Ganwyd E. D. Jones yn Llangeitho ar 6 Rhagfyr 1903, yr hynaf o saith o blant Evan Jones, oedd yn ffermio yn y Wenallt, a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Tregaron ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn y Gymraeg yn 1926 ac mewn hanes yn 1927. Gan dderbyn ysgoloriaeth Syr John Williams ar gyfer 1928-9, dechreuodd olygu gwaith Lewis Glyn Cothi; ond yn fuan, fe'i bachwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol (ac yntau, o gael rhybudd ymlaen llaw, wedi bargeinio'n llwyddiannus am ei gyflog). Daeth i'r Llyfrgell â sgiliau arbennig mewn paleograffeg a diplomateg oedd yn ddyledus i gyrsiau haf Hubert Hall yn CPC. 'Archifydd Cynorthwyol' oedd teitl y swydd a dderbyniodd 'E. D.' (dyna a fu i bawb). Daeth i ymfalchïo mai ef oedd y cyntaf i'w benodi gan y Llyfrgell i swydd oedd yn cydnabod galwedigaeth yr archifydd. Perthynai'r balchder hwn i'r bleidiaeth gyson a ddangosodd ar hyd ei oes i broffesiynoldeb mewn llyfrgelloedd ac archifau. Daeth gydag amser yn gefnogwr brwd i Gymdeithas yr Archifyddion ac i'r Gymdeithas Llyfrgelloedd, a bu ganddo ran allweddol yn sefydlu Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru, gan ymhyfrydu yn ei lwyddiant a dal cadeiryddiaeth ei Fwrdd 1968-74. Bu'n dysgu ar gwrs diploma archifyddiaeth CPC tra parhaodd hwnnw yn y 1950au.
Sefydliad ifanc oedd y Llyfrgell Genedlaethol pan ymunodd E. D. â hi yn 1929. Syr John Ballinger, y Llyfrgellydd cyntaf, oedd ei bennaeth yn ei flynyddoedd cynnar. Cafodd ei benodi'n ddirprwy Ceidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau yn 1936 a Cheidwad yn 1938. Yr oedd y Llyfrgell eisoes yn gartref i brif gasgliadau y llawysgrifau Cymreig, ond cymharol brin oedd y daliadau archifol. Datblygiad pennaf y 1930au a'r cyfnod pan fu E. D. yn Geidwad oedd y twf aruthrol yn y daliadau hyn. Yn ystod y blynyddoedd hyn fe dderbyniwyd archifau llawer o ystadau mwyaf Cymru, cofnodion esgobol a chabidylaidd yr Eglwys yng Nghymru a chofnodion profiant ewyllysiau hyd 1858; a'u dilyn yn 1962 gan brif gorff archifau llysoedd y Sesiwn Fawr, yn dychwelyd i Gymru o'r Archifdy Gwladol yn Llundain. Dyma'r archifau Cymreig pennaf yn y Llyfrgell am y cyfnod cyn 1900. Gŵr o ddaliadau cryfion a mynegiant di-lol oedd E. D., ond yn ôl pob sôn adran nodedig o hwyliog a fodolai dan ei arweiniad ef. Llwyddodd y staff bychan i gyflawni'n orchestol y gwaith o restru a chatalogio'r mewnlifiad anferth o ddeunydd. Os bu gwendid, hwyrach mai arafwch darparu mynegeion cyfatebol ydoedd. Yr oedd rhyw dyb ymhlith ei gydweithwyr mai'r rheswm am hyn oedd na welai gŵr â chof mor rhyfeddol unrhyw angen mynegeion.
Penodwyd E. D. Jones yn Llyfrgellydd Cenedlaethol yn 1958, yn olynydd i Thomas Parry, a daliodd y swydd hyd ei ymddeoliad yn 1969. Dyma'r cyfnod pan ddaeth y Llyfrgell a'i staff dan adain y Swyddfa Gymreig. Dyma'r cyfnod hefyd pan gwblhawyd adeiladu rhan olaf y stac llyfrau cyntaf a pharatoi ar gyfer yr ail, y codwyd y rhan gyntaf ohono yn 1969-72 a'r ail ran yn 1978-82.
