DAFYDD ap GRUFFYDD (bu farw 1283), tywysog Gwynedd

Enw: Dafydd Ap Gruffydd
Dyddiad marw: 1283
Priod: Elisabeth Ferrers
Plentyn: Dafydd Goch ap Dafydd
Plentyn: Owain ap Dafydd ap Gruffydd
Plentyn: Llywelyn ap Dafydd ap Gruffydd
Rhiant: Senena ferch Caradog
Rhiant: Gruffydd ap Llywelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog Gwynedd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

trydydd mab Gruffydd ap Llywelyn a Senena, a brawd iau i Owain a Llywelyn ap Gruffydd. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei eni. Gwyddom nad oedd yn ddigon hen i fod â rhan fel Owain a Llywelyn yn nhelerau cytundeb Woodstock (1247); gwyddom hefyd ei fod yn 1262 — er i bob golwg yn parhau o dan ofal ei fam — yn arglwydd Cymydmaen yng ngorllewin eithaf Gwynedd : felly tybiwn iddo gyrraedd oedran gŵr — yn 14 oed yn ôl cyfraith Hywel Dda — rhwng 1247 a 1252. Ceir sôn amdano, sut bynnag, mor gynnar â 1241, pan gafodd Dafydd a brawd iau iddo, Rhodri, yn ôl cytundeb rhwng y brenin Harri III a Senena, eu cymryd yn wystlon i'r brenin.

Cychwynnodd gyrfa wleidyddol Dafydd yn 1253 pan wysiwyd ef i dalu gwrogaeth i'r brenin Harri III. Gosodwyd cyweirnod yr yrfa honno yn 1255 pan ymunodd Dafydd ag Owain mewn gwrthwynebiad i Lywelyn, a chael eu gorchfygu ganddo ym mrwydr Bryn Derwin. Er iddo gael ei ryddhau o garchar yn y flwyddyn ddilynol, a'i dderbyn yn ôl i lys Llywelyn fel swyddog pwysig, dangosodd Dafydd ei hun ar ddau achlysur wedi hyn yn gwbl elyniaethus i Lywelyn. Yn y flwyddyn 1263, ymunodd â Harri III; yn y flwyddyn 1274 ymunodd eilwaith â'r gelyn — y tro hwn â'r brenin Edward I, ar ôl methu yn ei ymgais i ladd Llywelyn gyda chynhorthwy tywysogion Powys Isa. Er hyn i gyd, cytunodd Llywelyn, ar ôl ei fuddugoliaeth yn 1267, pan gydnabuwyd ef fel tywysog Cymru gan Harri III, i adfer Dafydd i'w hen safle bwysig ym mywyd Cymru, ac hefyd yn 1277 cafodd ei ailsefydlu — y tro hwn fel tâl gan y brenin am yr hyn a wnaeth i helpu i orchfygu Llywelyn. Mewn gwirionedd, yn lle'r addewid am ran o Eryri, ni chafodd Dafydd ond ailaddewid am ôlfeddiant o'r tir, a bu raid iddo fodloni ar roddion dros amser o dir brenhinol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gyda thiroedd yn sir Gaerlleon a rhannau eraill o Loegr, a ddaeth iddo pan ymbriododd ag Elisabeth Ferrers o deulu Derby — perthynas pell i'r brenin.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf yr oedd achwynion Dafydd yn erbyn yr awdurdodau Seisnig yn debyg i rai Llywelyn ei hun: yn wir, Dafydd a orfododd Llywelyn i fynd i ryfel wrth ymosod ar Benarlâg ar Sul y Blodau, 1282, a thrwy hynny brysuro'r gwrthdarawiad olaf. Chwaraeodd Dafydd ran flaenllaw a gwrol yn y rhyfel dilynol, ac ar ôl marwolaeth Llywelyn ym mis Rhagfyr, daliodd ati hyd fis Mehefin. Tua mis cyn iddo gael ei fradychu gan rai o'i gydwladwyr yr oedd yn cyfeirio'i lythyrau fel tywysog Cymru o'i gastell mynyddig yn Nolbadarn. Yn y diwedd dygwyd ef gerbron priflys y brenin yn Amwythig, ac yna, ar 3 Hydref 1283, o achos iddo dorri ei amod o ffyddlondeb i frenin Lloegr, cafodd ei ddienyddio fel bradwr.

Nid oes gennym hanes fod Dafydd wedi priodi cyn ei uniad ag Elisabeth Ferrers, ond gwyddom fod ganddo amryw o ferched a roddwyd mewn lleiandai, a dau o feibion — Llywelyn, a fu farw yn garcharor yng nghastell Bryste yn 1288, ac Owain, a oedd hefyd yng ngharchar Bryste — hyd y flwyddyn 1305 o leiaf.

Mae'n arferol barnu Dafydd yn dra llym; ond rhaid cofio bod rhesymau cyfreithiol a gwleidyddol dros ei ymddygiad at Lywelyn, ac er bod ei ffaeleddau yn amlwg i bawb, cofier hefyd fod astudiaeth fanwl o'i fywyd yn dangos inni ddyn eithriadol ddewr, o gymeriad deniadol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/