Disgrifir ef fel mab Gruffydd - ac nid Rhys (tadenw a barodd beth dyryswch hyd yn hyn) - mewn llythyr yn hysbysu ddarfod ei gymryd i'r ddalfa yn 1316. Dengys cofnodion cyfoes ei fod yn wr diwylliedig ag iddo ddiddordebau llenyddol nas ceid gan wyr o'i radd a'i gyfnod ef, gwr yn berchen llawer o diroedd ac o gyfoeth personol yn Senghenydd a Meisgyn - ' a great man and powerful in his country,' medd cronicl cyfoes amdano. Awgryma hyn oll mai mab ydoedd i Gruffydd ap Rhys, deiliad Cymreig i arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg, a gor-wyr i Ifor Bach, arglwydd Senghenydd, a Nest, wyres Rhys ap Tewdwr Fawr. Er y flwyddyn 1256 cawsai Senghenydd ei llyncu yn llwyr i mewn i drefniant ffiwdalaidd yr arglwyddiaeth, ond ymddengys fod Llywelyn ar delerau da iawn â'r iarll ieuanc, Gilbert de Clare, ac yn dal swydd dano; efallai, hefyd, ei fod yn gweithredu fel cynghorwr yr iarll ar faterion yn ymwneuthur â'r Cymry. Pan fu Gilbert farw, yn annhymig, yn 1314, aeth Morgannwg am gyfnod i ddwylo'r Goron, ac arweiniodd hyn i gyfnewidiadau yn y gweinyddiad lleol, yn enwedig pan ddewiswyd Pain de Turberville, arglwydd Coety, yn geidwad yr arglwyddiaeth yn 1315. Nid oedd Pain, a oedd yn gymydog agos ac yn elyn i gyfneseifiaid Llywelyn yn Afan, yn gyfaill i Gymry o gwbl, o ba radd bynnag y byddent. Symudwyd Llywelyn o'i swydd a chafwyd, yn sgîl hynny, gyfnod byr o wrthgyhuddiadau personol chwerw ar y naill ochr a'r llall. Cyrhaeddodd hyn oll ei uchafbwynt pan na chafodd Llywelyn gan Edward II wrando arno ag unrhyw fesur o gydymdeimlad. Gan ei fod yn ofni y bradychid ef, dychwelodd Llywelyn adref yn ddirgel yn gynnar yn 1316, ac yn wyneb yr anfodlonrwydd a oedd yn gyffredinol ymysg y Cymry yn y parthau lle y caniateid i'r Cymry barhau i fyw ni chafodd unrhyw anhawster i beri gwrthryfel eang ymysg gwyr y Blaenau ym Morgannwg. Er i'r gwrthryfel achosi difrod mawr ym Mro Morgannwg, a llawer o gyrchoedd cryfion ar rai amddiffynfeydd pwysig, Caerffili yn eu plith, ni pharhaodd namyn ychydig wythnosau. Ychydig obaith am lwyddiant a feddai'r gwrthryfelwyr pan gydymunodd arglwyddi'r Mars o dan Bohun a Mortimer, y ddau wr yr ymostyngodd Llywelyn iddynt mewn modd mor arwrol nes ennyn edmygedd croniclydd nad oedd Gymro. Ar 22 Mawrth rhoddwyd Llywelyn yn y carchar yn Aberhonddu. O 27 Gorffennaf 1316 hyd 17 Mehefin 1317 carcharwyd ef yn Nhwr Llundain. Erbyn hynny yr oedd Morgannwg yn cael ei defnyddio i bwrpasoedd teulu Despenser a gorfu i Lywelyn ddioddef oblegid eu gwanc hwy. Cymerwyd meddiant o'i stadau a daethpwyd ag yntau i Gaerdydd lle y gorfu iddo ddioddef marw fel bradwr. Yn ddiweddarach yr oedd llofruddio Llywelyn Bren yn un o'r cyhuddiadau a ddygwyd yn erbyn tylwyth Despenser. Pan gollodd Edward II ei orsedd cafodd meibion Llywelyn Bren - Gruffydd, John, Meurig, Roger, William, a Llywelyn - y stadau yn Senghenydd yn ôl (11 Chwefror 1327).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.