HYWEL DDA (bu farw 950), brenin a deddfwr

Enw: Hywel Dda
Dyddiad marw: 950
Priod: Elen ferch Llywarch ap Hyfaidd
Rhiant: Cadell ap Rhodri Mawr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin a deddfwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Stephen Joseph Williams

Gelwid ef yn gyffredin yn ' Hywel Dda fab Cadell, tywysog Cymru oll,' ac yn Brut y Tywysogion gelwir ef yn 'ben a moliant yr holl Frytaniaid.' Ef oedd yr unig dywysog Cymreig a gyfenwid yn 'Dda.' Ganed ef tua diwedd y 9fed ganrif; ni wyddys ym mha le.

Un o feibion Rhodri Mawr oedd Cadell, a rhan ddeheuol tywysogaeth ei dad a etifeddodd ef, sef Seisyllwg (Ceredigion ac Ystrad Tywi). Gadawodd hi i'w ddau fab, Hywel a Clydog, ac wedi marw Clydog yn y flwyddyn 920 cafodd Hywel feddiant llwyr arni. Elen ferch Llywarch ap Hyfaidd o Ddyfed oedd ei wraig, a dug hi Ddyfed yn gynhysgaeth iddo, gan mai Llywarch, yn ôl pob tebyg, oedd yr olaf o dywysogion Dyfed. Tywysog Gwynedd oedd Idwal Foel, ac y mae'n debyg bod Powys hithau yn ei feddiant. Lladdwyd Idwal gan y Saeson mewn brwydr yn y flwyddyn 942, ac er bod ganddo feibion meddiannodd Hywel ei holl diroedd. Daeth ef felly yn 'frenin Cymru oll,' ond bod gan Forgannwg a Gwent eu brenhinoedd annibynnol.

Llwyddodd ef i gadw heddwch rhyngddo a brenhinoedd Lloegr drwy gydol ei oes drwy ymostwng iddynt. Yn 918 bu ef a Chlydog ei frawd ac Idwal Foel yn plygu glin i Edward fab Alffred Fawr, a thua 926 aeth ef ac Owain o Went i Henffordd i gydnabod awdurdod Athelstan. Ceir ei enw yn ami ar freinlenni Lloegr fel is-frenin, a diau iddo deithio i lys Wessex o bryd i'w gilydd. Yr oedd yn ddigon annibynnol, er hynny, i beri bathu 'ceiniogau' arian yn dwyn ei enw, a hyd y gwyddys ef oedd yr unig dywysog Cymreig a wnaeth hynny.

Un o ddigwyddiadau mawr ei fywyd oedd ei bererindod i Rufain yn 928. Awgrymwyd mai dilyn esiampl Alffred a wnaeth yn hyn o beth, ac fe all mai gwaith y brenin hwnnw yn Lloegr a'i symbylodd i ymgymryd â gorchwyl pwysicaf ei fywyd, sef mynnu trefn a dosbarth ar amryfal arferion a chyfreithiau ei deyrnas. Diau bod ei deithiau wedi ei gadarnhau yn ei fwriad.

I chwarter olaf y 12fed ganrif y perthyn y llawysgrif gynharaf sydd ar gael o 'Gyfreithiau Hywel Dda,' ond tystia'r holl lawysgrifau mai trwy ei orchymyn a than ei awdurdod ef y trefnwyd hwy. Cytunant hefyd ar y cynllun a ddewisodd ef i gyflawni'r gwaith, sef gwysio chwech o gynrychiolwyr o bob cwmwd yn ei dywysogaeth i'r ' Ty Gwyn ar Daf yn Nyfed' i gymanfa fawr. (Codwyd abaty yn agos i'r fan yn ddiweddarach, a'r enw Cymraeg ar bentref Whitland yw Yr Hen Dy Gwyn.) Rhywbryd rhwng 942 a 950 y bu hyn: tua 945, efallai.

Ni ellir gwybod yn iawn beth oedd cynnwys y llyfr cyfraith a luniwyd yn y Ty Gwyn. Gwelodd Aneurin Owen yn y 19eg ganrif y dylid dosbarthu'r llawysgrifau cynharaf yn dri 'dull' pur wahanol i'w gilydd. Tyfodd y gwahaniaeth hwn rhwng y 10fed ganrif a'r 12fed am na pharhaodd undod teyrnas Hywel ddim wedi ei farw ef yn y flwyddyn 950. Bernir mai 'Dull Dyfed' (sef 'Llyfr Blegywryd,' yn ôl dosbarthiad A. W. Wade-Evans) sydd wedi cadw'n gywiraf gynnwys a threfn y ffurf wreiddiol. Y mae'r 'dull' hwn a rhai llawysgrifau eraill yn enwi Blegywryd fel y gwr a ddewiswyd gan y brenin gyda'r 'deuddeg lleyg doethaf o'i wyr i luniaethu ac i synhwyro iddo, ac i'w deyrnas, gyfreithiau ac arferoedd yn berffaith ac yn nesaf y gellid i'r (g)wirionedd a iawnder.' Dywedir ymhellach i'r brenin erchi 'eu hysgrifennu yn dair rhan: yn gyntaf, cyfraith ei lys beunyddiol; yr ail, cyfraith y wlad; y drydedd, arfer o bob un ohonynt.' Yr oedd tri 'llyfr' cyfraith i'w gwneud, h.y. tri chopi: ' un wrth ei lys beunyddiol parhaus gydag ef; arall i lys Dinefwr; y trydydd i lys Aberffraw; megis y caffai tair rhan Cymru, Gwynedd, Powys, Deheubarth, awdurdod cyfraith yn eu plith wrth eu rhaid yn wastad ac yn barod. Ac o gyngor y doethion hynny, rhai o'r hen gyfreithiau a gynhaliodd; eraill a wellhaodd; eraill a ddileodd yn gyfan gwbl, a gosod cyfreithiau newydd yn eu lle. '

Rhaid priodoli rhagoriaethau'r cyfreithiau i ddoethineb ac ysgolheictod Blegywryd a'i gymheiriaid, ond teg yw credu mai delfryd Hywel ei hun oedd unoli a sefydlu'n ddosbarthus amodau bywyd y gwahanol daleithiau a unasai ef yn un deyrnas. Gorffwys ei glod ar ei waith fel deddfwr, a gellir honni mai o gyfraith Hywel, yn bennaf, y tarddodd yr ymwybod cenedlaethol ymhlith y Cymry yn yr Oesoedd Canol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.