Roedd Dafydd ap Maredudd Glais yn aelod o un o deuluoedd blaenllaw Aberystwyth yn y bymthegfed ganrif. Gweithredodd fel twrnai dros ei dad yn 1432-3 a chafodd ei garcharu yng nghastell Aberteifi am ôl-ddyledion. Ymddengys iddo fod yn saethydd, fel ei dad, ac yn 1438 cafodd lythyr gwarchodaeth i fynd dramor yng ngosgordd Edmund Beaufort. Yn 1439 bu'n warantwr, gyda John Roubury a Gruffydd Prôth (neu Prŵth), dros Thomas Kirkham, abad mynachlog Vale Royal yn Swydd Gaer, parthed dirwy.
Erbyn 1440-41 roedd wedi llofruddio Gruffydd Prôth a'i fab Dafydd Fychan. Cyhuddwyd ei dad, Maredudd, Thomas Glais a John Roubury o'i gynorthwyo. Cafodd Dafydd bardwn drwy dalu dirwy o £40, ond arweiniodd y llofruddiaeth at gynnen â theulu Prouth, ac o ganlyniad derbyniwyd Syr William ap Thomas a Gruffydd ap Nicolas yn gyflafareddwyr gan y ddwy blaid. Ar 12 Medi 1441 lluniodd y pleidiau gytundeb teiran ar yr amod bod Dafydd a'i geraint yn cytuno i dalu 304 swllt at ddefnydd perthnasau'r meirwon; gwaharddwyd Dafydd hefyd rhag dod i mewn i dref Aberystwyth neu i dref nac eglwys Llanbadarn Fawr am gyfnod. Ar 2 Gorffennaf 1445, gorchmynnodd y brenin i Gruffydd ap Nicolas ac eraill gynnal archwiliad yn sir Aberteifi 'touching all treasons, felonies and trespasses done there by David ap Mereth Gleyse of Haberustoth'.
Yn 1444, ysgrifennodd Dafydd lawysgrif Peniarth 22 . Ceir ynddi gopi o gyfieithiad Cymraeg (fersiwn Dingestow) o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, a hefyd cyfieithiad i'r Gymraeg gan Dafydd ei hun o gronicl Lladin byr ac anghyflawn am frenhinoedd Lloegr. Llawysgrifen ysgrifydd atebol sydd ganddo.
Daliodd swydd rif Aberystwyth yn 1457-9, 1460-63 a 1467-8.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-08-29
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mab ydoedd i Faredudd Glais, gŵr a lanwodd nifer o swyddi dinesig yn Aberystwyth a Llanbadarn rhwng 1411 a 1458. Ni wyddys pa bryd y ganwyd Dafydd, a'r cofnod cyntaf amdano yw ei fod ef a John Robury a Gruffudd Prôth neu Prŵth yn wystlon dros Thomas Kirkham, abad Vale Royal, am ddirwy yn 1429. Disgrifir y tri fel clerigwyr, a diamau y perthynent i eglwys Llanbadarn, a oedd o dan adain Vale Royal ers 1360. Yn 1442, cafwyd ef yn euog o lofruddio Gruffudd Prôth, ond gan ei fod mewn urddau nis collwyd. Ceir rhestr o'r gwyrda a aeth yn wystlon am ei ddirwy yng nghyfrifon swyddogion y sir.
Yn 1444, ysgrifennodd lawysgrif Peniarth 22, sy'n cynnwys copi o Frut Sieffre yn Gymraeg, a'i gyfieithiad ef ei hun o Frut y Saeson o Ladin i Gymraeg.
Wedi ei ddiurddo, dilynodd draddodiad ei deulu, a chawn ei enw fel profost Aberystwyth yn 1459-62 ac yn 1467-8.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.