Ganwyd Maria Jane Williams yn Aberpergwm yng Nglyn-nedd, Morgannwg, ar 4 Hydref 1795, y plentyn ieuengaf o'r pump a anwyd i Rees Williams o Aberpergwm (1755-1812) a'i wraig Ann (g. Jenkins, 1759-1834) o Ystradfellte. Hawliai'r teulu ddisgynyddiaeth o Iestyn ab Gwrgant a chafodd y bardd Dafydd Nicolas gartref yn Aberpergwm yn ail hanner y ddeunawfed ganrif (gw. Williams (teulu) Aberpergwm). Derbyniodd plant y teulu, William (1788-1855), Rees (1792-1849), Thomas (1793-1861), Elizabeth Ann (1794-1871) a Maria Jane addysg dda yn ôl arferion yr oes, ond heb esgeuluso gwreiddiau diwylliannol ac ieithyddol y teulu ychwaith. Cedwid cysylltiadau agos â'r gymuned leol, ac anogwyd y plant i ddysgu Cymraeg a chanu caneuon Cymraeg a'r delyn. Mynychodd Elizabeth Ann a Maria Jane ysgol fonedd yn Abertawe, gan ddilyn patrwm bywyd boneddigesau cefnog yr oes wedyn. Byddent yn mynd i Lundain am 'y tymor' ym mis Mai a threulio mis Awst mewn trefi sba, megis Llandrindod a Cheltenham. Dangosodd Maria Jane ddawn gerddorol yn gynnar yn ei bywyd, ac roedd yn arbennig o hoff o alawon a cherddoriaeth ei gwlad. Dysgwyd y delyn iddi gan y telynor enwog Elias Parish Alvars. Disgrifiwyd ei llais fel un 'rhagorol' gan gyfoedion, a'i dawn megis 'athrylith reddfol am gerdd' yn yr ysgrif goffa iddi yn yr Athenaeum. Ymddengys iddi hefyd fod yn feistres ar y gitâr.
Yn groes i arfer y teulu, teithiodd Maria Jane i Iwerddon am ddeufis yn haf 1826, heb Elizabeth Ann, ond yng nghwmni y Parch Thomas Price ('Carnhuanawc'), gan aros yn Abaty Adare, cartref teuluol Ieirll Dunraven. Ceir tystiolaeth sydd yn cadarnhau traddodiad lleol iddi fynd yno i roi genedigaeth yn ddirgel i faban anghyfreithlon ail Iarll Dunraven a Mount-Earl, Henry Windham Quin (1782-1850). Ar ddiwedd yr haf dychwelodd Elizabeth Ann a Maria Jane i Aberpergwm gyda baban ifanc.
Defnyddiodd Maria Jane ei harhosiad yn Iwerddon yn 1826 i deithio o gwmpas Cork a Kerry, gan ddysgu caneuon gwerin Gwyddeleg. Yr ymweliad hwn a'i chyfarfod â'r hynafiaethydd Gwyddeleg enwog Thomas Crofton Croker (1798-1854) ar y daith adref a sbardunodd ei gyrfa fel hynafiaethydd. Derbyniodd hyfforddiant gan Croker ym methodoleg casglu cân a llên gwerin, a ef a gyhoeddodd ei chasgliad o chwedlau gwerin Cymraeg, un o'r rhai cyntaf yn yr iaith, yn 1828. Ceir y casgliad fel atodiad i Fairy Legends and Traditions of the South of Ireland, second and third series a olygwyd gan Crofton Croker. Er iddi dderbyn rhai o'r chwedlau drwy lawysgrifau Edmund Jones (1702-1793) ac, o bosib, gan Carnhuanawc, hi a gasglodd y rhan fwyaf ohonynt o wefusau'r werin bobl, gan restru a disgrifio'i ffynonellau. Y mae'r casgliad yn nodedig yn ei amser.
Yn 1836, yn dilyn priodas eu brawd hynaf William, symudodd Maria Jane ac Elizabeth Ann i Ynyslas Cottage ym Mlaen-gwrach, tŷ a adeiladwyd i ail Iarll Dunraven ym 1819, ac a brydleswyd i'r chwiorydd yn awr. Daethant yn adnabyddus yn yr ardal fel 'Ladis y Cottage'. Yma y treuliodd Maria Jane Williams weddill ei hoes, yn feistres ar gartref i un ar ddeg o bobl, gan gynnwys ei merch dybiedig Fanny Baker (g. 1826), yr honnwyd ei bod yn nith i un o forynion y tŷ, Jemima Baker.
