OWEN, ANEURIN (1792 - 1851), hanesydd ac ysgolhaig Cymreig a golygydd cyfreithiau Hywel Dda

Enw: Aneurin Owen
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1851
Priod: Jane Owen (née Lloyd)
Rhiant: Sarah Elizabeth Pughe (née Harper)
Rhiant: William Owen Pughe
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd ac ysgolhaig Cymreig a golygydd cyfreithiau Hywel Dda
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 23 Gorffennaf 1792 yn Llundain, mab William Owen Pughe a'i wraig Elizabeth. Pan oedd y mab tuag 8 oed symudodd y teulu i blwyf Nantglyn, sir Ddinbych, lle yr etifeddodd y tad stad fechan (ac eiddo yn Sir Feirionnydd hefyd) ar ôl perthynas iddo - y Parch. Rice Pughe. Er i Aneurin Owen gael ei anfon i Ysgol y Friars, Bangor, gan ei dad y derbyniodd ei addysg gan mwyaf - yr oedd ei dad am iddo dyfu i fyny yn hyddysg yn yr astudiaethau hanesyddol a llenyddol Cymreig yr oedd efe ei hunan yn cael ei gyfrif yn awdurdod arnynt erbyn hyn. Priododd, 1820, Jane Lloyd, hithau o Nantglyn, a buont yn byw yn Tanygyrt, plwyf Nantglyn. Daeth yn un o gomisiynwyr cynorthwyol y degwm yn Lloegr a Chymru, wedyn yn gomisiynwr cynorthwyol Deddf y Tlodion, ac yn ddiweddarach yn un o gomisiynwyr cau tiroedd comin. Pan fu John Humffreys Parry farw (1825) rhoddwyd i Owen y gwaith o gwpláu yr hyn a gychwynasid gan hwnnw, sef paratoi argraffiad o gyfreithiau Hywel Dda a chasglu defnyddiau ar gyfer argraffiad o 'Brut y Tywysogion.' Cyhoeddwyd y 'cyfreithiau' yn 1841 - Ancient Laws and Institutes of Wales; Comprising the Laws … by Howel the Good and Anomalous Laws … with an English Translation (London, for the Commissioners on Public Records, dwy gyfrol). Fel y dengys Syr John E. Lloyd (D.N.B.), yr oedd hwn yn waith nodedig, oblegid y modd gofalus yr atgynhyrchwyd y llawysgrifau gan y golygydd a hefyd oherwydd iddo, a hynny am y waith gyntaf, wahaniaethu rhwng tair fersiwn - 'dulliau' Gwynedd, Dyfed, a Gwent - cyfraith wreiddiol Hywel. Nid ymddangosodd 'Brut y Tywysogion' hyd 1860, h.y. naw mlynedd wedi marw Owen, ac ni chawsid mohono yn 1860, efallai, oni buasai am achwynion a wnaethpwyd (gweler Archæologia Cambrensis, III, v, 235) fod y defnyddiau yn cael eu gadael braidd yn aflêr yn y Public Record Office a'u bod at wasanaeth pobl a oedd yn eu defnyddio heb wneuthur y gydnabyddiaeth gwrtais. Pan gyhoeddwyd y ' Brut ' o'r diwedd, dan olygiaeth John Williams 'ab Ithel', gwelwyd na chrybwyllwyd o gwbl i Owen wneuthur y rhan helaethaf o'r gwaith golygyddol. Tair blynedd cyn i Owen farw ymddangosodd, yng nghyfres y 'Monumenta Historica Britannica,' y gyfran honno o'r 'Brut' sydd yn diweddu yn 1066; golygwyd hon gan Owen. Cyhoeddodd y 'Cambrian Archaeological Association,' yn 1863, gopi a chyfieithiad a wnaethai Owen o 'Frut Gwent' (fel y'i gelwir) ynghyd â'r rhagymadrodd a baratoisai ef gyfer y 'Monumenta.' Mewn cysylltiad â'r gweithiau a enwyd uchod, mynychodd llawer o lyfrgelloedd; gan ei fod yn fab i William Owen Pughe yr oedd iddo hefyd ddiddordeb yng nghynnwys llenyddol amryw o'r llawysgrifau a welodd. Dywedwyd amdano fod yr hyn y llwyddodd i'w wneuthur yn atgof o waith Edward Lhuyd, mewn mwy nag un ystyr. Megis y gwnaethai Lhuyd, felly hefyd fe baratodd Owen gatalogiau o lawysgrifau Cymreig a welsai. Cyhoeddwyd ei 'Catalogue of Welsh Manuscripts, etc., in North Wales' yng nghyfrol ii, rhan iv, Transactions of the Cymmrodorion or Metropolitan Cambrian Institution (London, 1843); cawsai'r catalog hwn y wobr gyntaf yn eisteddfod y Cymmrodorion a gynhaliwyd yn y Trallwng, 8 Medi 1824. Rhoddwyd yr ail wobr i Angharad Llwyd am gatalog cyffelyb; cyhoeddasid hwnnw eisoes yn 1828 yng nghyfrol ii y Transactions - gweler llythyr (yn NLW MS 4857D ) a anfonodd Angharad Llwyd, 19 Ionawr 1831, at Aneurin Owen ynghylch llawysgrif Gutyn Owain. Yr oedd i Aneurin Owen ddiddordeb dwfn ym mudiadau Cymreig ei gyfnod, yn enwedig yn yr eisteddfodau. Enillodd yn eisteddfod Biwmares, 1832, y fedal arian a gynigid am draethawd ar 'Amaethyddiaeth'; cyhoeddwyd hwn yn nhrafodion yr eisteddfod ac hefyd ar wahân - Traethawd Gwobrwyol … ar Amaethyddiaeth (London, 1839). Bu farw 17 Gorffennaf 1851 yn Trosyparc, gerllaw Dinbych.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.