Ganwyd 5 Mai 1861 yn Lerpwl, yn fab i Edward Lloyd, Y.H., a Mary Lloyd (gynt Jones). Hendre'r teulu oedd Penygarnedd, ger Pen-y-bont-fawr ym Maldwyn; ac ni chollodd J. E. Lloyd byth mo'i ymdeimlad â'r cefndir hwn na'i hoffter o'r fro. Bwriedid ef ar y cychwyn i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr, a bu am gyfnod maith yn bregethwr lleyg yn yr enwad. Naturiol fu iddo, pan ddaeth Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr Cymreig i fod, gymryd rhan amlwg ynddi; naturiol iawn hefyd - a thestun balchder mawr iddo - fu ei ddyrchafu'n Gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am 1934-5.
Aeth i goleg Aberystwyth, ac oddi yno yn 1881 i Goleg Lincoln yn Rhydychen. Yn 1883 llwyddodd i ennill clod yn y dosbarth anrhydedd blaenaf yn yr arholiad cynradd mewn Groeg a Lladin, ac yn 1885 rhoddwyd ef yn yr un dosbarth yn yr arholiad terfynol mewn Hanes. Fe welir i'w yrfa yn Rhydychen bron gyrraedd ei therfyn cyn cyfnod y cwmni enwog o Gymry yn Rhydychen (megis Owen M. Edwards, a aeth yno yn Hydref 1884), a'i bod wedi terfynu cyn sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (1886); ond wrth gwrs ni bu ef fawr o dro cyn ymgysylltu â'u dyheadau. Yn wir, yr oedd ar ryw ystyr wedi eu rhagflaenu, oblegid eisoes yn 1884, pan nad oedd eto ond ar ganol ei gwrs gradd, yr oedd wedi ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl am lawlyfr ar hanes Cymru hyd at 1282 - a gyhoeddwyd yn Nhrafodion yr Eisteddfod.
Dychwelodd i Aberystwyth yn 1885, yn ddarlithydd mewn Cymraeg a Hanes. Bu yno hyd 1892, ac yno, yn 1889, y paratôdd i'r wasg gyfrol Hubert Lewis (a fuasai farw yn 1884), The Ancient Laws of Wales. Ond yn 1892 symudodd i Fangor, yn gofrestrydd Coleg y Gogledd ac yn gynorthwywr i'r Prifathro Reichel yn yr Adran Hanes. Arferai'n ddiweddarach ddisgrifio'n chwareus (ond prin yn ddeddfol gywir) sut y rhannai ei ddiwrnod gwaith yn y cyfnod hwnnw: ' darlithydd yn y bore, cofrestrydd yn y prynhawn, a chwilotwr fin nos'. Yr oedd yn gofrestrydd manwl a threfnus: yr oedd yn hynod bwyllog ac amyneddgar, a thrwy brofiad tyfodd yn bwyllgorwr defnyddiol dros ben; nid oedd ei well am eirio penderfyniad neu ddogfen swyddogol. Bu byth wedyn (nes i drymder ei glyw yn ei flynyddoedd diwethaf arafu peth ar ei ymateb mewn trafodaeth) yn aelod o bob math o bwyllgor yng Nghymru. Yn enwedig, bu o ddefnydd mawr pan aethpwyd ati i aildrefnu Prifysgol Cymru (1919); efô, er enghraifft, a luniodd gyfansoddiad ei Bwrdd Gwybodau Celtaidd, a bu'n Gadeirydd arno hyd 1940. Bu'n amlwg hefyd yng ngwaith Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, a bu ddwywaith yn Llywydd arni. Cyfeiriwyd eisoes at ei amlygrwydd yng nghynadleddau ei enwad. Ac ni ddylid er dim anghofio'i wasanaeth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg; darlithiai yn ei chyrsiau haf i athrawon, a sgrifennodd drosti lyfrau ysgol dwyieithog ar hanes Cymru. Bu hefyd yn gydweithiwr yng Nghymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol.
Parhaodd yn gofrestrydd Coleg y Gogledd hyd 1919. Ond eisoes yn 1899 yr oedd wedi dilyn Reichel fel Athro Hanes. Dyma ddechrau cyfnod ffrwythlonaf ei yrfa, y cyfnod a'i cododd i'w wir enwogrwydd. Ysgrifennai'n ddyfal i'r cyfnodolion academaidd ar bynciau yn hanes Cymru. Ac yn 1911 dug allan ei waith mawr safonol, A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest , a aeth i dri argraffiad erbyn 1939. Nid gormod yw dweud i'r llyfr hwn fod yn drobwynt yn astudiaeth hanes Cymru; yr oedd yn ffrwyth beirniadaeth drylwyr ar y ffynonellau, ac yn gyflead eglur a darllenadwy o rediad hanes Oes y Tywysogion. Diwygiwyd rhai manion ynddo ganddo ef ei hunan (yn bennaf ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd) a chan ymchwilwyr eraill, ond hyd heddiw erys cyfangorff y gwaith. Enillodd drwyddo radd D.Litt. Rhydychen (1918). Yn 1930, etholwyd ef yn gymrawd o'r Academi Brydeinig (F.B.A.), ac i honno y traddododd y ddarlith The Welsh Chronicles, a gyhoeddwyd gan Wasg Rhydychen yn 1930 - enghraifft nodweddiadol iawn o deithi meddwl ei hawdur.
