ROBERT ' O GAERLOYW ' (fl. 1099-1147), mab ordderch i'r brenin Harri I

Enw: Robert
Priod: Mabel Fitzhamon
Plentyn: William FitzRobert
Rhiant: Harri
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mab ordderch i'r brenin Harri I
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd cyn i'w dad esgyn i'r orsedd. Honnir weithiau mai Nest, merch Rhys ap Tewdwr oedd ei fam; ond yr unig sail i hynny yw ' Brut Gwent ' (Myf. Arch., ii, 540) - h.y. ' Iolo Morganwg '; gwir ddigon i Harri gael mab o Nest ymhellach ymlaen. Y mae i Robert le mawr ac anrhydeddus yn hanes Lloegr (gweler y D.N.B. arno), eithr yma nid ymdrinir ond â'i ymwneuthur â Chymru.

Arglwydd Normanaidd cyntaf Morgannwg oedd Robert Fitzhamon, a fu farw 1107; gweler y D.N.B. arno. Ni adawodd ef ond aeres, Mabel (' Mabli '; bu farw 1157), a rhoes Harri hi'n wraig i'w fab Robert, gan ei ddyrchafu ef, rhywbryd rhwng 1121 a 1123, i iarllaeth Caerloyw ac arglwyddiaeth Morgannwg. Canmolir ef ar bob llaw, fel rhyfelwr dewr, gwladweinydd doeth, a dyn llengar - cyflwynodd Sieffre o Fynwy ei Historia iddo ef yn un. Yr oedd ei dad-yng-nghyfraith eisoes wedi codi castell Caerdydd, a chyfeirir at y dref fel 'bwrdeisdref' yn ei amser ef; ond Robert a'i fab William (isod) a roes i Gaerdydd ei siarter yn y ffurf hynaf sydd ar gael ohoni (Mathews, Cardiff Records, i, 10-1). Carai'r myneich; dan ei nawdd ef (1130) y sefydlodd Richard de Granville fynachlog Nedd, a Robert ei hunan, ym mlwyddyn olaf ei fywyd, a sefydlodd fynachlog Margam. Bu farw 31 Hydref 1147.

Yr unig beth a gofir am ei fab WILLIAM (bu farw 1183) yw'r tro digrif yn 1158 pan gymerwyd ef a'i deulu'n garcharorion yng nghastell Caerdydd ei hunan, gan Ifor Bach o Senghenydd. O'i blant, bu'r mab, ROBERT, farw (1166) o flaen ei dad. Priodwyd ei ferch hynaf, ISABEL (a elwir hefyd yn ' Hawys '), â'r tywysog John, y brenin wedyn. Diddymwyd y briodas, ond daliodd John at y tiroedd er hynny, hyd 1214. Daethant yn y diwedd i AMICIA, un arall o ferched William; ei phriodas hi â Richard de Clare a ddug Gaerloyw a Morgannwg i ddwylo'r tylwyth galluog hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.