Cymerodd ei enw oddi wrth enw fforest Glyn Cothi, ac y mae'n weddol sicr mai o fewn cyffiniau honno y ganwyd ef, ym Mhwllcynbyd ym mhlwyf Llanybyddair, efallai. Yn gynnar yn ei fywyd bu ar herw yng Ngwynedd gydag Owain ap Gruffudd ap Nicolas. Gallai hynny fod mor gynnar â 1443. Y gerdd gynharaf o'i waith y gellir ei dyddio'n bendant yw ei farwnad i Syr Gruffudd Fychan, Cegidfa, yn 1447. Fel plant Gruffudd ap Nicolas cymerodd yntau blaid teulu Lancaster yn Rhyfel y Rhosynnau, ac yr oedd Siaspar Tudur yn arwr yn ei olwg. Bu ar herw o'i achos ar ôl brwydr Mortimer's Cross, 1461. Nid oedd hynny yn rhwystr iddo ganu i uchelwyr a bleidiai deulu Iorc, ac ni fu nemor fardd a heuodd glod mor gyffredinol dros ddaear Cymru. Dywedir iddo ymsefydlu yng Nghaer, a phriodi gwraig weddw o'r ddinas honno heb ganiatâd y bwrdeisiaid, ac i'r rheini ei fwrw allan o'r ddinas. Y mae'n sicr i rywbeth ddigwydd i beri iddo wneuthur gwyr Caer yn gyff gwawd ac yn wrthrychau ei ddig, ond nid yw'n ddiogel adeiladu llawer ar gywyddau ac awdlau bardd heb fod tystiolaeth annibynnol i'r ffeithiau. Nid oes sôn am ei wraig yn ei waith, ond bu iddo fab, Siôn y Glyn, a fu farw yn 5 mlwydd oed.
Canodd yn helaeth i fonedd Sir Gaerfyrddin, de Ceredigion, a Maesyfed, ac yn y cywyddau a'r awdlau i'r dosbarth hwn y mae ei waith gorau. Ail enynnodd ei sêl at Siaspar Tudur ym mlynyddoedd olaf ei oes, ac yn gwbl naturiol daeth elfennau brudiol i'w ganu. Ni ellir dyddio dim o'i waith yn ddiweddarach na thua 1486 neu 1487, a gellir casglu iddo farw cyn 1490. Dywed traddodiad iddo gael ei gladdu yn Abergwili.
Gadwyd corff sylweddol o'i waith yn ei law ei hun, a dengys ei lawysgrifau ei fod yn hyddysg mewn herodraeth. Ysgrifennodd rai colofnau yn 'Llyfr Coch Hergest,' a dywedir mai ef a ysgrifennodd y rhan fwyaf o 'Lyfr Gwyn Hergest,' a gollwyd mewn tân yng ngweithdy llyfr-rwymwr yn Llundain yn gynnar yn y 19eg ganrif. Erys tua 230 o gywyddau ac awdlau a briodolir iddo. Cyhoeddwyd 154 ohonynt yn Gwaith Lewis Glyn Cothi gan Gymdeithas y Cymmrodorion o dan olygiaeth Walter Davies ('Gwallter Mechain') a John Jones ('Tegid') yn 1837. Y mae ei holl waith yn y wasg, drwy gydweithrediad y Llyfrgell Genedlaethol a Gwasg Prifysgol Cymru, dan olygyddiaeth E. D. Jones.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.