Mab Owain Cyfeiliog a Gwenllian ferch Owain Gwynedd. Yn 1195 dilynodd ei dad fel arglwydd Is-Bowys. Pan enillodd Gwenwynwyn arglwyddiaeth ar Arwystli yn 1197 daeth y cwbl bron o'r wlad rhwng Tanad a Hafren, ynghyd â rhannau o ddyffrynnoedd Dyfi a Gŵy, o dan ei awdurdod. O hyn allan, adnabuwyd yr holl diriogaeth hwn o dan yr enw Powys Wenwynwyn (arwynebedd ymron cyfled i Sir Drefaldwyn presennol) er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â rhan arall o hen Bowys neu Bowys Fadog a berthynai yn ddiweddarach i sir Ddinbych ac a enwyd felly ar ôl cyfyrder i Wenwynwyn, Madog ap Gruffydd Maelor I, a ddaeth yn unig feddiannydd y rhanbarth hwnnw tua'r un adeg.
Heblaw iddo adael ei nod barhaol ar gyfundrefn enwau canolbarth Cymru, gwnaeth Gwenwynwyn ym mlynyddoedd cyntaf ei yrfa yr ymgais fwyaf beiddgar a wnaed erioed am arweiniad gwleidyddol yng Nghymru gan dywysog o gyff Powys. Nid oedd yn fyr o'r dewrder a'r uchelgais angenrheidiol, a daeth y cyfle i weithredu gyda thrai yn ffawd helyntion teuluaidd tywysogion Gwynedd a Deheubarth. Ar ôl peth llwyddiant ar y dechrau, modd bynnag, gorchfygwyd Gwenwynwyn gan y dylanwadau hynny a fu'n rhwystr i Bowys dro ar ôl tro rhag bod ar y blaen ymhlith llwythau brenhinol Cymru ond am fyr amser.
Bu dau ymosodiad ar y gororau rhwng Gwy a Hafren yn drychinebus iddo, ac ar yr ail achlysur, yn 1208, amddifadwyd ef o'i holl diroedd gan y brenin John. Er i'r brenin eu trosglwyddo'n ôl iddo yn 1210, bu raid i Wenwynwyn, yn wyneb gorfodaeth dibaid Llywelyn Fawr yn 1212, ei ieuo ei hun, er yn anesmwyth, â thywysog Gwynedd, uniad a barhaodd trwy flynyddoedd o argyfwng yn Lloegr, ac a ddaeth i ben yn 1215, gyda llw o wrogaeth a gymerwyd gan Wenwynwyn i Llywelyn; ond torrwyd y llw hwnnw yn 1216, ac er i Wenwynwyn farw'n alltud yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, dengys hyn mor anesmwyth y bu'r undeb newydd hwn, a bu'n argoel anffafriol i ddyfodol y berthynas cydrhwng y ddwy dalaith. Goroeswyd Gwenwynwyn gan ddau fab bychan - Gruffydd a Madog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.