Glynodd bron hyd y diwedd, yn ei waith ysgrifenedig, wrth hanes y cyfnod yr oedd wedi dechrau sgrifennu arno mor bell yn ôl â 1884. Ond darbwyllwyd ef i symud ymlaen pan etholwyd ef gan Rydychen yn ' Ford Lecturer ' yn 1931. Dewisodd yn destun hanes Owain Glyn Dwr, a chyhoeddwyd y gwaith, dan y teitl Owen Glendower (y wasg a ddewisodd y teitl) yn 1931. Unwaith eto, gwelir ynddo nodweddion yr awdur - y feirniadaeth fanwl ar y ffynonellau a'r adroddiad eglur o hanes gyrfa Owain. Ysgrifennodd yn 1930 lyfr bychan ar holl hanes Cymru, yng nghyfres Benn - cyhoeddwyd trosiad Cymraeg o hwn yn 1943, o Wasg Aberystwyth, dan y teitl Golwg ar Hanes Cymru. O ran hynny camgymeriad dybryd fyddai synied nad oedd ef yn wir hyddysg yn hanes ei wlad ar ôl 1415. Ni raid ond wrth gipolwg ar y casgliad o'i nodiadau a gedwir yn Llyfrgell Coleg y Gogledd, i weled pa mor helaeth oedd ei ddiddordeb yn y cyfnodau diweddarach, a'i wybodaeth ynghylch manion (pur ddiarffordd yn aml) eu hanes. Yr oedd y wybodaeth hon, ffrwyth yr hyn a alwai ef yn pottering, bob amser at wasanaeth ymofynwyr, o fewn ac oddi allan i'r Coleg. Yn wir, yr oedd ef wedi hen dyfu megis yn oracl ar holl hanes Cymru; ac ato ef y byddai pawb yn troi am gyngor ac arweiniad yn hyn o beth. Efô, er enghraifft, fu'r dewis anorfod yn olygydd yr History of Carmarthenshire yn 1935. A phan benderfynodd Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1937 ymgymryd a chyhoeddi'r Bywgraffiadur, efô a wahoddwyd i'w olygu, ac efô, yn 1938, mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd, a ddug y bwriad i sylw'r genedl. Ystyrid, yn gwbl gyfiawn, y byddai ei enw a'i glod megis yn warant o safon y gwaith.
A heblaw hynny, yr oedd ganddo brofiad helaeth o'r math neilltuol hwn o waith, oblegid bu o 1893 hyd 1912 yn gyfrannwr ysgrifau (cyfrifir fod cryn 120 ohonynt) ar Gymry amlwg, i'r Dictionary of National Biography. Dechreuodd ar ei orchwyl newydd yn ddiymdroi: dewis enwau i'w coffáu ac ysgrifwyr arnynt, ac ysgrifennodd ef ei hunan dros 60 o ysgrifau dan lythrennau cyntaf yr wyddor. Ond torrodd y rhyfel; gohiriwyd y paratoadau; a phan ddaeth hi'n ddiogel ailddechrau arnynt (1943), teimlai ef na allai mwyach ymdrafferthu â gohebiaeth a phroflenni, a dewisodd ei alw'n ' Olygydd Ymgynghorol '. Eithr nid rhith, o bell ffordd, oedd yr 'Ymgynghorol' hwn, oblegid am gryn amser wedyn cyfarfyddai'n wythnosol a'i olynydd, i fwrw golwg dros gynnydd y gwaith ac i roi awgrymiadau gwerthfawr; ac wrth gwrs, ar y llinellau a dorrwyd allan ganddo ef y dygwyd y gwaith ymlaen, hyd eu gallu, gan ei ddau olynydd.
Ond yr oedd ef bellach yn dirywio yn ei iechyd, a bu farw ar 20 Mehefin 1947. Claddwyd ef yn hen fynwent Llandysilio, ar yr ynys gerllaw Porthaethwy. Yr oedd wedi derbyn llawer anrhydedd: urddwyd ef yn farchog yn 1934; cafodd raddau D.Litt. 'er anrhydedd' gan Brifysgolion Cymru (yn 1922) a Manceinion, a dinasfraint dinas Bangor yn 1941. Yr oedd o gyfansoddiad cadarn ac o wyneb glanwedd; ei safiad wrth annerch cynulleidfa'n urddasol, y llais yn hyglyw, a'r iaith (boed Gymraeg neu Saesneg) yn gywir a dethol, a'r wisg bob amser yn gymen. Cafodd ei fagu yn anterth oes Victoria, ac odid nad delfrydau'r oes honno a luniodd neu a liwiodd) ei ymarweddiad cyhoeddus - a'i ysgrifennu hefyd - i gryn raddau. Nid ymgeisiodd erioed at fod yn 'boblogaidd', ar lwyfan nac ar bapur. Ac am hynny, fe'i hystyrid gan rai yn ddyn deddfol a 'phell' - ac yn sicr ddigon, nid dyn oedd ef y mentrai pobl 'fod yn hy' arno. Ond mewn cylchoedd agosach, yr oedd yn ddigon rhydd, ac nid yn anfynych yn ddireidus. Eto, ei syberwyd a'i ddillynder a oedd ar flaen y darlun.
Ymbriododd yn 1893 â Clementina Miller o Aberdeen, a fuasai gynt yn ddisgybl iddo yn Aberystwyth; bu hi farw yn 1951. Gadawsant ferch a mab.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.