DAFYDD ab EDMWND (fl. 1450-1490), uchelwr a phencerdd

Enw: Dafydd ab Edmwnd
Plentyn: Edward ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: uchelwr a phencerdd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Roberts

Ganwyd ym mhlwyf Hanmer ym Maelor Saesneg. Hanai o'r un llinach â theulu'r Hanmeriaid, a disgynnai o John Upton, cwnstabl castell Caernarfon, 1306-7, fab Syr John Macklesfield. Ef oedd perchen Yr Owredd a llawer o diroedd eraill yn Hanmer, ond treuliodd ran o'i oes, fodd bynnag, ym mro ei fam, sef yn Nhre Wepra yn Nhegeingl. Claddwyd ef yn eglwys Hanmer.

Dafydd ab Edmwnd a enillodd y gadair arian am drefnu mesurau cerdd dafod yn yr eisteddfod yng Nghaerfyrddin gerbron Gruffudd ap Nicolas yn 1451. Ef oedd penawdurdod y beirdd ar bynciau iaith a mydr. Ganddo ef yn bennaf oll yr oedd gwybodau am gelfyddyd cerdd dafod, ac arddelid ef yn feistr ar gerddwriaeth gywrain. Hen fesurau oedd y cwbl yn ei drefniant, ond dau o gaethiwed eithafol a ddyfeisiodd ef ei hun, sef y Cadwynfyr a Gorchest y Beirdd. Ychwanegodd hefyd at gaethder mesurau eraill trwy ddeddfu bod yn rhaid i'r rhagodlau yn y Rhupunt Hir a Byr a'r Tawddgyrch Cadwynog odli'n ddwbl, a bod yn rhaid canu awdl-gywydd ar gynghanedd reolaidd. Caethiwodd y gynghanedd hefyd, a'r cwbl er trefnu profion anos i'r ymgeiswyr am raddau, ac felly ddiogelu cyfundrefn y beirdd rhag y rhigymwyr a oedd mor chwannog i fwynhau eu breintiau.

Yr oedd ffurf ac addurn cerdd yn bethau pwysig iawn yng ngolwg y bardd. Yn ei ganu meistraidd ar y Cywydd Deuair Hirion gofalai am lyfnder a symlrwydd iaith, ond yn ei gywyddau 'gorchestol' y mae yn or-gywrain yn ei ddefnydd o'r 'cymeriadau'; ac yn ei awdlau nid dim ond y cynganeddion mwyaf celfydd a'r mesurau mwyaf caeth a'i bodlonai.

Cywyddau serch yw prif ffrwyth ei awen. Yn ôl traddodiad y canu serch canodd hwyrganau a dychanau i Eiddig. Rhoes fwy o sylw i degwch rhianedd nag a wnaeth Dafydd ap Gwilym, canys canodd yn gain ac yn gywrain iawn gywyddau i ddyfalu harddwch eu pryd, a moli melynder eu gwallt a gwrid eu gruddiau. Ychydig a ganodd i Natur, er y ceir ganddo rai disgrifiadau prydferth o'r 'Deildy' mewn cywyddau sy'n gyfuniad o serch a natur.

Er bod y bardd yn ei flodau yn adeg Rhyfeloedd y Rhosynnau, ni cheir dim son am derfysgoedd y cyfnod ganddo. Ond y mae ei genedlgarwch yn amlwg er hynny, a dengys ei waith ei fod yn meddu ar yr ymdeimlad cenedlaethol i raddau helaeth iawn.

'Canmol a chlodfori' a wnaeth Dafydd ab Edmwnd yn y gweddill o'i gyfansoddiadau - yn ôl cyfarwyddyd y gramadegau ar swydd prydydd. Canmol athrylith telynor, neu orchest milwr; canmol haelioni pendefig ac ysgolheictod abad ac offeiriad; a chlodfori Duw'r Tad a Duw'r Mab a Mair am bob daioni. Dwg ei waith nodau meistr pan nad yw'n canu'n or-gywrain, gan mor odidog ei ddychymyg a'i welediad, a chan mor llwyr ei feistrolaeth ar ei gelfyddyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.