GRUFFYDD ap GWENWYNWYN (bu farw 1286 neu 1287), arglwydd Powys Uchaf

Enw: Gruffydd ap Gwenwynwyn
Dyddiad marw: 1286 neu 1287
Priod: Hawys Lestrange
Plentyn: Margaret de la Pole
Plentyn: Owen de la Pole
Rhiant: Margaret Corbet
Rhiant: Gwenwynwyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd Powys Uchaf
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab hynaf Gwenwynwyn a Margaret Corbet, Caws. Plentyn ydoedd pan fu ei dad farw yn alltud yn 1216 a chadwyd ef o'i etifeddiaeth hyd ar ôl marw Llywelyn I; yn y cyfamser treuliodd ei ieuenctid a'i flynyddoedd cynnar fel dyn yn Lloegr, yn ddibynnol ar haelioni'r brenin ac ar waddol ei fam. Pan ymostyngodd David II i Harri III yn 1241 sefydlwyd Gruffydd gan y brenin (eithr ar delerau cwbl ffiwdalaidd) yn arglwyddiaeth tiroedd y teulu yn Arwystli, Cyfeiliog, Mawddwy, Caereinion, y Tair Swydd, a Mochnant Uchaf. Rywbryd cyn yr adeg bwysig hon yn ei yrfa yr oedd wedi priodi Hawys (Hawise), merch John Lestrange, Knockin.

Bu'n ddiysgog yn ei deyrngarwch i'r Goron yn ystod y 10 mlynedd cyntaf yr oedd Llywelyn yn ennill awdurdod ynddynt, a bu raid iddo ddioddef colli ei dreftadaeth am yr ail waith a bod yn alltud am yr ail waith hefyd (1257). Yr oedd yn amlwg mai yn erbyn ei ewyllys - a cholli ohono hefyd diroedd Cyfeiliog a oedd yn gorwedd ar ochr ogleddol yr afon Dyfi - y cytunodd, yn 1263, i drosglwyddo ei wrogaeth i Llywelyn a chydweithredu â chynllun hwnnw i sefydlu tywysogaeth ffiwdalaidd Gymreig. Parhaodd y trefniant hwn, a gadarnhawyd yng Nghytundeb Trefaldwyn (1267), hyd 1274, blwyddyn y cynllwyn rhemp yn erbyn bywyd Llywelyn a chynllwyn y bu i Hawys a'i mab Owen gyfran ynddo.

O Amwythig, lle y llochesai yn ystod ei drydedd alltudiaeth, parhaodd Gruffydd, efallai gyda rhyw gymaint o anogaeth gan y brenin, i beri blinder i Lywelyn a thrwy hynny i achosi, mewn rhan, ryfel y flwyddyn 1277. Wedi iddo gael ei ail sefydlu yn ei arglwyddiaeth ym Mhowys wedi i Lywelyn gael ei ddarostwng, yr oedd eto heb gael yn ôl y tiroedd ar du'r gogledd i afon Dyfi; daeth y rhai hyn, bellach, yn destun anghydfod cyfreithiol rhyngddo â thywysog Cymru - a'r sefyllfa gymhleth a ddilynodd yn sgil yr anghydfod hwnnw yn ffurfio rhan o'r plethiad amgylchiadau a arweiniodd i dorri allan y rhyfel yn 1282; yn y rhyfel hwnnw yr oedd Gruffydd gyda'r pwysicaf ymysg pleidwyr Edward.

Bu fyw am bum mlynedd wedi'r Goncwest, gan farw rhywbryd rhwng 21 Chwefror 1286 a diwedd 1287. Fe'i goroeswyd gan ei wraig (bu farw 1310), chwe mab, ac un ferch. Aeth rhan fwyaf yr etifeddiaeth i'w fab hynaf, OWEN DE LA POLE, ac, yn nes ymlaen, yn 1309, i John Charlton, gwr Hawise, wyres Gruffydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.