Mab Robert, Arglwydd Cherleton yn Wrockwardine, Sir Amwythig. Yn 1309 priododd Hawys (Hawise) Gadarn, chwaer ac aeres Gruffydd ab Owain (bu farw 1309), arglwydd Powys. Yr oedd y Cherletoniaid (Charltoniaid) felly yn arglwyddi y 'rhan honno o Gymru yn y 14eg ganrif a dechrau'r 15fed. Gwrthwynebwyd gwaith John Cherleton yn meddiannu Powys gan Gruffydd ap Gruffydd, ewythr Hawys, a gynorthwyid gan aelodau teulu Lestrange, arglwyddi Knokyn, Sir Amwythig, eithr bu'r ddeuddyn yn gwasanaethu gyda'i gilydd yn erbyn y Sgotiaid, a gorchmynnwyd i arglwydd Powys gyflenwi gwyr o'i diroedd Cymreig i wasanaethu yn erbyn y Sgotiaid a'r Ffrancwyr. Yr oedd John yn llywiawdr castell Llanfairymuallt, 1314, bu'n gwrthwynebu gwrthryfelwyr Cymreig yn 1316, gwnaeth Llanidloes yn fwrdeisdref, 1344, a bu'n noddwr i abaty Ystrad Marchell. Claddwyd ef yn y Grey Friars, Amwythig, yn nesaf at fedd ei wraig (bu farw 1344-53?), ail sefydlydd y Grey Friars.
Gorwyr i'r John Cherleton uchod. Daeth yn farnwr Gogledd Cymru yn 1387 a gorchfygodd Owain Glyndwr yn 1401. Brawd iddo, a'i aer, oedd EDWARD CHERLETON (1371 - 1421). Yr oedd Edward yn gomisiynwr er amddiffyn y Mars, 1403, gorchfygodd iarll Northumberland a'r arglwydd Bardolf, gwrthryfelwyr a chynghreiriaid Owain Glyndwr, 1406, ac yr oedd yn gyfaill i Adam de Usk. Ym mis Tachwedd cymerwyd Syr John Oldcastle i'r ddalfa (yn Broniarth, gerllaw y Trallwng) gan Syr Gruffydd Vaughan a'i frawd Ieuan ap Gruffydd yn cael eu cynorthwyo gan Hywel ap Gruffydd ap Dafydd ap Madog a Deio ab Ieuan ab Iorwerth, dau wyr gwreng. Trosglwyddwyd Oldcastle gan y gwyr hyn i Edward Cherleton, ar farw yr hwn, yn 1421, y daeth llinach wryw y teulu i'w therfyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.