CLARE (TEULU), ' Clâr ' i'r Cymry

- 'gloewlat Glar' yw Morgannwg i Hywel Ystorm. Ymweodd y tylwyth estronol hwn gymaint yn hanes Deheudir Cymru fel na ellir osgoi rhoi crynodeb yma o'i yrfa.

Un o geraint Gwilym Goncwerwr oedd Richard (bu farw 1090?), y rhoddwyd iddo diroedd yng Nghaint (Tonbridge), ac arglwyddiaeth Clare yn Suffolk - yn ddigon od, tebyg mai gair Brythoneg yw'r enw hwn. O bum mab y Richard hwn, yr enwocaf oedd GILBERT I (bu farw 1115?), a blannwyd gan Harri I yng Ngheredigion a Dyfed yn 1110, fel cosb ar Owain ap Cadwgan, ac a gododd gestyll cyntaf 'Llanbadarn' (h.y. Aberystwyth) ac Aberteifi. Mab arall i Richard oedd WALTER (bu farw 1138 - y mae cryn gymysgu rhwng hwn a nai iddo o'r un enw), y rhoddwyd iddo (cyn 1119) diroedd yng Ngwent Iscoed, a chastell Casgwent; ef a sefydlodd (1131) abaty Tintern; bu farw heb fab, ac aeth ei diroedd i'w nai Gilbert, gweler dan B isod. Cafodd Gilbert I (uchod) ddau fab, y tardd dwy linach o Glariaid ohonynt.

A. RICHARD I, efallai'r cyntaf i arddel ' de Clare ' yn gyfenw; lladdwyd ef yn 1136 yng Nghoed Grwyne pan oedd ar ei ffordd o'r Fenni i Aberteifi. Bu ei fab hynaf ef, GILBERT II, iarll Hertford, farw'n ddietifedd yn 1152, ac aeth y tiroedd i'w frawd ROGER DE CLARE (bu farw 1173). Ymdrechodd ef i edfryd meddiannau'r Clâr yng Ngheredigion, ond ni allodd wrthsefyll yr Arglwydd Rhys. Eithr ei briodas sy'n wir bwysig. Ei ferch-yng-nghyfraith oedd Amicia, merch (ac un o aeresau) William iarll Caerloyw ac arglwydd Morgannwg (gweler dan Robert ' o Gaerloyw') - yn y modd hwn y daeth y gainc hon o'r Clariaid i dde-ddwyrain Cymru. Felly yr oedd mab Richard, GILBERT III (bu farw 1230), a oedd yn un o'r barwniaid a enillodd y ' Magna Carta,' yn iarll Caerloyw a Hertford ac yn arglwydd Tonbridge, Clare, Morgannwg, a Chaerlleon-ar-Wysg - a'i wraig Isabel yn ferch i William Marshal ac felly'n aelod o'r gainc B o'r Clariaid. Bu Gilbert III yn brwydro yng Nghymru; ni bu'n dda rhyngddo a Morgan Gam; bu farw 25 Hydref 1230. Ei aer ef oedd RICHARD III (1222 - 1262), ganwyd 4 Awst 1222. Yn herwydd ei diroedd eang yn Lloegr ac Iwerddon (lle'r oedd gan ei fam feddiannau), a'i hanner-annibyniaeth fel arglwydd mawr yn y Mers, ystyrid Richard, pan ddaeth i'w oed yn 1243, yn 'flaenaf o uchelwyr Lloegr.' Ond yr oedd yn afradus, a chyda hynny'n anwadal, a bu'n hir chwarae'r ffon ddwybig rhwng plaid y brenin a phlaid Simon de Montfort. Yng Nghymru, cymerth gam ymlaen ar y gwaith o dynhau gafael penarglwydd Morgannwg ar yr is-arglwyddi Cymreig ym mlaenau a godreon Morgannwg yr oedd goddefiad (neu anallu) ei ragflaenwyr wedi gadael iddynt fesur helaeth o annibyniaeth - tua 1246 diddymodd arglwyddiaeth Meisgyn (gweler dan Morgan ap Caradog ap Iestyn), a chododd gastell Llantrisant i warchod y cwmwd hwnnw. Bu farw 15 Gorffennaf 1262.

