y ceir ymdriniaeth lawn ag ef yn D.N.B., 1922-30 (gan V. H. Galbraith) ac yn Proceedings of the British Academy, 1929 (gan Syr Maurice Powicke). Er mai ym Manceinion y gwnaeth Tout ei waith mwyaf, caiff eto le yn y gyfrol hon am i lawer o'i waith ddelio â Chymru ac mai yng Nghymru y cychwynnodd arno. Bu'n athro hanes yng Ngholeg Dewi Sant o 1881 hyd 1890. Yng ngeiriau Galbraith, ' his years at Lampeter were the making of him ' - ac meddai Powicke, ' at Lampeter, Tout found himself.' Dysgodd Gymraeg, ac ymdaflodd nid yn unig i waith y coleg ond hefyd i fywyd tref Llanbedr Pont Steffan - pan wnaethpwyd honno'n fwrdeisdref yn 1884, yr oedd Tout yn un o'i haldramoniaid cyntaf, a byddai'n fynych yn llywyddu'r cyngor trefol. Ymddiddorodd hefyd yn hanes Cymru. Sgrifennodd nifer mawr iawn o'r ysgrifau cysylltiedig â Chymru yn y D.N.B. - cyn i Syr John Lloyd yn 1893 gymryd at y gwaith, Tout gan mwyaf a sgrifennai ar Gymry 'r Oesau Canol; ond ni chyfyngid ei wybodaeth i'r oesau hynny - ef, e.e., a sgrifennodd yr ysgrif ar Charles o'r Bala; noder hefyd ei bapur ' Wales under the Stuarts ' yn Liverpool Welsh Nat. Soc. Trans., 1891-2, 24-41. Prif ffrwyth ei astudiaeth o hanes Cymru fu sylweddoli (fel y dangosodd yn eglur yn ei lyfrau) na ellir deall hanes Lloegr yn y 13eg ganrif heb roi ei llawn bwysau i'r 'broblem Gymreig.' Ni sgrifennodd lyfr unswydd ar hanes Cymru, ond gellir nodi yma rai o'i bapurau sydd o ddiddordeb Cymreig : ' The Welsh Shires ' (Cymm., ix), ' Wales and the March during the Barons' Wars, 1258-67 ' (yn Historical Essays by Members of Owens College, 1902, 76-136), ' Flintshire, its History and Records ' (Flints. Hist. Soc. Proc., i, 1-38), The Captivity and Death of Edward of Caernarvon, 1920, yr ymdriniaeth â hen fwrdeisdrefi Cymru yn ei Mediaeval Town Planning, 1917, a'r adrannau Cymreig o'i lyfr pwysig The Place of the Reign of Edward II in English History, 1914. Yn Llundain y ganwyd Tout, 28 Medi 1855, ac yno y bu farw, 23 Hydref 1929.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.