Mab hyn Gruffydd Maelor I ac Angharad, ferch Owen Gwynedd. Ynghyd â'i frawd Owen, dilynodd Gruffydd Maelor yn 1191, a phan fu Owen farw yn 1197 daeth yn unig reolwr Powys i'r gogledd o afonydd Rhaeadr a Thanat. O hyn ymlaen daeth y wlad hon - a gynhwysai Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg, Iâl, Cynllaith, Nanheudwy, a rhan o Mochnant - i'w galw yn Powys Fadog o'i chyferbynnu â Phowys Wenwynwyn (gweler dan Gwenwynwyn).
Ar y cyntaf yr oedd Madog yn gyfeillgar â Llywelyn I, eithr troes ei gefn ar ei gefnder pan oedd ffawd hwnnw yn bur isel yn 1211. Parhaodd i gadw draw wedi i Lywelyn ailffurfio'r gynghreiriaeth Gymreig yn 1212 ac ystyrid ef fel un o gynghreiriaid cydnabyddedig y brenin John, yn derbyn tâl ganddo. Erbyn 1215, fodd bynnag, fe'i ceir yn gadarn o blaid Llywelyn a pharhaodd felly hyd y diwedd.
Wedi ei farw ef yn 1236, amharwyd ar undod Powys Fadog gan y rhannu a fu cydrhwng ei bum mab - Gruffydd Maelor II, Gruffydd Iâl, Maredudd, Howel, a Madog Fychan. Claddwyd ef yn abaty Glyn y Groes, a sefydlasai ef ei hun - mynachlog ddiwethaf Urdd y Sistersiaid yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.