'arglwyddiaeth ddibynnol' ar arglwyddiaeth Morgannwg ac yn cynnwys yr ardal fynyddig yn ymestyn o Aberhonddu yn y gogledd, crib Cefn On yn y de, afon Taf yn y gorllewin, ac afon Rhymni yn y dwyrain.
Yn 1158 ymosododd ar Morgan ab Owain o Wynllwg a Chaerllion-ar-Wysg a'i ladd ef a'r 'bardd gorau,' Gwrgant ap Rhys. Cofir amdano yn arbennig oblegid ei ymosodiad sydyn ym mherfeddion nos ar gastell Caerdydd yn yr un flwyddyn, a mynd â William, iarll Gloucester, Hawys ei wraig, a'u mab Robert i'w amddiffynfeydd coediog ef ei hun, a gwrthod eu rhyddhau nes i William ddychwelyd y tiroedd a ladratasai oddi arno a rhoi iddo diroedd ychwanegol yn iawndal.
Priododd Nest, chwaer (medd ' Brut y Saeson') yr Arglwydd Rhys. Dilynwyd ef cyn 1170 gan ei fab Gruffydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.