RHYS ab OWAIN ab EDWIN (bu farw 1078), brenin Deheubarth

Enw: Rhys ab Owain ab Edwin
Dyddiad marw: 1078
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Deheubarth
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Gorŵyr Einion ab Owain ab Howel Dda. Efe oedd cynrychiolydd diwethaf llinach hynaf disgynyddion Howel. Wedi iddo ddilyn ei frawd Maredudd yn 1072 bu iddo ran a chyfran ym marwolaeth Bleddyn ap Cynfyn yn 1075; yn 1078 gorchfygwyd yntau yn Gwdig gan Trahaearn ap Caradog. Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn lladdwyd ef trwy law Caradog ap Gruffydd. Dilynwyd ef gan ei gyfyrder, Rhys ap Tewdwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.