddaliadau John Pinkerton ynghylch tarddiad yr hil ddynol. Yn 14 rhan, rhwng 1836 a 1842, yr ymddangosodd ei brif waith, sef Hanes Cymru a Chenedl y Cymry o'r Cynoesodd hyd at Farwolaeth Llewelyn ap Gruffydd . Er bod ei arddull yn drwsgl Seisnigaidd ac nad yw'n dadansoddi ei ffynonellau yn null haneswyr diweddarach, ni chafwyd gwell llyfr ar hanes Cymru am flynyddoedd lawer. Cyhoeddwyd ei draethawd, The Geographical Progress of Empire and Civilisation, yn gyntaf yn Almaeneg yn yr Augsburg Gazette ac yna yn Saesneg yn yr Athenaeum ac yn 1847 fel llyfr. Mawr oedd sêl 'Carnhuanawc' dros iaith a diwylliant y Cymry. Tua 1820 cododd ysgol ar ei gost ei hun yn y Gelli Felen a'r addysg gan mwyaf yn Gymraeg. Yn 1833 dadleuai yn y Wasg dros gael ysgolion Cymraeg. Fel deon gwlad mynnai i'r offeiriaid arfer iaith eu plwyfolion wrth eu hyfforddi. Yn 1844 sgrifennodd gyfres o lythyrau dienw i'r Wasg yn llym gondemnio rhoi gofal plwyfi ac esgobaethau Cymraeg i glerigwyr anghyfiaith a throi gwasanaethau'n Saesneg i foddio ychydig estroniaid cefnog. Trwy ei ymdrechion ef sefydlwyd yn 1823 Cymdeithas Cymreigyddion Aberhonddu; dewiswyd ef yn llywydd arni. Yn fuan wedyn llwyddodd i sefydlu'r 'Welsh Minstrelsy Society' gan gasglu digon o arian i dalu telynor yn Aberhonddu am ddysgu nifer o fechgyn dall i ganu'r delyn. Yr oedd ganddo ddiddordeb byw ar hyd ei oes mewn popeth ynglyn â'r delyn a dechreuodd ef ei hun ddysgu canu'r offeryn pan oedd yn ysgol Aberhonddu. Pan ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn 1833 rhoed enw Thomas Price yn gyntaf ar restr yr aelodau fel arwydd o barch tuag ato. Ni ffynnodd y gymdeithas yn hir ar ôl ei farw ef. Cymerth ran yng ngwaith y 'Welsh Manuscripts Society' hefyd, gan olygu'r Iolo Manuscripts ar ôl marw 'Taliesin ab Iolo.' Medrai ennill edmygedd a chydweithrediad y gwyr mawr a gefnogai gymdeithasau Cymreig ac eisteddfodau'r cyfnod ond yr un pryd mynegai'n groyw ei edmygedd o'r werin bobl a oedd yn coledd iaith a llên y genedl. Gohebai â llawer o sgrifenwyr eraill o gyffelyb fryd ag ef ei hun fel John Jenkins (Ceri), Le Gonidec, a Hersart de Villemarqué, a chyfrifid ef ymhlith y pennaf o ysgolheigion Celtig ei ddydd. Gwisgai 'Carnhuanawc' bob amser ddillad o ddefnydd cartref. Yr oedd yn ddyn nodedig o hardd ac o ran cymeriad yn hael, yn ddiwenwyn, ac yn hawddgar. Bu farw 7 Tachwedd 1848 a chladdwyd ef yn Llanfihangel Cwm-du. Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn ei Literary Remains (Llandovery, 1854-5), ac fel ail gyfrol i'r gwaith hwnnw ysgrifennodd Jane Williams ('Ysgafell') gofiant iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.