Roedd Rhys yn fab i Dewdwr ap Cadell ac felly'n ddisgynnydd i'r tywysog mawr o'r ddegfed ganrif Hywel Dda, ond nid oedd neb o'i linach wryw uniongyrchol wedi dal y frenhiniaeth ers y ddegfed ganrif. Wrth ddod i rym elwodd Rhys o'r arafu a fu ar oresgyniad y Normaniaid yn ne Cymru wedi 1075 yn ogystal ag o ymdrechion ei gefnder pell Caradog ap Gruffudd (arglwydd Gwent Uch Coed ac Iscoed) i ddileu cystadleuwyr dynastig er mwyn hyrwyddo ei hawliau ei hun. Mae Brut y Tywysogyon yn dyddio dechrau ei deyrnasiad tua 1078 heb nodi ffiniau ei diriogaeth.
Enillodd Rhys fuddugoliaeth bwysig iawn yn 1081 ym mrwydr Mynydd Carn lle ymgynghreiriodd ag arglwydd Gwynedd Gruffudd ap Cynan a oedd wedi cynnull llu o hurfilwyr o Iwerddon. Dywed y cofnod cwta yn nhestun cynharaf yr Annales Cambriae (tua 1100) i Rys a Gruffudd drechu Caradog ynghyd â'i gynghreiriaid Trahaearn ap Caradog (arglwydd Arwystli, Ardudwy, a Meirionnydd a thywysog grymusaf gogledd Cymru) a Meilyr ap Rhiwallon o Bowys. Ceir adroddiad llawnach ond ansicr ei wrthrychedd yn Hanes Gruffudd ap Cynan lle daw Gruffudd yn ôl o alltudiaeth yn Iwerddon gyda llynges a gafodd gan Diarmait mab Enna, wyr i'r brenin mawr Diarmait mac Máel na mbó. Wedi iddo lanio ym Mhorthclais, ger Eglwys Gadeiriol Tyddewi, daw Rhys i gwrdd ag ef, gan honni ei fod wedi ei yrru allan o frenhiniaeth Deheubarth ac iddo gymryd lloches yng nghymuned yr eglwys gadeiriol. Ar ôl i Rhys gydnabod Gruffudd yn arglwydd arno gan addo iddo hanner ei deyrnas, mae'r ddau'n arwain eu lluoedd i fuddugoliaeth ar faes y gad yn erbyn Caradog ap Gruffudd, gwyr Gwent, Morgannwg, y Normaniaid, Meilyr ap Rhiwallon a Thrahaearn o Arwystli. Ni pharodd y gynghrair ar ôl y fuddugoliaeth a sleifiodd Rhys i ffwrdd yn llechwraidd gan ofni brad gan Gruffudd. Dangosodd hwnnw ei ddicter trwy anrheithio Deheubarth. Tanseiliodd buddugoliaeth Rhys strategaeth y Normaniaid o 'rannu a rheoli' yn ne Cymru, ac roedd yn ôl pob tebyg o leiaf yn rhannol gyfrifol am y 'pererindod' enwog i Dyddewi gan y Brenin William I o Loegr y flwyddyn honno. Y farn fodern yw bod Rhys wedi ymddarostwng i William, ond nid oes cofnod canoloesol o hyn, er bod y gosodiad yn llyfr Domesday Swydd Henffordd i Rys dalu £40 mewn treth i William yn awgrymu rhyw ufudd-dod.
Cododd sialensau i reolaeth Rhys eto wedi marwolaeth William. Gyrrwyd ef allan o'i deyrnas dros dro yn 1088 gan dri uchelwr o Bowys: Madog, Cadwgan, a Rhirid, meibion Bleddyn ap Cynfyn. Ffodd Rhys i Iwerddon a chododd lu o hurfilwyr. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn nes ymlaen y flwyddyn honno, wynebodd Rhys ei elynion mewn lle a elwir naill ai'n Portlethern neu Llech y crau, lle y bu'n fuddugoliaethus, gan ladd Madog a Rhirid. Tair blynedd yn ddiweddarach llwyddodd Rhys i drechu a lladd cefnder pell iddo o'r enw Gruffudd ap Maredudd (a fuasai'n byw ar ei ystadau yn Swydd Henffordd) mewn brwydr yn Llandudoch. Daeth diwedd ei fywyd yntau yn ystod wythnos y Pasg 1093 pan gafodd ei ladd gan wladychwyr Normanaidd ym Mrycheiniog dan arweiniad Bernard de Neufmarché, gwr Nest, wyres Gruffudd ap Llywelyn. Honna croniclau Cymreig a Seisnig fod marwolaeth Rhys wedi agor Cymru i oresgyniad y Normaniaid.
