O'i waith fe geir awdl ac englynion dadolwch i Rys Grug, cadwyn o englynion ac awdl-farwnad i Rhys Ieuanc fab Gruffudd ab yr arglwydd Rys (bu farw 1222), a dwy awdl ddiddorol lle y mae'n hawlio'r flaenoriaeth ar feirdd isradd. Yn llys Rhys Ieuanc yn Llanbadarn Fawr y canwyd y naill o'r ddwy olaf hyn. Y mae Gwilym Ddu yn cysylltu Phylip yn arbennig â Cheredigion, ac yn ei osod ymhlith cynheiliaid traddodiad y penceirddiaid (The Myvyrian Archaiology of Wales , 277b, 8-9). Sonia Phylip Brydydd amdano'i hun fel bardd cadeiriog Rhys Grug, ac fel un a fu'n gydymaith iddo 'ganweith', a hynny pan oedd ei elynion yn codi yn ei erbyn 'ymhob rhiw' - cyfeiriad y mae'n debyg at helyntion 1213. Nodweddir ei waith gan ei falchder yn nhraddodiad urddasol 'penceirddiaeth Cymru ' sydd i'w olrhain, medd ef, o 'hengerdd Taliesin ' a llys Maelgwn Gwynedd, ond dengys ei waith fod cynheiliaid y traddodiad hwn yn gorfod brwydro am eu lle yn llysoedd y De mor gynnar â'i ddydd ef, yn erbyn y 'gofeirdd' a'r 'geufeirdd anghyfrwys' a'r 'Gwagfeirdd' - sef yr haenau isaf o feirdd a frigodd yn fwy i'r amlwg mewn oes ddiweddarach.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.