Mab Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn. Efe oedd yr olaf o'i linach i reoli fel brenin dros Bowys gyfan, gan gynnwys arglwyddiaeth (Fitzalan) Croesoswallt (gweler Owain Brogyntyn). Wedi iddo ddilyn ei dad yn 1132, y ddyletswydd a ystyriai ef yn fwyaf ei phwysigrwydd, yn enwedig rhwng y blynyddoedd 1149 a 1157 oedd amddiffyn Powys yn erbyn gormes Owain Gwynedd. Gan ei fod yn cael ei fygwth gan adeiladu castell Tomen-y-Rhodwydd ym mhen deheuol Dyffryn Clwyd, heriodd Madog, mewn cynghrair â Ranulf, iarll Caer, nesâd Owain tuag ato, eithr ni lwyddodd yr her, a chollodd Madog, am beth amser, lywodraeth ar ei diroedd yn Iâl.
Daeth tro ar fyd yn hyn o beth, fodd bynnag, yn 1157 pan wnaeth Harri II, gyda chymorth Madog, ddatganiad pendant o'i awdurdod fel brenin yng Ngogledd Cymru. Hyd ei farwolaeth dair blynedd yn ddiweddarach yr oedd Madog yn parhau i fod ar delerau cyfeillgar â'i gynorthwywr pwerus yng Ngogledd Cymru. Canwyd ei glodydd gan feirdd pennaf ei oes; ceir hefyd mewn rhamantau prôs cyfoes adlewyrchiad o'i ddylanwad ar ganolbarth Cymru. Claddwyd ef ym mam-eglwys Powys - eglwys Tysilio ym Meifod. Ei wraig oedd Susanna, ferch Gruffydd ap Cynan.
Rhannwyd ei diroedd cydrhwng nifer o is-arglwyddi Powys -meibion a neiaint iddo - ac ni bu iddynt byth mwy gael eu haduno yn nwylo un rheolwr. Aam ei etifeddion gweler Gruffydd Maelor I, Owain Fychan, Owain Brogyntyn, ac Owain Cyfeiliog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/