TURBERVILLE (TEULU), Coety, Sir Forgannwg.

Yr oedd i deulu Turberville amryw ganghennau mewn llawer o siroedd. Sillebir yr enw mewn gwahanol ffyrdd. Y mae'n debyg i rai aelodau ddyfod drosodd gyda William y Concwerwr; ymddengys eu henwau yn 'Roll' abaty Battle. Bydd a fynno'r erthygl hon â'r gangen yn Sir Forgannwg yn unig. Dyma, y mae'n bosibl, olyniaeth arglwyddi Coety :

PAYN (PAGANUS) I. Ymddengys i Robert Fitzhamon roddi iddo ef arglwyddiaeth Coety, yn cynnwys maenorau 'Coity Anglia' a 'Coity Wallia.' Dyma'r unig arglwyddiaeth ym Morgannwg a ddelid yn y modd ysgafn a elwid yn 'serjeanty of hunting' - o bosibl oblegid pwysigrwydd safle ddaearyddol yr arglwyddiaeth yn adeg rhyfel. Gelwid Payn I 'y Cythraul' eithr ni wyddys paham y rhoddid iddo'r enw anfrïol hwn. Yn 1126 a 1129 yn unig yr ymddengys fel tyst i siarteri. Am yr hanes tlws am ei briodas â merch pennaeth Cymreig Coety a'r hanes (nad yw mor dlws) sydd yn dywedyd iddo roddi dyrnod i Fitzhamon a barodd i hwnnw fynd yn lloerig - rhaid cydnabod nad oes unrhyw sail hanesyddol iddynt. Dilynwyd Payn I gan ei fab SIMON, a fu farw'n ddi-blant; dilynwyd yntau gan ei frawd Gilbert I. Rhoddwyd grantiau ganddo ef i briordy Ewenny a chadarnhawyd hwynt gan Maurice de Londres cyn 1148. Dilynwyd Gilbert I gan ei fab PAYN II. Yr oedd ef yn fyw yn 1202, a bu farw c. 1207. Caniatawyd meddiant o'r arglwyddiaeth yn 1207 i GILBERT II, mab Payn II Priododd ef â Matilda (neu Agnes), merch Morgan Gam, Afan, a thrwyddi hi cafodd faenor Llandymor yng Ngŵyr. Ymddengys iddo ymuno gyda'r barwniaid a wrthwynebai'r brenin John, oblegid caniatawyd iddo ailfeddiannu ei diroedd yn 1217 ' as he had returned to faith and service of the lord king ' (Harri III, a oedd o dan oed y pryd hwnnw). Cafodd yr un pryd faenor Newcastle a ddelid cyn hynny gan Forgan Gam; o hynny ymlaen disgynnai Coety a Newcastle gyda'i gilydd. Dilynodd GILBERT III ei dad ac yr oedd mewn meddiant o'r Coety a Newcastle adeg stent Morgannwg a gymerwyd yn 1262; cyfrifid Newcastle ymhlith y grantiau ('feoffments') diweddar, h.y. ar ôl 1135. Bu Gilbert III farw rywbryd cyn 1281. Richard I, mab Gilbert III, a ddilynodd, eithr am ychydig o amser yn unig, gan iddo, yn ôl G. T. Clark, farw yn 1283. Mab Richard I oedd PAYNE III. Priododd ef Wenllian, merch Syr Richard Talbot, Richard's Castle. Yr oedd yn ' custos ' Morgannwg yn 1315 a newidiodd amryw o'r gwŷr a oedd mewn awdurdod - yn eu plith Llewelyn Bren, Eglwysilan. Yr elyniaeth a achoswyd oblegid hyn oedd prif achos gwrthryfel Llewelyn Bren. Bu Payne III farw c. 1318. GILBERT IV, mab Payne III, a ddilynodd. Priododd ef â Cicely, ferch John, arglwydd Beauchamp (o Hache) Cafodd dir Llandymor yng Ngŵyr yn ôl yn 1336, yr oedd yn y gwarchae ar Calais yn 1346, ac yn 1337 rhoddwyd iddo wardaeth castell brenhinol Aberteifi a'r swydd o senesgal Sir Aberteifi am ei oes. Y mae'n debyg iddo farw yn 1349. Dilynwyd Gilbert IV gan ei fab, GILBERT V. Ychydig a wyddys amdano. Y mae'n debyg iddo farw'n ddiblant. Aeth yr eiddo yn ôl i RICHARD II, mab Payn III, a fu yntau hefyd farw'n ddi-blant, ac, y mae'n debyg, yn ddibriod. Gyda'i farw ef daeth llinell uniongyrchol y teulu i ben a disgynnodd yr eiddo trwy CATHERINE, merch Payn III, i Syr Roger Berkerolles, East Orchard. Yr oedd ym Morgannwg lu o deuluoedd eraill yn dwyn yr enw - rhai ohonynt yn ddisgynyddion meibion iau a rhai ohonynt, yn fwy na thebyg, yn anghyfreithlon o ran eu cychwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.