Uchelwr o blwyf Dudlust ym maenor y Traean yn arglwyddiaeth Croesoswallt; perchen tir yn y plwyf nesaf hefyd, sef Llanfarthin - dywedir mai yn eglwys y plwyf hwnnw y claddwyd ef. Yr oedd yn ddisgybl yng nghelfyddyd cerdd dafod i Dafydd ab Edmwnd. Tyfodd yn bencerdd, ac nid rhyfedd iddo ganu'n orchestol, megys ei feistr yntau, ar fesurau celfydd. Daeth yn ysgolhaig ac yn achwr o fri hefyd, a dengys ei ysgriflyfrau, a erys hyd heddiw yn y llyfrgelloedd, beth oedd pynciau ei ddysg. Bu'n ddiwyd yn croniclo hanes, ac yn amlhau mewn llaw gain gopïau lawer o'r hen frutiau, o hanes bonedd a bucheddau'r saint, o ddoethineb yr Hen Gymry, o Ramadegau'r Penceirddiaid, o lyfrau meddyginiaeth a seryddiaeth, ac o lyfrau achau teuluoedd uchelwaed.
Cyfeirir ato weithiau fel hanesydd dinas Basing ac Ystrad Fflur. Nid ydys wedi cael praw iddo ymweled â'r fynachlog yng Ngheredigion, ond gwyddys iddo aros yn ninas Basing, ac iddo ysgrifennu, yno ond odid, ei ran o Lyfr Du Basing (NLW MS 7006D ), sef cyfran helaeth o'r Brut a elwir yn Frut Tysilio, a'r cwbl o Frut y Saeson hyd 1461. Ceir ganddo mewn llyfr arall o'i law gopi o Frut y Brenhinedd ac o Ystoria Dared, a thybir mai ef yw awdur yr aralleiriad o Frut y Tywysogion a'r cronicl o hanes yr amserau hyd 1471 a geir yn yr un llawysgrif. Ef hefyd biau'r copi cynharaf o'r Llyfr Arfau yn Gymraeg, ac o'r Gramadeg sy'n cynnwys deddfiadau Dafydd ab Edmwnd ac eisteddfod Caerfyrddin. Gramadeg Gutun Owain a'i ddosbarth ar y cynganeddion a mesurau cerdd dafod a fu'n sylfaen i ramadegau penceirddiaid yr 16eg ganrif. Erys un llyfr achau, o laweroedd o'i waith, a thystia mynych gyfeiriadau achwyr diweddarach ato mai ef oedd eu sail ar achau Powys a Gwynedd a'r Gororau, megys ag yr oedd hefyd yn un o brif awdurdodau'r comisiwn a benodwyd i olrhain bonedd y brenin Harri VII.
Dywed hen gofnod fod Gutun yn y byd yn ystod teyrnasiad Edward IV. Honnir hefyd iddo fynd gyda'i athro Dafydd ab Edmwnd i eisteddfod Caerfyrddin yn 1451. Os gwir hyn, rhaid mai llanc ieuanc iawn oedd ar y pryd. Ni ellir bod yn sicr o gwbl ynghylch y dyddiad nesaf a roddir gan rai i waith o'i eiddo. Digwydd y dyddiadau 1455 a 1456 dan ei law yn y gwaith dan sylw, ond dichon mai copi yw'r frawddeg o gofnod yn yr ysgriflyfr gwreiddiol. I gyfnod diweddarach yn y ganrif y perthyn y gweithiau o'i eiddo y gellir eu dyddio'n bendant. Cyfansoddodd farwnadau y gellir eu priodoli i amryw flynyddoedd rhwng 1484 a 1498. Canodd hefyd gywyddau ac awdlau i ddau o abadau Llanegwestl, sef Sion ap Rhisiart a'i olynydd Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth. Nid oes hysbysrwydd pryd y dyrchafwyd y naill na'r llall i'r abadaeth, ond gwyddys i dymor Dafydd ddyfod i ben pan gysegrwyd ef yn esgob Llanelwy yn 1500, ac wrth olrhain ei ach mewn llyfr achau cyfeirir ato gan y bardd fel 'Esgob.' Ysgrifennwyd y llyfr yma felly naill ai yn y flwyddyn 1500, neu'n fuan wedyn. Prawf hyn yn derfynol i'r bardd fyw i weld y flwyddyn honno, a'i fod wrth ei waith bryd hynny. A gafodd ef weld rhai o flynyddoedd cyntaf y ganrif newydd nid oes dystiolaeth, ond gan na cheir ganddo farwnad i'r esgob Dafydd a fu farw yn 1503, tybiaf nad anghywir fyddai gosod cyfnod ei ganu a'i weithgarwch rhwng 1460 a 1500-03.
Fel prydydd, yr oedd Gutun Owain yn feistr ar ei grefft. Barddoniaeth llys yw'r cwbl o'i waith - cywyddau gofyn a dyfalu, cywyddau mawl a marwnad. Nid gwych pob cerdd o'i eiddo, ond y mae camp ar ei farwnadau a'i gywyddau clod - clod am ddysg, am ddoethineb, am ddewrder. Ond o bob dawn, haelioni a pherchentyaeth deilwng oedd bennaf ganddo. Y mae ei athrylith yn eglur yn herwydd dychymyg cywrain a throadau a dyfaliadau barddonol, a'i awen yn ddigamsyniol yn angerdd ei gerdd glod i ddoniau bardd ac abad ac uchelwr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.