Pwysicach fyth oedd ei fab GILBERT IV (1243 - 1295), ' yr Iarll Coch,' ganwyd 2 Medi 1243; ei wraig gyntaf oedd Alice, o deulu William de Valence, y teulu a ddilynodd y Marshaliaid yn iarllaeth Penfro. Yr oedd tad a thaid yr Iarll Coch, yn eu hymlyniad wrth achos y barwniaid yn Lloegr, braidd wedi esgeuluso perygl nes atynt yng Nghymru, sef twf tywysogaeth Gwynedd. Iddynt hwy, offerynnau hwylus oedd y ddau Lywelyn yn y dynfa rhwng barwniaid Lloegr a'r brenhinoedd John a Harri III. Ac ar gychwyn ei yrfa, gyda Montfort y bwriodd Gilbert IV yntau ei goelbren. Yr oedd ar ochr Montfort ym mrwydr Lewes (1264). Ond aeth yn ffrae rhyngddynt, a swcrodd Montfort Lywelyn II i ddifrodi tiroedd Gilbert yng Nghymru; felly ar ochr y tywysog Edward yr oedd Gilbert ym mrwydr Evesham (1265). Drannoeth y frwydr, fodd bynnag, taflodd Gilbert ei bwysau i'r clorian arall, a thrwyddo ef yn bennaf y cafwyd mesur o heddwch rhwng y ddwyblaid, yn 1267. Yn yr un flwyddyn, fel y cofir, yr arwyddwyd cytundeb Trefaldwyn, a gydnabu Lywelyn yn dywysog Cymru, a rhoi iddo arglwyddiaeth Brycheiniog a hawliau eraill. Yr oedd tiroedd Lywelyn (ym Mrycheiniog) bellach am y ffin â thiroedd y Clâr - a chwestiwn arall yn codi: os oedd Lywelyn, yn ôl y cytundeb, â hawl i wrogaeth arglwyddi Cymreig eraill Cymru, ai ef oedd penarglwydd arglwyddi Cymreig hanner-annibynnol Morgannwg ? Bwriwyd 1268-9 yn chwilio am gyd-ddealltwriaeth rhwng y tywysog a'r iarll (nid oedd gan y brenin na'r ewyllys, mae'n debyg, na'r gallu, i dorri'r ddadl); ond y mae'n eglur oddi wrth ddogfennau'r drafodaeth fod Lywelyn eisoes yn trin Cymry Meisgyn Uchaf (hyd at Bontypridd heddiw) a Senghennydd uwch Caeach (h.y. hyd at y Gelli-gaer) fel deiliaid, a hynny o'u bodd. Yr oedd ymateb yr Iarll Coch yn ddeublyg. Ar y naill law, cymerth Gruffydd ap Rhys, arglwydd Cymreig Senghennydd (gorŵyr Ifor Bach), yn garcharor, a'i alltudio i Iwerddon (1267); a thebyg (er na wyddom y dyddiad yn bendant) mai'r pryd hyn y diddymwyd arglwyddiaeth Gymreig Glynrhondda hefyd. Ar y llaw arall, dechreuodd godi castell mawr yng Nghaerffili (1268). Rhuthrodd Llywelyn i lawr (Hydref 1270) a difodi'r castell; fis Mehefin 1271 cychwynnodd Gilbert ei ailgodi; fis Tachwedd cytunwyd fod garsiwn frenhinol i gymryd meddiant ohono tra fyddid yn ceisio terfynu'r brif ddadl; ond trwy ystryw, llwyddodd gwŷr Gilbert i ymwthio iddo drachefn. Ond pan fu farw'r brenin (1272), buan y boddwyd y cweryl lleol hwn yn yr anghydfod ehangach rhwng tywysog Cymru a'r brenin newydd Edward I.

Ni chymerth Gilbert ran flaenllaw yn rhyfel 1277. Ond clywir mwy amdano yn rhyfel 1282-3. Penodwyd ef yn ben-cadfridog ar luoedd y brenin yn Neheudir Cymru, ac arweiniodd hwy i Sir Gaerfyrddin (Ebrill - Mai), ond ar 6 Mehefin cafodd gymaint o golledion mewn brwydr ger Llandeilo Fawr nes gorfod cilio o'r fro a cholli ei swydd. Eto, yn Ionawr 1283 yr oedd gyda'r lluoedd brenhinol yn y Gogledd pan gymerasant gastell Dolwyddelan. Pan orymdeithiodd y brenin drwy Gymru yn 1284, aethpwyd drwy seremoni a bwysleisiai safle hanner-annibynnol arglwyddi'r Mers - ni sangodd y brenin ar dir Morgannwg heb ofyn caniatâd yr iarll, a hebryngodd Gilbert ei benarglwydd drwy ei diroedd. Pan wrthryfelodd Rhys ap Maredudd yn 1287, rhoddwyd cryn awdurdod i Gilbert, a bu yntau'n egnïol ddigon - eto, sibrydid iddo yn 1289 hwyluso'r ffordd i Rys i ddianc i diroedd y Clâr yn Iwerddon; a aeth Rhys yno, ni wyddys.

