CARADOG ap GRUFFYDD ap RHYDDERCH (bu farw 1081).

Enw: Caradog ap Gruffydd ap Rhydderch
Dyddiad marw: 1081
Plentyn: Owain ap Caradog
Rhiant: Gruffydd ap Rhydderch ap Iestyn
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Milwrol
Awdur: John Edward Lloyd

Ŵyr Rhydderch ab Iestyn, gŵr o ddylanwad yn Ne Cymru hyd ei farw yn 1033, a mab Gruffydd ap Rhydderch, cydymgeisydd Gruffydd ap Llywelyn, gan yr hwn y'i lladdwyd yn 1055.

Yng Ngwynllwg a Gwent yr oedd cartref y teulu; yn y rhanbarth hwn o Gymru y daw Caradog i'r golwg gyntaf, yn 1065, pryd y daeth ar warthaf tŷ hela'r iarll Harold yn Portskewet, gan ei ddistrywio ac anrheithio'r gymdogaeth - heb i neb ddial arno. Yr oedd o natur hyf ac anturiaethus; gan ddwyn i'w gof ei hun orchestion ei daid a'i dad, aeth rhagddo i geisio gorchfygu'r Deheubarth. Yn 1072 fe orchfygodd y tywysog a oedd yn teyrnasu, sef Maredudd ab Owain, gan ei ladd mewn brwydr ar lannau'r afon Rhymni; yn 1078 gorchfygwyd Rhys ab Owain hefyd, olynydd Maredudd ab Caint, ganddo. Eithr yn 1081 daeth trydydd gwrthwynebydd, ac un llawer mwy, i'w gyfarfod - Rhys ap Tewdwr. Dyma bellach bethau'n arwain at frwydr enwog Mynydd Carn, rywle yng ngogledd Dyfed; yno trechwyd Caradog a'i gynghreiriaid yn llwyr gan Rhys, a oedd wedi cael cymeradwyaeth esgob Tyddewi ac a gafodd hefyd gymorth Gruffydd ap Cynan.

Ni chlywir mwy am Garadog; gadawodd fab, Owain, a ymsefydlodd mewn awdurdod yn Gwynllwg maes o law gan sylfaenu llinach ddiweddarach arglwyddi Cymreig Caerlleon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.