Er i archifau gael y lle blaenaf yn ei ddyletswyddau proffesiynol, dilynodd E. D. drywydd ei ddiddordeb cynnar mewn llawysgrifau llenyddol. Nid oedd neb o'i genhedlaeth yn adnabod y llawysgrifau a'u hysgrifwyr gystal ag ef. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o waith Lewis Glyn Cothi, ond un gyfrol yn unig, Gwaith Lewis Glyn Cothi (1953), o'r golygiad llawn a arfaethwyd. Cyfrannodd gannoedd o erthyglau i gylchgronau - yn ymestyn o olygiadau dogfennau canoloesol i hanes anghydffurfiaeth, o herodraeth i lyfryddiaeth - llawer ohonynt yn gyfraniadau sylweddol iawn i ysgolheictod. Rhestrir hwy yn llyfryddiaeth Huw Walters (1992). Ond ar farwolaeth E. D. yr oedd lle i resynu na lwyddodd i gyhoeddi rhagor, cymaint oedd ei ddysg a'i awdurdod. Un cyhoeddiad o'i eiddo oedd yn cyfuno ei ddiddordeb hanesyddol a'i frwdfrydedd fel ffotograffydd, oedd ei gyfrol o hen ffotograffau, Victorian and Edwardian Wales (1972). Bu'n olygydd ar Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1958 hyd 1969 ac ar Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Meirionnydd o 1953 hyd 1987.
O gwrdd ag E. D. am y tro cyntaf yn y cyfnod pan oedd yn Llyfrgellydd Cenedlaethol, fe ellid cael argraff nad oedd llawer o agosatrwydd yn perthyn iddo. Ar ei ddyrchafiad yr oedd wedi mabwysiadu persona i weddu â'r swydd, ond un a ollyngodd yn syth ar ei ymddeoliad. Fe ddaeth wedyn i bobl ifanc yr hyn yr oedd wedi bod erioed i'w hen gyfeillion, cydymaith hawddgar a difyr, yn eang ei ddiddordebau, yn ddirmygus o bob rhodres. Yr oedd ynddo ymroddiad angerddol i genedlaetholdeb Cymreig a'r iaith (yr oedd yn aelod cynnar o Blaid Genedlaethol Cymru) ac i egwyddorion yr Annibynwyr a fabwysiadodd yn gynnar. Yn dilyn ei briodas yn 1933 ag Eleanor Ann Lewis, merch capten llong o Aberystwyth, ymadawodd â Methodistiaeth ei fagwraeth a dod yn aelod o gapel Seion, Baker Street, Aberystwyth, lle bu'n ddiacon ac ysgrifennydd o 1938 hyd ei farwolaeth.
Aeth llawer o amser E. D. yn negawdau olaf ei oes at gynnal amrywiaeth eang o gymdeithasau, yn fawr a bach. Bu'n llywydd Cymdeithas Archaeolegol Cymru, 1962-3, llywydd Cymdeithas Telynau Cymru, 1965-80, llywydd Cymdeithas Lyfryddol Cymru, 1968-85, a llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1974-5. Ond yn ei ymddeoliad, ymroddai yn anad dim i'w olygyddiaeth o atodiadau Y Bywgraffiadur Cymreig, y naill gyfrol yn cael ei chyhoeddi yn 1970 a'r llall yn 1997. I'r gorchwyl hwn, yn ogystal â'i wybodaeth ddihafal o'r ffynonellau printiedig ac archifol, ei gof neilltuol a'i gywirdeb manwl, daeth E. D. ag un cymhwyster arall, sef ei ddiddordeb di-ben-draw mewn pobl. Tristwch ydyw hwyrach nad yw tudalennau'r atodiadau i'r Bywgraffiadur yn adlewyrchu'r ffaith i E. D. gario yn ei ben gronfa o wybodaeth fywgraffyddol mor gyfoethog ac annisgwyl ag eiddo John Aubrey, ac un y byddai'n tynnu ohoni â'r un pleser. Cof gan lawer amdano, hyd y diwedd, yw pefrio'i lygaid wrth gyfarch cyfeillion, gan ddisgwyl cael rhannu blas yr hyn oedd yn newydd.
Etholwyd E. D. yn FSA yn 1959, yn CBE yn 1965, yn LLD Prifysgol Cymru yn 1972 ac yn FLA yn 1973. Bu farw yn ei gartref, Penllerneuadd, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, ar 7 Mawrth 1987. Y diwrnod cyn ei farwolaeth ddisymwth yr oedd wedi cerdded i'r dref i siopa. Yr oedd cerdded yn dal yn bleser iddo, ei gerddediad yn sionc o hyd, ac i un â'i hoffter ef o gymdeithasu yr oedd taith siopa yn y dref lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes â digon i'w gynnig. Y diwrnod hwnnw fe gludodd adref o siop y rhwymwr barsel trwm o lyfrau newydd eu rhwymo, rhy drwm ym marn ei wraig. Darllenwr mawr a llyfrgarwr ydoedd tan y diwedd. Gadawodd weddw a mab, Glyn Lewis Jones, yntau, fel ei dad, yn llyfrgellydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-04-13
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.