A chofio'r holl orffennol o 1264 ymlaen - a chofio hefyd wrthnawsedd y brenin i honiadau (a hawliau) arglwyddi'r Mers - prin y gallai hi fod yn fwy na 'heddwch gwŷr mawr' rhwng Edward a Gilbert, gŵr a chanddo wrogaeth dros 450 o farchogion yn Lloegr heblaw ei ddeiliaid yng Nghymru, gŵr a'i lys ei hunan a'i siryf ei hunan a'i fyddin ei hunan ym Morgannwg, gŵr a allai droi'r fantol rhwng brenin a barwniaid yn Lloegr, ac yn wir a gymerth y blaen yn 1288 mewn gwrthod treth i'r brenin oni ddychwelai o Wasgwyn i Loegr. Byth er 1283, yr oedd Edward wedi llunio cynllun i glymu Gilbert megis wrth droed yr orsedd; yr oedd yr iarll i ysgaru ei wraig ac i briodi â Joan, ferch y brenin, modd y byddai ei diroedd (yn Lloegr ac Iwerddon a Chymru fel ei gilydd), yn nwylo aerod y briodas, mewn sicrach dibyniad ar y Goron. Ond ymarhous fu'r Pab i hwyluso'r ffordd i hyn, ac nid cyn 2 Mai 1290 y bu'r briodas - gwaethygwyd yr amodau hefyd, gan drosglwyddo'r hawl i'r tiroedd, oni byddai plant o'r briodas, i blant Joan pe priodai hi'r eilwaith. Yn y cyfamser, yr oedd rhyfel wedi torri rhwng Gilbert a'i gymydog Humphrey Bohun VII (c. 1250 - 1298), arglwydd Brycheiniog (ar y Bohuniaid, gweler y D.N.B. a William Rees, ' The Mediaeval Lordship of Brecon ' yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1915-6), am i Gilbert godi castell ar dir ar y ffin rhwng eu harglwyddiaethau - tir yr hawliai Bohun ei fod yn perthyn i Frycheiniog; y castell oedd castell Morlais yn ymyl Merthyr Tydfil (nad yw i'w gymysgu, fel y gwneir weithiau, â chastell Morgraig rhwng Caerffili a Chaerdydd). Gwelodd y brenin ei gyfle i herio hen hawl arglwyddi'r Mers i ymladd rhyfeloedd 'preifat' - hawl nad oedd gan farwniaid oddi mewn i deyrnas Lloegr; a gwysiodd y ddau iarll i ymddangos yn gyntaf gerbron llys o uchelwyr y Mers, ac yna, yn wyneb anfoddogrwydd yr arglwyddi hyn i 'werthu' breiniau'r Mers, o flaen llys eu penarglwydd y brenin. Dyfarnodd y llys fod y ddau yn euog, a dedfrydwyd hwy i garchar, ac i golli eu tiroedd am eu hoes i ddwylo'r brenin. Gwir iddynt gael eu rhyddhau bron ar unwaith, a chael edfryd eu tiroedd hefyd; ond yr oedd crib yr Iarll Coch wedi ei thorri. Bu farw 7 Rhagfyr 1295.

Yn ôl telerau'r briodas, aeth tiroedd y Clâr i ddwylo'r dywysoges Joan am ei hoes. Bu hi farw fis Mawrth 1307. Cawsai hi a'r Iarll Coch fab a thair merch, ac yn awr daeth y mab, GILBERT V (1291 - 1314), ganwyd c. 10 Mai 1291, i'r arglwyddiaeth. Y mae'r ychydig a wyddom am ei ymwneuthur ef â Chymru 'n adlewyrchu'n ffafriol arno; gellid meddwl ei fod yn ymddiried llawer ym Morgannwg i Lywelyn Bren (Llywelyn ap Gruffydd o hen deulu arglwyddi Cymreig Senghennydd). Ond cwympodd yn ifanc ar faes Bannockburn, 24 Mehefin 1314. Ymhen y rhawg (1317), rhannwyd ei diroedd rhwng ei dair chwaer unfam. Aeth MARGARET â Tonbridge, iarllaeth Caerloyw, Casnewydd, a Gwynllwg, i'w dau ŵr olynol. Cafodd ELIZABETH stadau Clare a Brynbuga (hi, yn 1347, a sefydlodd Goleg Clare, yr ail o golegau Caergrawnt). ELEANOR a gafodd arglwyddiaeth Morgannwg; priodwyd hi â HUGH DESPENSER, ac yn nwylo'r tylwyth hwnnw y bu Morgannwg hyd 1411. Yna, bu yn nwylo'r NEVILLE (ieirll Warwick) hyd gwymp y teulu hwnnw (1471), ac wedyn yn nwylo teulu Iorc. Aeth brwydr Bosworth â hi i ddwylo Harri VII, a'i rhoes i'w ewythr Siasper, ac a'i hailfeddiannodd ar farw hwnnw yn 1495; crewyd hi'n sir yn 1536.

B. Ail fab Gilbert I (uchod) oedd GILBERT (bu farw 1148); hwn a gafodd iarllaeth Penfro a Chilgerran ar ôl ei dad (collasid Ceredigion i'r Cymry), a iarllaeth Casgwent ar ôl ei ewythr Walter (gweler dan A). Daeth ei fab RICHARD (bu farw 1176), ' Strongbow,' i enwogrwydd mawr yn herwydd ei gyrch ar Iwerddon (1168), a gadawodd enw'i deulu ar fap Iwerddon (afon, tref, a sir Clare). Ni bu iddo fab, ond priododd ei ferch ISABEL â William Marshal, a pheidiodd yr enw Clare yng ngorllewin Cymru. Dilynwyd y Marshaliaid yn eu tro, yn eu meddiant o diroedd y gainc hon o'r Clariaid, gan deuluoedd Valence, Braose, a Bigod.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.