mab Merfyn Frych a Nest, ferch Cadell ap Brochwel, Powys. Dilynodd ei dad fel brenin Gwynedd yn 844. Pan fu farw ei ewythr, Cyngen, yn 855, daeth yn frenin Powys, ac yn 872 pan fu farw Gwgon, brenin Seisyllwg (Geredigion ac Ystrad Tywi) a brawd ei wraig, Angharad, daeth brenhiniaeth y de o dan ei lywodraeth. Trwy hyn oll cafwyd undeb (nad oedd yn glos iawn, efallai) o dair o'r llywodraethau Cymreig pennaf, a serch i'r uno gael ei dorri pan fu Rhodri farw fe esgorodd yr uniad ysbeidiol hwn ar ddyheadau a ddylanwadodd ar agwedd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o ddisgynyddion Rhodri fel rheolwyr Deheubarth neu Wynedd hyd at yr adeg y collodd Cymru ei hannibyniaeth. Yn oes Rhodri bygythid Cymru yn drwm gan y Daniaid eithr y mae tystiolaethau iddo arwain ei bobl mewn dull beiddgar a chadarn yn ystod yr argyfwng. Ymddengys iddo farw mewn brwydr yn erbyn y Saeson. Gadawodd chwe mab, a daeth dau ohonynt yn sylfaenwyr llinachau brenhinol yn y Canol Oesoedd - Anarawd, sylfaenydd teulu Aberffraw, a Chadell, tad Hywel Dda, a sylfaenodd deulu Dinefwr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/