Ganwyd 13 Tachwedd 1819 yn Heol y Farchnad Isaf, Caerfyrddin, mab Henry ac Elizabeth Brinley Richards. Cadwai ei dad siop gerddoriaeth, ac efe oedd organydd eglwys S. Pedr. Yr oedd ei fam yn ferch i John Brinley, Abertawe. (gweler F. Jones, God Bless the Prince of Wales, Caerfyrddin, 1969).
Bwriadai ei dad ei ddwyn i fyny'n feddyg, ond at gerddoriaeth yr oedd ei atyniad. Yn eisteddfod Gwent a Morgannwg, 1834, enillodd ar gyfansoddi amrywiadau ar yr alaw Gymreig, 'Llwyn Onn,' gyda chanmoliaeth gan 'Bardd Alaw,' y beirniad. Parodd hyn iddo roddi i fyny y bwriad o fynd yn feddyg, a chyflwynodd ei holl amser i gerddoriaeth. Cafodd y dug Newcastle yn noddwr, ac anfonwyd ef i'r Academi Gerddorol Frenhinol. Yn 1835 enillodd ysgoloriaeth y brenin, ac enillodd hi drachefn yn 1837. Ar anogaeth ei noddwr aeth i Paris am gwrs o addysg, ac ar ei ddychweliad i Lundain penodwyd ef yn is-athro yn yr Academi Gerddorol, ac yn ddiweddarach gwnaed ef yn gyfarwyddwr yr academi. Ef a gychwynnodd yr arholiadau lleol mewn cysylltiad â'r academi, a phenodwyd ef i arolygu y rhai hyn yng Nghymru a Sgotland. Ystyrrid ef y chwaraewr piano gorau yn y deyrnas, ac enillodd enwogrwydd fel athro ar y piano.
Cadwodd ei gysylltiad â Chymru, a gwasnaethai fel beirniad yn yr eisteddfod genedlaethol, bu'n flaenllaw yng Nghymdeithas y Cymmrodorion o 1873 hyd ei farw. Cymerai ddiddordeb yn y delyn deir-res (gw. NLW MS 1904B ), a thraddododd gyfres o ddarlithiau ar 'Cerddoriaeth Gymreig' Y mae ei gyfansoddiadau yn niferus. Trefnodd gerddoriaeth y meistri i'r piano mewn tair cyfrol, Classical Pianist, Student Practice, a'r Pianist Library, ynghyd â darnau gwreiddiol - 'overture' i gerddorfa yn F leiaf' (canwyd hi yn eisteddfod Caerlleon, 1860), 'Concerto' i'r piano a'r gerddorfa, darnau corawl ('Cenwch Udgorn yn Seion,' 'Let the hills resound,' ac eraill). Y gwaith a'i dygodd i sylw ydoedd 'Ar Dywysog Gwlad y Bryniau' ('God Bless the Prince of Wales'), 1862; ar ddydd priodas tywysog Cymru yn 1863 canwyd y gân trwy bob rhan o'r wlad gan filoedd o gantorion. Yn 1873 dug allan Songs of Wales, wedi eu trefnu i'r llais a'r piano. Cyhoeddodd hefyd Welsh Choir, sef alawon Cymreig wedi eu trefnu i bedwar llais.
Bu farw 2 Mai 1885, a chladdwyd ef ym mynwent Brompton, Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.