IESTYN ap GWRGANT (fl. 1081-93), rheolwr annibynnol olaf Morgannwg

Enw: Iestyn ap Gwrgant
Plentyn: Goronwy ab Iestyn
Plentyn: Gruffydd ab Iestyn
Plentyn: Caradog ab Iestyn
Rhiant: Angharad ferch Ednowain ap Bleddyn
Rhiant: Gwrgant ab Ithel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: rheolwr annibynnol olaf Morgannwg
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Ceinwen Hannah Thomas

Mab Gwrgant ab Ithel. Ychydig a wyddys i sicrwydd amdano. Ymddengys mai Caerdydd oedd y man y rheolai ohono, eithr nid oes wybodaeth ynghylch maint y tiroedd yr oedd yn ben arnynt; ni allsai fod yn bennaf gŵr ym Morgannwg hyd 1081, y flwyddyn y lladdwyd Caradog ap Gruffydd, a oedd yn rheoli'r dalaith honno o c. 1075 ymlaen. Yn 1080 gŵr gweddol ddinod oedd Iestyn pan oedd yn un o dystion llai pwysig dogfen yn dangos i ' Caractocus rex morgannuc ' roddi tir i Landaf. Ac eto, cyn ei farw, yr oedd yn ddigon pwysig i feddu 'teulu' neu osgordd dywysogaidd a oedd yn ddigon cref i halogi cysegrle Llandaf; am y weithred hon bu gorfod i Iestyn dalu iawn drwy roddi tir i'r esgobaeth honno. Sylfaenodd bumed gwehelyth frenhinol Cymru; y mae mwyafrif hen deuluoedd uchelwyr Morgannwg yn hawlio disgyn ohono.

Y mae hanes adnabyddus am Sir Forgannwg - hanes sydd cyn hyned â'r 15fed ganrif o leiaf - yn cysylltu enw Iestyn â'r modd y llwyddodd y Normaniaid i oresgyn y dalaith. Yn ôl yr hanes hwn llwyddodd Iestyn, drwy ei gâr, Einion ap Collwyn, a oedd yn alltud yn Lloegr, i gael cymorth Robert Fitzhamon yn erbyn Rhys ap Tewdwr, a laddwyd gan Iestyn ym Mhenrhys. Talodd Iestyn i'r Normaniaid am eu cymorth eithr gwrthododd gyflawni'r addewid a roesai i Einion ap Collwyn - sef rhoddi ei ferch iddo yn wraig. Gofynnodd Einion i'r Normaniaid a ymadawsai ddychwelyd, gorchfygwyd Iestyn gan y rheini a rhannwyd ei diroedd gorau, sef tiroedd rhannau isaf y wlad, yn eu plith eu hunain, gan adael y Blaeneudir yn unig i'r Cymry. Ffodd Iestyn - i abaty Keynsham, yn ôl un fersiwn o'r hanes, a bu farw yno. Yn y manylion hynny lle y mae'r hanes hwn yn cyffwrdd â ffeithiau gwybyddus y mae'n hawdd profi ei fod yn anghywir; e.e. ni sylfaenwyd abaty Keynsham hyd 1169 - a lladdwyd Rhys ap Tewdwr yn ymyl Aberhonddu yn ystod wythnos y Pasg, 1093.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.