GRUFFUDD ap NICOLAS (fl. 1415 - 1460) uchelwr, a phrif ffigur llywodraeth leol deheubarth tywysogaeth Cymru yng nghanol y 15fed ganrif

Enw: Gruffudd ap Nicolas
Priod: Sian ferch Siencyn ap Rhys ap Dafydd
Priod: Mabli Dwnn
Plentyn: Mary ferch Gruffudd ap Nicolas
Plentyn: Mawd ferch Gruffydd ap Nicolas
Plentyn: Thomas ap Gruffudd ap Nicolas
Plentyn: John ap Gruffudd ap Nicolas
Plentyn: Owain ap Gruffudd ap Nicolas
Rhiant: Sioned ferch Guffudd ap Llywelyn Foethus
Rhiant: Nicolas ap Phylip ap Syr Elidir Ddu
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: uchelwr, a phrif ffigur llywodraeth leol deheubarth tywysogaeth Cymru yng nghanol y 15fed ganrif
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Evan David Jones

Y mae'n debygol iddo gael ei eni cyn diwedd y 14eg ganrif. Ni wyddys ddim am ei ddyddiau bore ond y dywedir mai mab gŵr marw ydoedd, am i'w dad, Nicolas ap Phylip ap Syr Elidir Ddu (un o farchogion y Bedd), dderbyn clwyf angheuol ddydd ei briodas â Sioned, ferch Gruffydd ap Llewelyn Foethus. Y cofnod dilys cyntaf amdano yw ei fod yn dal swydd ystiward ('appruator') i'r brenin dros arglwyddiaeth Dinefwr a'r dref newydd yno yn 1425. Ef oedd siryf Caerfyrddin yn 1436. Cafodd ef ac Edmund Beaufort brydles ar diroedd Phillip Clement yn 1437. Yr oedd yn allu i'w ofni yng ngorllewin Cymru yn 1438 yn ôl tystiolaeth Margaret Maleffant mewn cwyn i'r Senedd. Ffermiai arglwyddiaeth Dinefwr yn 1439, ac yr oedd ei fab JOHN yn gydgyfrannog ag ef. Yn yr un flwyddyn cawn ei fab THOMAS yn swyddog fforffedion Sir Aberteifi. Yn 1442-3, daeth drachefn i sylw'r awdurdodau yn Llundain, pan wysiwyd ef ac abad y Tŷ Gwyn i'r brifddinas, ac y gorchmynnodd y Cyngor Cyfrin ddal a charcharu ei fab OWAIN. Yr oedd o dan nawdd Humphrey, dug Caerloew, a chafodd, ar 24 Gorffennaf 1443, ofal arglwyddiaeth Caron a chwmwd Pennardd hyd oni ddeuai Mawd, etifeddes Wiliam Clement, i' w hoed. Cynhaliai sesiynau ar ran y dug Humphrey yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin. Pan gyflwynodd Saeson trefi Gogledd Cymru betisiwn i'r Senedd yn erbyn breinio ychwaneg o Gymry, yn 1444, eithriwyd ef a William Bwlclai wrth eu henwau. Gosodwyd ef ar gomisiwn, 2 Gorffennaf 1445, i ystyried troseddau Dafydd ap Maredudd yn Aberystwyth. Bu cwymp ei noddwr, yn 1447, yn dramgwydd iddo yntau, ar y pryd, a thaflwyd ef i garchar gydag eraill o deulu'r dug Humphrey. Fe' i rhyddhawyd yn fuan a chadwodd ymddiriedaeth y llys, gan barhau i weithredu dros ustus De Cymru, ac weithiau dros y siambrlen. Rhoes John Delabere, esgob Dewi, 1447 - c. 1460, ofal ei esgobaeth arno, a chafodd Richard, dug Efrog, hawl i roddi iddo ef a'r esgob gastell, maenor, a thref Arberth, 13 Mai 1449. Gosodwyd ef a'i fab Thomas ar gomisiwn amddiffyn porthladdoedd y de-orllewin, i gynnull y lluoedd, ac i osod coelcerthi, 7 Hydref 1450. Tua'r adeg hon, ac yntau yn anterth ei awdurdod, y cynhaliwyd eisteddfod Caerfyrddin. Nid oes sicrwydd am y flwyddyn na'r manylion. Rhoddir 1451 a 1453 mewn gwahanol adroddiadau. Dywed rhai iddi barhau am dri mis ar gost Gruffudd ap Nicolas yn Ninefwr, ac eraill mai am bythefnos y bu, a hynny yn nhref Caerfyrddin. Cytunir mai Gruffudd ap Nicolas oedd y brawdwr ar y beirdd, ac mai Dafydd ab Edmwnt a gafodd y gadair. Y mae'n bur sicr hefyd i'r eisteddfod osod trefn ar fesurau cerdd dafod a dosbarth ar y beirdd. Yn 1454-5, atgyweiriwyd ac atgyfnerthwyd castell Carregcennen ar ei orchymyn ef. Ar drothwy Rhyfel y Rhosynnau, yr oedd ef ar delerau da â llys y brenin Harri VI, ac ar ôl buddugoliaeth yr Iorciaid yn St. Albans, 1455, collodd rai o'i swyddi. Eto, ymddengys iddo ffromi pan ddanfonwyd Edmwnd, iarll Richmond, i Benfro yn 1456, os mai ef ydoedd y Gruffith Suoh [ sic ] yr adroddai John Bocking, 7 Mehefin 1456, wrth John Paston, ei fod ef ac iarll Richmond mewn rhyfel yng Nghymru. Beth bynnag, rhoddwyd pardwn cyffredinol iddo ef a'i feibion, Thomas ac Owain, ar 26 Hydref 1456. Diflanna'i enw o'r cofnodion ar ôl hyn. Petasai'n fyw ar Ddygwyl Dewi, 1459, y mae'n anodd credu y buasai ei enw allan o'r comisiwn a roddwyd i'w ddau fab, Thomas ac Owain, gyda Siasbar ac Owain Tudur. Ni ellir felly dderbyn iddo gael ei ddiwedd ym mrwydr Wakefield, 1460, neu Mortimer's Cross, 1461. Canwyd ei glodydd gan Ddafydd ab Edmwnt, Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys, Rhys Llwyd ap Rhys ap Rhicert, Gwilym ab Ieuan Hen, a Lewis Glyn Cothi. Y mae'n bur debyg mai o ddigrifwch neithiorau'r beirdd y cododd yr englynion ymryson a briodolir iddo ef ac Owain Dwnn a Gruffudd Benrhaw. Dywedir iddo fod deirgwaith yn briod: (1) â Mabli ferch Maredudd ap Henry Dwnn; (2) â merch Syr Thomas Perrot; (3) â Sian ferch Siencyn ap Rhys ap Dafydd o'r Gilfachwen. Cyfeiriwyd eisoes at dri o'i blant: John, a gollir yn gynnar o'r cofnodion, Owain, etifedd Bryn y Beirdd, a chydymaith Lewis Glyn Cothi pan fu ar herw, a Thomas, a laddwyd yn y maes ym Mhennal, ysgarmes a gymerodd le, fe ddichon, yn ystod rhyfel Herbart, 1468. Mab i'r Thomas hwn ydoedd Syr Rhys ap Thomas, 1449 - 1525.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.