Cofir Rhys hefyd oherwydd ei gysylltiadau teuluol. Yn ôl Achau Brenhinoedd a Thywysogion Cymru, gwraig Rhys oedd Gwladus merch Rhiwallon ap Cynfyn, cyfnither felly i'w elynion yn 1088. Bu ganddo dri o blant hysbys: Gruffudd (bu farw 1137) a olynodd ei dad yn ne Cymru ar ôl bwlch o ddau ddegawd; Hywel; a merch o'r enw Nest. Ymhlith ei ddisgynyddion yr oedd yr hanesydd Gerald de Barri, sy'n fwy hysbys dan yr enw Gerallt Gymro, a Rhys ap Gruffudd ('yr Arglwydd Rhys') a ddominyddodd Gymru ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Er iddo ladd ei gystadleuwyr dynastig, cofid Rhys fel gwr duwiol, a daeth Caradog Fynach o'i lys i ymneilltuo i fywyd meudwy.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-07-07
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Wyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda. Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin. Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd, eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan, fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn. Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith trwy dde Cymru gan ddangos ei awdurdod yn y rhan honno o'r wlad, a theithio cyn belled â Thyddewi; y mae'n weddol sicr i'r ddau frenin ddyfod i gyd-ddealltwriaeth ar yr achlysur hwn ynglyn â'r telerau da a gâi ffynnu rhyngddynt ac a barhaodd hyd ddiwedd teyrnasiad William. Ymhen ychydig flynyddoedd cofnodir fod Rhys yn talu i'r brenin £40 y flwyddyn am Ddeheubarth a thrwy hynny yn dyfod yn fasal i Goron Lloegr ac yn gosod i lawr gynreol a oedd i gael effeithiau parhaol ar gysylltiadau Lloegr a Chymru â'i gilydd.
O hynny ymlaen, ar wahân i drasiedi ei funudau olaf, nid oedd raid i Rys namyn gwrthweithio effeithiau eiddigedd ei gyd-dywysogion. Yn 1088 ymosodwyd arno gan reolwyr ieuainc Powys a bu raid iddo fyned i Iwerddon am loches. Eithr nid hir y bu cyn dychwelyd, a chyda chymorth Daniaid gorchfygodd ei wrthwynebwyr Madog, Rhiryd, and Cadwgan ap Bleddyn yn llwyr. Drachefn, yn 1091, fe'i gwrthwynebwyd gan rai o'i wyr ei hunan yn Nyfed; ceisiai y rhain ddychwelyd y frenhiniaeth i linach hyn Hywel Dda, ym mherson Gruffydd ap Maredudd ab Owain. Gorchfygwyd y gwrthryfelwyr yn Llandudoch ar aber Teifi, a lladdwyd Gruffydd. Yn y cyfamser yr oedd y goncwest Normanaidd yn y de wedi ennill nerth newydd wedi marw'r brenin William yn 1087 ac ymysg yr hen diriogaethau a gymerasid yr oedd hen frenhiniaeth Brycheiniog. Wrth wrthwynebu cyrchoedd y Normaniaid yn y rhan bwysig honno o'r wlad - yr oedd yn oll-bwysig yng ngolwg Rhys am ei bod ar y ffordd i'w diriogaethau ef ei hun - y cyfarfu Rhys â'i ddiwedd, o dan amgylchiadau na ellir bod yn sicr yn eu cylch, yn ymyl Aberhonddu.
Ef, mewn gwirionedd, oedd y diwethaf o hen frenhinoedd y Deheubarth; pan ailosodwyd y llinach mewn awdurdod, yn nes ymlaen, gan ei wyr, Rhys ap Gruffydd, yr oedd yr awyrgylch politicaidd yn gwbl wahanol. Gwraig Rhys ap Tewdwr oedd Gwladus, merch Rhiwallon ap Cynfyn. Goroeswyd ef gan ddau fab - Gruffydd a Hywel - a merch, Nest.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.