MORGAN ap HYWEL (fl. 1210-48), arglwydd Cymreig arglwyddiaeth Gwynllwg neu Gaerlleon-ar-Wysg

Enw: Morgan ap Hywel
Plentyn: Gwerful ferch Morgan ap Hywel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd Cymreig arglwyddiaeth Gwynllwg neu Gaerlleon-ar-Wysg
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

(deiliad i ieirll Caerloyw) disgynnydd o Rhydderch ap Iestyn (bu farw 1033; y mae taflen o'r tylwyth ar t. 771 o Lloyd, A History of Wales , a hwylus fydd crynhoi ei hanes yma, dan enw Morgan ap Hywel.

Lladdwyd Caradog ap Gruffudd, ŵyr Rhydderch, ym mrwydr Mynydd Cam (1081); erbyn 1140 clywir am fab hwnnw, OWAIN ap CARADOG, yng Ngwynllwg; ac yn 1154 cydnabuwyd ei fab yntau, MORGAN ab OWAIN, gan Harri II yn arglwydd Caerleon. Hwn oedd y Morgan a laddwyd gan Ifor Bach yn 1158. Dilynwyd ef gan ei frawd IORWERTH ab OWAIN. Yn 1171 syrthiodd Iorwerth rywsut dan wg y brenin, a chollodd Gaerlleon. Pan oeddid ar fin cymodi rhyngddynt (1172), lladdwyd OWAIN, mab Iorwerth, gan wŷr iarll Caerloyw. Ffyrnigodd Iorwerth, a'i fab arall HYWEL, yn erbyn y brenin a'r Normaniaid, a chan fanteisio ar 'wrthryfel' mawr 1173, cipiasant Gaerlleon a chestyll eraill yng Ngwent; a serch iddynt golli eu gafael ar y cestyll erbyn 1175, bu eu cyfeillgarwch â'r arglwydd Rhys yn gymaint amddiffyn iddynt nes i'r brenin ddychwelyd Caerlleon iddynt; yn 1184-5 yr oedd Hywel yn un o'r chwe gŵr a ddaliai gestyll ym Morgannwg a Gwent yn enw'r brenin. Tua 1210 y dilynwyd Hywel gan ei fab MORGAN ap HYWEL. Fel y gwelir yn yr ysgrif ar deulu Marshal, llusgwyd Morgan i mewn i helyntion y teulu hwnnw; collodd gastell Caerlleon i William Marshal yn 1217, a gwrthododd meibion Marshal ei edfryd iddo (yr oedd serch hynny'n parhau gan mwyaf mewn meddiant o gastell Machen) - yn wir, bu Morgan farw ychydig cyn 15 Mawrth 1248, heb byth gael castell Caerlleon yn ei ôl. Dilynwyd ef gan ei ŵyr, MAREDUDD (mab i'w ferch Gwerfyl), a fu farw yn 1270 (gweler yr ysgrif ' Morgan,' arweinydd gwrthryfel yn 1294-5). Treiglodd yr arglwyddiaeth (gyda rhai o feddiannau eraill y Clariaid yng Ngwent) i Elisabeth, merch ieuengaf y Gilbert de Clare a fu farw yn 1314 ac felly yn y pen draw i deulu Mortimer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.