Ceir yn llawysgrif Hendregadredd ac yn The Myvyrian Archaiology of Wales dros 20 cyfres o englynion o'i waith, a'r rheini gan amlaf i ddisgynyddion yr arglwydd Rhys, a mân benaethiaid a swyddogion yn Nyfed, Ystrad Tywi, a Cheredigion. Sonnir am frwydro yn Rhos a Phenfro yn fwyaf arbennig. Eto ceir ganddo englynion i Owain Goch a ganwyd rhwng 1244 a 1254 tra oedd Owain yn rhydd. Canodd farwnad i Rys Ieuanc (bu farw 1222), i Rys Gryg (bu farw 1234), i Owain fab Gruffudd ap Rys (bu farw 1236), ac englynion moliant a marwnadol i Faredudd fab Owain (bu farw 1265). Gan fod gwaith y Prydydd Bychan yn dilyn gwaith ei gyfoeswr, Phylip Brydydd, yn y llawysgrifau, a'r ddau yn canu i'r un tywysogion, hawdd yw eu cyplysu, ac y mae'n dra thebyg mai'r Prydydd Bychan yw'r ' Gwilym ' y sonia Gwilym Ddu o Arfon amdano (The Myvyrian Archaiology of Wales , 277b); ' Da oedd rhwng caeroedd Ceredigion rym / Phylip a Gwilym aethlym wythlawn.' Byddai hynny yn ei gysylltu â Cheredigion, ac y mae'n sôn am Lanarth, Gwynionydd, Ystrad Fflur, a Charon. Yn The Myvyrian Archaiology of Wales , 357b, rhoir i Ddewi Mynyw yr englynion i Rys Gryg a briodolir i'r Prydydd Bychan yn The Myvyrian Archaiology of Wales , 262b.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.