RHYS ap MAREDUDD (bu farw 1292), arglwydd Dryslwyn yn Ystrad Tywi

Enw: Rhys ap Maredudd
Dyddiad marw: 1292
Priod: Ada de Hastings
Rhiant: Maredudd ap Rhys Gryg
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd Dryslwyn
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab Maredudd, mab Rhys Gryg. Yn 1287-8 arweiniodd wrthryfel yn erbyn Edward I. Ildiasai i Edward yn 1277 pryd y cymerwyd castell Dinefwr oddi arno ond caniatáu iddo gadw Dryslwyn. Yn 1282 dug y tywysog Llywelyn ap Gruffydd gyhuddiadau yn erbyn swyddogion y brenin yng ngorllewin Cymru ar ran Rhys. Ond ni chymerodd Rhys ei hun ran yn y gwrthryfel. Yn hytrach, cynorthwyodd Edward, ymunodd yn yr ymosodiad ar Lanbadarn, a chadwodd lygad ar ardal Ceredigion ar ran y brenin yn absenoldeb arweinydd ei luoedd. Ar ôl 1283 cydnabyddid ef fel 'dominus de Estretewy', a gorfu i'r penaethiaid Cymreig yng ngogledd Sir Gaerfyrddin dalu gwrogaeth iddo. Yn 1285 priododd Ada de Hastings, a daeth castell Castell Newydd Emlyn i'w ran gyda hi. Ond aflonyddid arno gan weithrediadau swyddogion y brenin yn y sir, ac yr oedd cweryl rhyngddo a theulu Giffard o Iscennen (Llanymddyfri). Fel y dywed T. F. Tout, fodd bynnag, cwynion arglwydd y gororau yn hytrach na chwynion Cymro oedd ei rai ef. Gwrthryfelodd yn erbyn Edward, 8 Mehefin 1287, goresgynnodd Iscennen, gyrrodd Giffard ar ffo, ac anrheithiodd lawer o diroedd yng ngorllewin Cymru cyn belled â Llanbadarn, ac efallai, hyd yn oed ym Mrycheiniog. Danfonodd y rhaglyw, iarll Cernyw, filwyr y brenin i ymosod ar y Dryslwyn o wahanol gyfeiriadau, a chymerodd y lle c. 5 Medi. Ond ni ddaliwyd Rhys, a pharhaodd ef i wrthwynebu hyd oni syrthiodd Castell Newydd Emlyn hefyd, 20 Ionawr 1288. Yr oedd yn ffoadur yn 1289, a thybid, yn ôl gwrit ynglyn â'i achos, y ceisiai ddianc i Iwerddon. Drwgdybid Gilbert IV o Gaerloyw (gweler tan deulu Clare), o'i gynorthwyo. Daliwyd ef, fodd bynnag, ac yn 1292 dienyddiwyd ef yn Efrog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.