GRUFFUDD FYCHAN, Syr (bu farw 1447), milwr

Enw: Gruffudd Fychan
Dyddiad marw: 1447
Priod: Margred ferch Gruffudd ap Siancyn
Priod: Margred ferch Madog
Plentyn: Dafydd Llwyd ap Gruffudd Fychan
Plentyn: Rheinallt ap Gruffudd Fychan
Plentyn: Cadwaladr ap Gruffudd Fychan
Rhiant: Maud ferch Griffri ap Rhys Fongam
Rhiant: Gruffudd ab Ieuan ap Madog ap Gwenwys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Evan David Jones

O Froniarth a Threlydan ym mhlwyf Cegidfa, Sir Drefaldwyn. Mab ydoedd i Ruffudd ab Ieuan ap Madog ap Gwenwys o Fawd ferch Griffri ap Rhys Fongam. Olrheiniai teulu Gwenwys eu hachau o Frochwel Ysgithrog. Ymddengys mai ym mhlwyf Cegidfa yn swydd Ystrad Marchell yr oedd prif ganolfannau'r teulu. Bu nifer o'i aelodau yn flaenllaw ym mhlaid Owain Glyndŵr, a Gruffudd ab Ieuan yn un ohonynt. Yn ddiweddarach ar ei oes daliai ef swydd o dan arglwyddi Stafford yng nghastell Cawres, a'r pryd hwnnw canodd Lewis Glyn Cothi awdl iddo. Prin y gellir rhoddi coel ar Lewis Dwnn (Visitations, i, 312) fod ' Sr. Griffith Vaughan of Gwenwys Kt.' yn un o fwrdeisiaid y Trallwng, 7 Mehefin 1406. Y mae traddodiad cryf fod Gruffudd Fychan yn un o'r cwmni Cymry y dywedir iddynt achub bywyd Harri V ar faes Agincourt, 1415, pan syrthiodd i berygl wrth achub ei frawd, Humphrey, dug Gloucester, o ddwylo'r Ffrancod. Cododd y gred iddo yntau fel Dafydd Gam, Rhosier Fychan, ac eraill, gael ei urddo'n farchog ar y maes. Ni chofnodir yr urddiadau hyn yn Knights of England Shaw. Os oedd Gruffudd Fychan yn ddigon hen, gallai'n hawdd fod yn Agincourt, gan fod dau o'i arglwyddi tir, Syr John Grae, mab-yng-nghyfraith Syr Edward de Cherleton, arglwydd Powys, a Syr Hugh Stafford, arglwydd Cawres, yn yr ymgyrch honno, ac yn llu dug Gloucester. Rhaid gwrthod y dybiaeth mai ef oedd y Griffin Fordet a enwir mewn cronicl Ffrangeg. Daw'r cofnod sicr cyntaf amdano yn hanes cymryd Syr John Oldcastell, arglwydd Cobham, y Lolard, yn garcharor, mewn llannerch a elwir ' Cobham's Garden ' ar fferm Pantmawr ym Mroniarth rywbryd ym mis Tachwedd 1417. Gosodasid pris o 1,000 o farciau ar ben y ffoadur. Cyrhaeddodd y newydd i Lundain ar 1 Chwefror ei fod mewn dalfa gan Syr Edward de Cherleton. Gorchmynnwyd ei ddanfon yn ddiymdroi i Lundain ac yno y collfarnwyd ef gan y Senedd ar 14 Rhagfyr. Dyfarnwyd y wobr am ei ddal i arglwydd Powys, ond bu ef farw cyn derbyn dim ohoni, a chafodd ei weddw gyfran yn 1422. Pedwar o denantiaid yr arglwydd a gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw yn y gwaith, Ieuan a Gruffudd, meibion Gruffudd ab Ieuan, yn eu plith. Mewn siarter a roes Syr Edward de Cherleton ym Mathrafal, 6 Gorffennaf 1419, maddeuwyd pob llofruddiad a throsedd a wnaethpwyd ganddynt ar yr achlysur, a chawsant eu tiroedd yn Ystrad Marchell yn rhydd o drethiannau arbennig. Yn Amwythig, 4 Mawrth 1420, yng ngŵydd y brenin a dug Gloucester, cydnabu'r pedwar iddynt dderbyn gan arglwydd Powys eu cyfran o'r wobr am ddal Syr John