GRUFFYDD ap MADOG neu GRUFFYDD MAELOR I (bu farw 1191);

Enw: Gruffydd ap Madog
Dyddiad marw: 1191
Priod: Angharad ferch Owain Gwynedd
Plentyn: Owen ap Gruffydd
Plentyn: Madog ap Gruffydd Maelor
Rhiant: Susanna ferch Gruffydd ap Cynan
Rhiant: Madog ap Maredudd
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Madog ap Maredudd a Susanna, merch Gruffydd ap Cynan, a sylfaenydd prif linach deyrnasol gogledd Powys yn ystod y 13eg ganrif. Pan rannwyd y dalaith yn ddwy adran o ddylanwad ar farwolaeth Madog ap Maredudd yn 1160, yr oedd tiroedd i'r gogledd o'r Rhaeadr yn agored i gael eu rhannu unwaith yn rhagor cydrhwng Gruffydd a'i frodyr; gweler Owain Fychan ac Owen Brogyntyn. Ei gyfran ef oedd Maelor a Ial (Brwmffild a Ial); at hyn ychwanegodd yntau Nanheudwy yn ddiweddarach, ac, ar farw Owen Fychan yn 1187, diroedd Cynllaith a Mochnant isaf. Ar wahân i Benllyn ac Edeirnion yr oedd felly wedi aduno gogledd Powys, er mai ei fab hynaf, Madog, a roes ei enw i'r adran hon o'r wlad a alwyd bellach yn Powys Fadog. Priododd ei gyfnither, Angharad, merch Owain Gwynedd, a bu iddo ddau fab - Madog ac Owen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.