Am ei ach, gweler llawysgrifau Peniarth MS 125: Cywyddau ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal , Peniarth MS 139i Peniarth MS 139ii Peniarth MS 139iii , Peniarth MS 176: Achau , Wrexham l, a Stowe 669. Tudur Penllyn ab Ieuan ab Iorwerth Foel ydoedd, ond yn un llawysgrif ceir Tudur Penllyn ap Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth Foel; yr oedd yn olrhain ei linach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion, sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn, a chyndad i rai o deuluoedd enwog y cantref hwnnw. Ni wyddys pa le y ganed Tudur Penllyn na pha le y maged ef, ond nid yw'n annhebygol iddo dreulio'r rhan gyntaf o'i oes, fel y treuliodd y rhan olaf, yng nghantref Penllyn, y cantref a roes enw iddo. Wedi iddo dyfu'n ŵr, preswyliai yng Nghaergai, ym mhlwyf Llanuwchllyn, ac ymddengys y gwnâi hynny yn hawl ei wraig, Gwerful ferch Ieuan Fychan ab Ieuan ap Hywel y Gadair ap Gruffydd ap Madog ap Rhirid Flaidd; gweler Powys Fadog, ii, 119; vi, 119, 129. Ymddengys fod Tudur Penllyn yn porthmona, yn cadw preiddiau defaid ac ŵyn ac yn gwerthu gwlân, yn ogystal â barddoni, ond ni chadwai hynny mohono rhag dilyn arfer y beirdd o glera a theithio o Blas i Blas yn y Deau a'r Gogledd. Ei brif noddwyr oedd Gruffydd Fychan o Gors-y-gedol (canodd gywydd moliant i'r gwron hwn rhwng 1461 a 1468 pan oedd yn cynnal Castell Harlech gyda Dafydd ab Ieuan ab Einion yn erbyn plaid Edward IV); Rheinallt ap Gruffydd o'r Wyddgrug (canodd awdl i ddialedd yr uchelwr hwn ar wŷr Caer pryd y lladdwyd Robert Byrne, maer Caer; bu farw Rheinallt naill ai yn 1465 neu yn 1466); a Dafydd Siencyn o Nanconwy, un o ffyddloniaid Siasbar Tudur a Harri o Ritsmwnd, a gŵr enwog am ei gyrchoedd ar y Saeson. Fel y gellid disgwyl, pleidiai Tudur Penllyn yr uchelwyr a safai dros eu hawliau mewn cyfnod o elyniaeth ffyrnig rhwng Cymro a Sais. Rhagora ar ganu moliant gwŷr a gwragedd, er bod min ar ei ddychan hefyd, ac y mae camp ar ei ddisgrifiadau. Yr oedd ei fab, IEUAN AP TUDUR PENLLYN, yntau'n fardd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.