mab hynaf Gruffydd ap Llywelyn I, a Senena, a brawd Llywelyn II. Cadwyd ef yn garcharor gan ei frawd David II am flynyddoedd eithr trefnodd y brenin Harri III, yng nghytundeb Woodstock (1247), iddo gael cyfran o Eryri. Wedi brwydr Bryn Derwin (1254) cymerth Llywelyn II ei diroedd oddi arno a bu mewn carchar yr eiltro, ac am gyfnod hir. Bu raid i Lywelyn ei ryddhau, fodd bynnag, wedi'r gorchfygiad darostyngol a ddioddefodd hwnnw yn 1277, a gwneuthur Owain yn arglwydd ar ran o Lŷn. Cesglir iddo farw cyn y trychineb olaf (1282), eithr gweler farn arall, nad oes fawr o dystiolaeth o'i phlaid, yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1899-1900, 44-7. Nid oes ddadl nad Owain Lawgoch oedd y dioddefwr mwyaf oblegid ymgyrch y ddau Lywelyn yn erbyn yr arfer o rannu tiroedd yn gyfartal rhwng etifeddion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/