Erbyn hyn yr oedd y cylch o gwmpas Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer wedi sefydlu Cymreigyddion y Fenni ac yn trefnu'r gyfres o eisteddfodau a fyddai'n pontio'r bwlch rhwng y gwyliau a drefnwyd yn y 1820au a sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ail hanner y ganrif. Yr oedd Williams yn gefnogwr brwd i'r mudiad, a mynychodd y teulu eisteddfod 1836. Ymwelai Maria Jane ac Elizabeth Ann â Llanofer yn fynych, ac edmygwyd 'llais gwych' a chanu'r delyn soffistigedig Maria Jane gan y cylch. Penderfynodd yr Arglwyddes Elizabeth Coffin Greenly (1771-1839) o Lys Titley yn Sir Henffordd hyrwyddo ei gwaith drwy gynnig gwobr am y 'casgliad gorau o alawon gwreiddiol anghyhoeddedig Cymreig, gyda'r geiriau fel y'u cenir gan werin bobl Cymru' yng nghystadleuaeth Eisteddfod y Fenni 1837. Casgliad Maria Jane Williams a fu'n fuddugol a chafodd ei gyhoeddi o dan y teitl Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg yn 1844, wedi ei gyflwyno i'r Frenhines Fictoria drwy nawdd Arglwyddes Llanofer. Wrth olygu'r gyfrol, anogwyd Maria Jane gan Arglwyddes Llanofer i gyhoeddi'r alawon â'u geiriau Cymraeg, a derbyniwyd peth cymorth yn hyn gan Taliesin Williams ('Taliesin ab Iolo') (cyfaill i'w brawd William) a chan John Jones ('Tegid'). Symudwyd cyfieithiadau Saesneg, rhai ohonynt gan Crofton Croker, i atodiad ar ddiwedd y gyfrol. Hyrwyddwyd rhai o'r alawon a gasglwyd gan Maria Jane Williams i statws cenedlaethol, wedi eu trefnu ar gyfer parlwr a llwyfan, drwy eu cynnwys yn The Welsh Harper being an extensive collection of Welsh music gan John Parry (Bardd Alaw) ym 1838, ac yn y pedair cyfrol o alawon Cymreig wedi eu trefnu i'r delyn a gyhoeddwyd gan John Thomas (Pencerdd Gwalia) rhwng 1856 a 1874 yn adeiladu ar ei gwaith hi. Serch hynny, Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg oedd yr unig gasgliad cyhoeddedig o alawon Cymreig â geiriau Cymraeg tan yr ugeinfed ganrif, ac roedd yr wybodaeth a gynhwysai am ganeuwyr gwreiddiol yr alawon yn arloesol. Erys yn gyhoeddiad pwysig, gydag adargraffiadau yn 1988 a 1994. Ceir yn yr olaf nodiadau helaeth ar y gerddoriaeth a hanes awdurdodol o fywyd a gwaith Maria Jane Williams.
Yr oedd Maria Jane Williams yn byw bywyd cymdeithasol prysur, gan ymweld â Chastell Dwnrhefn a Llys Llanofer yn rheolaidd, a threulio amser yn Llandrindod a Cheltenham, yn ogystal â theithio i eisteddfodau yng ngogledd Cymru. Trefnai wleddau i ddawnswyr a chantorion yn ei chartref yng Glyn-nedd Uchaf yn rheolaidd. Yn 1850 ymunodd William a hithau â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru. Gohebai Maria Jane ag ysgolheigion benywaidd eraill, megis yr hynafiaethydd Angharad Llwyd a'r hanesydd Jane Williams ('Ysgafell'). Yn ei henoed ymhyfrydai yn ymweliadau mynych Fanny Baker, a oedd wedi priodi Evan Jones o Bontneddfechan, a'u pum plentyn. Dim ond yn ei henoed, felly, y câi fynegi ei chariad tuag at ei hunig blentyn.
Bu farw Maria Jane Williams yn Ynyslas Cottage ar 10 Tachwedd 1873, ac fe'i claddwyd ym meddrod y teulu yn eglwys Aberpergwm. Yn ei hewyllys, gadawodd y rhan fwyaf o'i stad i dair merch Fanny Baker, ac etifeddodd y ddau fab £100 yr un yn unig. Er bod papurau Maria Jane Williams ar wasgar, cedwir rhai llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Llyfrgell Dinas Caerdydd, a cheir nifer o lythyrau at Thomas Crofton Croker yn archifau Cork yn Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-08-21
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Ganwyd (meddai ei maen coffa) yn 1795 yn Aberpergwm; gweler dan deulu ' Williams, Aberpergwm.' Derbyniodd yr addysg orau, ac etifeddodd ysbryd gwladgarol ei thad at bethau gorau Cymru. Yr oedd yn gantores dda, a chanddi wybodaeth gerddorol eang, a'r orau yng Nghymru am ganu'r 'guitar.' Cafodd wersi ar ganu'r delyn gan y telynor enwog, Parish-Alvars. Yn y flwyddyn 1838, yn eisteddfod y Fenni, dyfarnwyd hi yn orau am drefniant i bedwar llais o unrhyw alaw Gymreig, ac enillodd wobr arglwyddes Llanofer am y casgliad gorau o alawon Cymreig. Yn 1844 dug allan y casgliad dan yr enw The Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg. Cynorthwyodd ' Bardd Alaw ' i ddwyn allan y Welsh Harper, ac ymgynghorodd ' Pencerdd Gwalia ' a hi, cyn cyhoeddi ei ddwy gyfrol o alawon Cymreig. Trigai ym mlynyddoedd olaf ei hoes mewn plas o'r enw Ynyslas, ger Aberpergwm, ac yno y bu farw, 10 Tachwedd 1873; dywed cofnod yn y Wasg ar y pryd ei bod hi'n 79 oed; h.y. mai yn 1794 y ganwyd hi. Claddwyd hi ym meddrod y teulu yn eglwys Aberpergwm.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.