LEWIS, HUBERT (1825 - 1884), gŵr o'r gyfraith

Enw: Hubert Lewis
Dyddiad geni: 1825
Dyddiad marw: 1884
Rhiant: Edward Clapham Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr o'r gyfraith
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Thomas Jones Pierce

ail fab Edward Clapham Lewis, Ripon, sir Gaerefrog. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, a daeth yn fargyfreithiwr (Middle Temple) ym mis Mai 1854. Bu'n ŵr prysur yn ei alwedigaeth, yn arbennig fel un yn trefnu trosglwyddiadau ('conveyances'), eithr gwnaeth fwy o enw iddo'i hun fel ysgrifennwr ar rai materion cyfreithiol. Ymysg ei gyhoeddiadau y mae Principles of Conveyancing, 1863; Principles of Equity Drafting, 1865; yr oedd cyn hyn (sef yn 1862) wedi cyhoeddi argraffiad o Goldsmith, Equity. Ei bennaf hawl i goffâd, fodd bynnag, oedd paratoi The Ancient Laws of Wales; cyhoeddwyd hwn yn 1889, wedi marw'r awdur, a'i olygu gan (Syr) John Edward Lloyd, a oedd ar y pryd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Nid ydys hyd yn hyn wedi amgyffred gwerth y gwaith hwn gan arloeswr yn hanes cyfraith Cymru ac, yn arbennig, waith gŵr a geisiodd wneuthur astudiaeth gymariaethol o'r gyfraith honno. Yr oedd Lewis wedi ymneilltuo beth amser cyn ei farwolaeth, 6 Mawrth 1884, ym Margate.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.