OWAIN ap CADWGAN (bu farw 1116), tywysog Powys

Enw: Owain ap Cadwgan
Dyddiad marw: 1116
Partner: Nest ferch Rhys ap Tewdwr
Rhiant: Cadwgan ab Bleddyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog Powys
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Daeth i amlygrwydd (yn hytrach nag enwogrwydd) oblegid iddo ddwyn Nest i ffwrdd drwy drais yn 1109 a llofruddio, yn 1110, un o wŷr blaenllaw trefedigaeth y Fflemingiaid yn Nyfed, dau ddigwyddiad a barodd fod iddo elynion dros oes ymhlith y rhai y niweidiwyd hwy ganddo o'u plegid; yn wir, cymerwyd ei einioes oddi arno gan barti o Fflemingiaid a arweinid gan Gerald o Windsor, gŵr Nest, pan oedd ar gyrch ar ran y brenin yn erbyn cyd-dywysog yn Ne Cymru. Cyn hynny yr oedd (ar ôl dau gyfnod byr yn alltud yn Iwerddon) wedi dilyn ei dad, Cadwgan ap Bleddyn, fel ' brenin ' Powys (1111). Ar ddiwedd ei gyrch brenhinol i Gymru yn 1114 gofalodd Harri I, a fuasai bob amser yn bur amyneddgar tuag at Owain, ei gymryd gydag ef i Normandi lle y cafodd ei wneuthur yn farchog yn 1115. Ni adawodd Owain ddisgynyddion uniongyrchol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.