Tystia amryw o'r MSS. hynaf o'r cyfreithiau i bwysigrwydd Blegywryd yng ngwaith y cyngor y parodd Hywel Dda ei gynnull yn y Ty-gwyn-ar-Daf yn Nyfed, c. 945. Sonnir am ddewis 13 o ddoethion o blith y cynulliad mawr i drefnu a golygu'r cyfreithiau, a chan mai Blegywryd yw'r unig un ohonynt a grybwyllir wrth ei enw, tebyg mai ef oedd bennaf. Gelwir ef yn ' athro,' 'yr un ysgolhaig doethaf,' 'clericum doctissimum,' a hefyd 'Howeli turbe legis doctor' ('Athro cyfraith i deulu Hywel '). Nid hawdd, felly, yw penderfynu a ydoedd yn offeiriad ai peidio. Tybiwyd, fodd bynnag, mai ato ef (a'i frawd) y cyfeiria ' Llyfr Llandaf ' wrth enwi 'famosissimus ille uir bledcuirit filius enniaun' (Blegywryd a Rhydderch feibion Einiawn). Os cywir hynny, dyma dystiolaeth mai lleygwr ydoedd ef, mai Einiawn oedd enw'i dad, a'i fod yn byw yng Ngwent yn 955.
Beth bynnag oedd safle a swydd Blegywryd, mae lle i gredu mai i'w athrylith ef y dylid priodoli rhan helaeth o fawredd y gyfundrefn odidog honno a adwaenir wrth yr enw ' Cyfreithiau Hywel Dda.'
Cysylltir ei enw'n fwyaf arbennig ag un 'dull' ar y cyfreithiau, sef ' Dull Dyfed ' neu ' Lyfr Blegywryd.' Eithr bernir hefyd fod y 'dull' hwn yn perthyn yn nes na'r 'dulliau' eraill i'r trefniant gwreiddiol a wnaed yn oes Hywel Dda.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.