- gweler y ddau enw arno ym molawd 'Prydydd y Moch' (Llywarch ap Llywelyn) iddo, The Myvyrian Archaiology of Wales , i, 292-4; pedwerydd mab yr Arglwydd Rhys o Wenllian ferch Madog ap Maredudd o Bowys. Dyn anystywallt oedd Rhys, a wrthryfelodd yn erbyn ei dad ac a chwaraeodd y ffon ddwybig rhwng ei frodyr a rhwng Llywelyn Fawr a'r brenin John. Nid nad oedd yn rhyfelwr dewr ddigon, ond ni ellir canfod unrhyw gysondeb yn ei weithrediadau namyn crafangu a fedrai i'w; ddwylo ei hunan - gellir olrhain ei symudiadau trwy ddefnyddio'r fynegai i Lloyd, A History of Wales . O 1215 bu'n weddol gyson yn ei ymlyniad wrth Lywelyn Fawr (a'i cadarnhaodd, yng nghytundeb Aberdyfi yn 1216, yn y meddiant o'r rhan fwyaf o'r Cantref Mawr a'r Cantref Bychan, a chymydau Cydweli a Charnwyllion); a than faner Llywelyn bu'n difrodi'n afieithus gestyll Normanaidd yn Neheudir Cymru. Clwyfwyd ef yn farwol yn un o'r cyrchoedd hyn - y cyrch ar gastell Caerfyrddin yn 1234 - a bu farw yn Llandeilo Fawr. Claddwyd ef yn Nhyddewi; y mae awdl farwnad iddo yn The Myvyrian Archaiology of Wales , i, 543, a briodolir yno i Ddewi Mynyw neu i Lywarch 'Brydydd y Moch' - ond ar y t.i, 384 priodolir yr un awdl i'r Prydydd Bychan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.