Oldcastell. Y mae'n fwy na thebyg mai ar ôl hyn y gwelodd Gruffudd Fychan fwyaf o wasanaeth yn Ffrainc. Syrthiodd Syr John Grae ar faes Baugé, 3 Ebrill 1421, a dywedir ddarfod dwyn ei gorff adref i'w gladdu yn y Trallwng. Byddai'n ddigon naturiol i Ruffudd Fychan gymryd rhan flaenllaw yn y trefniadau hyn. Dywed rhyw gywyddwr, Llywelyn ap y Moel hwyrach, mewn cywydd i Syr Gruffudd Fychan ('Y marchog blodeuog blaid,' IGE, rhif cxi) mai yn Llundain yr ariannwyd ef ond iddo gael ei euro (sef ei urddo'n farchog) yn Ffrainc mewn tref y tu hwnt i Rôn (Rouen). Yn ei farwnad iddo dywed Lewis Glyn Cothi mai gan y brenin Harri a'i gynghorwyr yr eurwyd ef. Y mae'n briodol casglu mai o dan adain Humphrey, dug Gloucester, y dyrchafwyd ef. Yr oedd yn farchog ac yn ôl yng Nghymru cyn 1443, ac ar ŵyl S. Laurence (10 Awst) y flwyddyn honno yng Nghawres trywanodd â gwaywffon galon ei feistr, Syr Christopher Talbot (1419 - 1443), 3ydd mab iarll Amwythig a phen campwr ei ddydd mewn chwarae gwaywffyn. Fe'i gyrrwyd ar herw a phris o 500 marc ar ei ben, oherwydd nid ystyrid mai damwain ydoedd lladd y marchog ieuanc. Difreiniwyd ef, ei fab Rheinallt, a Dafydd Llwyd ab Ieuan (a allai fod yn nai iddo, neu ŵr o'r un enw a oedd yn gyfyrder iddo) am deyrnfradwriaeth. Llwyddodd Syr Harri Grae, iarll Tancarville ac arglwydd Powys, i'w hudo i'r Castell Coch â saffcwndid (medd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd yn ei farwnad) ar 9 Gorffennaf 1447, ac yno torrwyd ei ben yn ddisyfyd. Ni bu'r iarll yn hir cyn hawlio'r wobr a chaniatawyd prifai sêl amdani ar 20 Gorffennaf, er nas talwyd, oherwydd wedi ei farw bu ei fab Rhisiart Grae yn ceisio prifai sêl adnewyddol. Awgrymir mai cenfigen at allu a pherthynas Syr Gruffudd Fychan i hen deuluoedd tywysogaidd Powys a barodd i Harri Grae fanteisio ar ei ddifreiniad. Cythruddwyd y beirdd gan y brad, a chanodd Lewis Glyn Cothi a Dafydd Llwyd farwnadau, yn llawn ffyrnigrwydd at arglwydd Powys. Yn y llyfrau achau rhoir i Syr Gruffudd ddwy wraig: Margred ferch Madog o'r Hôb, Worthen, a Margred ferch Gruffudd ap Siancyn, arglwydd Brochdyn. Gadawodd dri mab, Cadwaladr, o'r hwn y disgynnodd Llwydiaid y Maesmawr, Rheinallt, o'r hwn y daeth Wyniaid y Garth yng Nghegidfa, a Dafydd Llwyd, hynaf Llwydiaid y Llai a'r Hafodwen. Cymerodd Rheinallt a Dafydd Llwyd eu pardwn gan y brenin, 21 Rhagfyr 1448. Canodd Tudur Penllyn farwnad ('Llwyn Gwenwys perllan gwinwydd') i dri mab Dafydd Llwyd a'i frawd, Cadwaladr, a fu farw yr un pryd. Prin y gellir derbyn damcaniaeth awduron yr History of Parliament mai'r Dafydd Llwyd hwn ydoedd yr aelod seneddol dros Guildford, 1459, 1460-1. Bu farw yn 1497, ac ni ellir derbyn tystiolaeth rhai llawysgrifau mai iddo ef y canodd Dafydd Llwyd ap Llywelyn y farwnad ' Trwm fu'r codded a'r tremig.' Y mae ei gefnder, Dafydd Llwyd ab Ieuan, yn gweddu'n well i'r capten ieuanc a foddodd pan neidiodd ei farch o long.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.